

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Cynhaliwyd y Cyfrifiad ar 27 Mawrth 2011, ac mae'n brif ffynhonnell gwybodaeth am yr iaith Gymraeg. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n gyfrifol am y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.Casgliad data a dull cyfrifo
Yng Nghyfrifiad 2011, gofynnwyd y cwestiwn 'A allwch ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?' - ac roedd modd ateb drwy dicio un neu ragor o bum blwch (un i bob categori ac un ar gyfer 'Dim un o'r rhain') mewn unrhyw gyfuniad. Dim ond yng Nghymru y gofynnwyd y cwestiwn hwn, a chyflwynir atebion ar gyfer pobl 3 oed a throsodd. Nid oedd y Cyfrifiad yn casglu gwybodaeth ynghylch pa mor rhugl ydynt na pha mor aml y maent yn defnyddio'r Gymraeg.Cyhoeddwyd y canlyniadau cyfrifiad cyntaf am yr iaith Gymraeg ar 11 Rhagfyr 2012.
Mae rhagor o wybodaeth am amcangyfrifon y cyfrifiad, gan gynnwys y fethodoleg a ddefnyddiwyd a gwybodaeth am sut y caiff is-grwpiau o'r boblogaeth eu diffinio a'u hamcangyfrif, ar gael ar dudalen hafan Cyfrifiad 2011.