Y Cyfrifiad: Y Gymraeg
Bob 10 mlynedd, mae un diwrnod yn cael ei neilltuo ar gyfer y Cyfrifiad - pan eir ati i gyfrif pob unigolyn a phob aelwyd. Y Cyfrifiad yw'r ffynhonnell fwyaf cyflawn sydd gennym o wybodaeth am y boblogaeth.
Y Cyfrifiad yw’r ffynhonnell wybodaeth allweddol am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu gwybodaeth yn fwy rheolaidd am allu ymatebwyr i siarad Cymraeg. Ceir gwybodaeth fanylach am ddefnydd o’r iaith, mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, o Arolygon Defnydd Iaith.