Busnesau newydd yn ôl ardal a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Gendigaethau, marwolaethau a mentrau gweithredol busnesDiweddariad diwethaf
22 Tachwedd 2024Diweddariad nesaf
January 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Demograffeg Busnes, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi manylion genedigaethau, marwolaethau a mentrau gweithredol busnes fesul ardal.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae genedigaethau, marwolaethau a mentrau gweithgar fesul 10,000 o’r boblogaeth wedi’u cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth ONS, sydd are gael hyd at 2023 ar hyn o bryd.Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio data o'r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau (IDBR) i gynhyrchu ei hystadegau ar ddemograffeg busnesau, gan ddefnyddio canllawiau a geir yn y llawlyfr Eurostat/y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar Ddemograffeg Busnes. Y man cychwyn ar gyfer demograffeg yw'r cysyniad o boblogaeth o fusnesau gweithredol mewn blwyddyn gyfeirio. Diffinnir y rhain fel busnesau oedd â throsiant neu gyflogaeth ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyfeirio. Yna, mae genedigaethau a marwolaethau'n cael eu nodi drwy gymharu poblogaethau gweithredol ar gyfer gwahanol flynyddoedd.
Diffinnir genedigaeth fel busnes a oedd yn bodoli ym mlwyddyn t, ond nad oedd yn bodoli ym mlwyddyn t-1 neu t-2. Nodir genedigaethau drwy gymharu ffeiliau poblogaeth gweithredol blynyddol a nodi'r rhai hynny a oedd yn bodoli yn y ddiweddaraf, ond nid yn y ddwy flaenorol.
Diffinnir marwolaeth fel busnes a oedd ar y ffeil weithredol ym mlwyddyn t ond nad yw’n bodoli bellach ar y ffeil weithredol ar gyfer blwyddyn t+1 neu t+2. Er mwyn cynhyrchu ystadegau manylach, mae ystadegau demograffeg busnes y DU yn cynnwys dangosydd marwolaeth rhagarweiniol, sy’n cynnwys addasiad ar gyfer ailgychwyniadau a amcangyfrifir. Mae ailgychwyniadau’n digwydd pan fydd busnes yn segur am gyfnod o lai na 2 flynedd, yna’n ailddechrau gweithgarwch mewn modd sy’n cydymffurfio â diffiniad o barhad. Os nad yw’r diffiniad o barhad yn cael ei fodloni (e.e. os yw busnes yn ailddechrau gweithgarwch ond mewn gwahanol leoliad a gyda gwahanol weithgarwch), byddai hyn yn cael ei ystyried yn farwolaeth wedyn genedigaeth. Gall ailgychwyniadau ddigwydd hefyd yn sgil oedi yn ffynhonnell y data gweinyddol (TAW/Talu Wrth Ennill) felly gall busnes sy’n parhau i fasnachu ymddangos fel petai wedi marw. Nid yw’r data marwolaethau’n cynnwys colledion i’r boblogaeth yn sgil busnesau’n uno, yn dod i ben, yn gwahanu neu’n ailstrwythuro.
Mae ystadegau ar ddemograffeg busnesau y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn wahanol i ystadegau’r cyn-Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR) gan eu bod yn cynnwys unedau sy’n PAYE gofrestredig. Felly, bydd ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cynnwys genedigaethau a marwolaethau busnesau sy’n cyflogi nad ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer TAW, gan roi golwg mwy cynhwysfawr ar weithgarwch dechrau busnesau. Mae gan ddata’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fwy o fusnesau gweithredol hefyd na chyfres seiliedig ar TAW flaenorol BERR a’r cyhoeddiad UK Business: Activity Size and Location sydd wedi ei ehangu. Mae hyn oherwydd bod y fethodoleg i bennu demograffeg busnesau yn ystyried busnesau a oedd yn weithredol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gyfeirio, tra bod cyfres y cyn-adran BERR yn cyfrifo stoc drwy ychwanegu cofrestriadau a thynnu dadgofrestriadau o stoc y flwyddyn flaenorol; mae’r cyhoeddiad UK Business: Activity Size and Location yn seiliedig ar gipolwg gan yr IDBR ar adeg benodol ym mis Mawrth. Hefyd, mae demograffeg busnesau yn cynnwys grwp o fusnesau PAYE anghorfforaethol a oedd wedi’u heithrio o UK Business: Activity Size and Location oherwydd risg fach o ddyblygu.
Mae'r rhanbarthau economaidd, fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, yn cynnwys yr awdurdodau lleol canlynol:
Canolbarth a’r Dde-orllewin Cymru: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Powys a Cheredigion.
De-ddwyrain Cymru: Bridgend, Bro Morgannwg, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd.
Gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Roedd rhanbarth Canolbarth a De Orllewin Cymru wedi'i rannu'n flaenorol yn y ddwy ranbarth economaidd ganlynol:
Canolbarth Cymru: Powys a Cheredigion.
De-orllewin Cymru: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
O fewn y rhaniad blaenorol o ranbarthau economaidd Cymru, roedd rhan o awdurdod lleol Gwynedd (hen ardal Meirionydd) yn gorwedd mewn rhanbarth economaidd Canolbarth Cymru, er nad yw’n cael ei gynrychioli yn y data.
Sylwch, mae lefelau ar gyfer rhanbarthau economaidd Cymru ac ardaloedd NUTS3 a phob cyfradd ganran (gan gynnwys ffigyrau pob 10,000 o'r boblogaeth) wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio'r ffigyrau wedi’u talgrynnu, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2002 i 2023Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae data yn cael ei dalgrynnu i'r 5 agosaf.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Gallai'r amcangyfrifon dwy flynedd diweddaraf ar enedigaethau a marwolaethau gael eu diwygio a byddai hynny'n cael ei wneud yng nghyhoeddiad y flwyddyn ganlynol fel arfer.Ansawdd ystadegol
Gweld dolenni'r weMae tablau StatsCymru ar gyfer busnesau wedi eu geni, marw a fentrau gweithredol yn ôl diwydiant wedi'i ddiweddaru i gynnwys y data diweddaraf (2019)
Allweddeiriau
BusnesauDolenni'r we
Gellir cael adroddiad ar ansawdd yr ystadegau yn y ddolen isod:http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/method-quality/quality/quality-information/business-and-energy/quality-and-methodology-information-for-business-demography.pdf