Cyfraddau Goroesi Busnesau yng Nghymru yn ôl blwyddyn goroesi a blwyddyn dechrau'r busnes
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Business survival ratesDiweddariad diwethaf
22 Tachwedd 2024Diweddariad nesaf
Tachwedd 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Demograffeg Busnes, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
Gellir gweld adroddiad ansawdd ystadegau o ddilyn y ddolen isod: http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/method-quality/quality/quality-information/business-and-energy/quality-and-methodology-information-for-business-demography.pdfDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi cyfraddau goroesi busnesau yn ôl ardal.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio data o’r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau i gynhyrchu ystadegau demograffeg busnes, gan ddefnyddio canllawiau a geir yn llawlyfr Eurostat/OECD ar Ddemograffeg Busnes. Y man cychwyn ar gyfer demograffeg yw cysyniad poblogaeth o fusnesau gweithredol mewn blwyddyn gyfeirio. Diffinnir y rhain fel busnesau oedd â throsiant neu gyflogaeth ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyfeirio. Wedyn canfyddir genedigaethau a marwolaethau trwy gymharu poblogaethau gweithredol ar gyfer blynyddoedd gwahanol.Diffinnir genedigaeth fel busnes oedd yn bresennol ym mlwyddyn t, ond nad oedd yn bodoli ym mlwyddyn t-1 neu t-2. Canfyddir genedigaethau trwy gymharu ffeiliau poblogaeth weithredol blynyddol a chanfod y rheiny sy’n bresennol yn y ddiweddaraf, ond nid yn y ddwy flaenorol.
Diffinnir marwolaeth fel busnes oedd yn y ffeil busnesau gweithredol ym mlwyddyn t ond nad yw’n bresennol mwyach yn y ffeil busnesau gweithredol ar gyfer blwyddyn t+1 neu t+2. Er mwyn cynhyrchu ystadegau mwy amserol, mae ystadegau demograffeg busnes y DU yn cynnwys rhag-ddangosydd marwolaeth, sy’n cynnwys addasiad ar gyfer ailgychwyniadau amcangyfrifedig. Mae ailgychwyniadau’n digwydd pan fo busnes yn mynd yn segur am gyfnod o lai na 2 flynedd, ac yna’n ailgychwyn gweithredu mewn modd sy’n cydymffurfio â diffiniad o barhad. Os na fodlonir y diffiniad o barhad (e.e. os yw’r busnes yn ailgychwyn gweithredu ond mewn man gwahanol a gyda gweithgarwch gwahanol), byddid yn ystyried hyn yn farwolaeth yn cael ei dilyn gan enedigaeth. Gall ailgychwyniadau hefyd ddigwydd oherwydd oediadau yn y ffynhonnell data gweinyddol (TAW/Talu Wrth Ennill) fel y gall busnes sy’n parhau i fasnachu ymddangos fel pe bai’n marw. Mae’r data marwolaethau’n eithrio colledion yn y boblogaeth o ganlyniad i uniadau, rhaniadau neu fathau eraill o ailstrwythuro.
Mae ystadegau demograffeg busnes y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn wahanol i ystadegau’r hen Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR) gan eu bod yn cynnwys unedau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer y cynllun Talu Wrth Ennill. Felly, bydd ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cynnwys genedigaethau a marwolaethau busnesau sy’n cyflogi pobl nad ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer TAW, gan roi darlun mwy cynhwysfawr o weithgarwch dechrau busnes. Mae gan ddata’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd nifer fwy o fusnesau gweithredol na hen gyfres BERR oedd wedi’i seilio ar TAW a’r cyhoeddiad estynedig ‘UK Business: Activity Size and Location’. Mae hyn oherwydd bod y fethodoleg demograffeg busnes yn cymryd i ystyriaeth fusnesau oedd yn weithredol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gyfeirio, tra bo hen gyfres BERR yn cyfrifo stoc trwy ychwanegu cofrestriadau a didynnu dadgofrestriadau o stoc y flwyddyn flaenorol; mae cyhoeddiad ‘UK Business: Activity Size and Location’ wedi’i seilio ar giplun a dynnir o’r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau ar adeg benodol o amser ym mis Mawrth. At hynny, mae demograffeg busnes yn cynnwys grwp o fusnesau Talu Wrth Ennill anghorfforaethol, sydd wedi’u heithrio o gyhoeddiad ‘UK Business: Activity Size and Location’ oherwydd risg fach o ddyblygu.