Mae'r set ddata hon yn darparu data ar strwythur y mentrau sy'n weithredol yng Nghymru yn ôl diwydiant (SIC 2007) a band maint, gan gynnwys amcangyfrifon ar gyfer y busnesau lleiaf sy'n gweithredu o dan y trothwy TAW. Mae'r newidynnau a ddadansoddwyd yn gyfrif o nifer y mentrau sy'n weithredol ym mhob ardal, ynghyd â chyflogaeth gysylltiedig a chyfanredau trosiant ym mhob un o'r diwydiannau a bandiau maint penodol, gyda'r ail yn cael ei ddefnyddio ar nifer y gweithwyr yn y DU yn y fenter yn gyffredinol. Noder bod y dadansoddiadau o ardal yn y data yn seiliedig ar y gweithle.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’r data a roddir wedi’u seilio ar fentrau sydd â rhywfaint o weithgarwch yng Nghymru neu un o'i his-ardaloedd, ni waeth beth yw rhanbarth y cofrestriad. Yn y cyd-destun hwn, cymerir bod menter yn sefydliad cyfan, gan gynnwys ei phrif swyddfa a’r holl safleoedd unigol yn y DU, lle bynnag y bônt. Mae rhanbarth y fenter fel arfer wedi’i seilio ar leoliad ei phrif swyddfa, er y gall y safleoedd fod mewn rhanbarthau eraill. Mae’r ffigurau a roddir ar gyfer cyflogaeth a throsiant ar gyfer Cymru neu ei his-ardaloedd yn y dadansoddiad hwn yn ymwneud â safleoedd y mentrau sydd yn yr ardaloedd hynny yn unig. Ym mhob achos, mae band maint y fenter wedi’i seilio ar nifer y cyflogeion yn y DU (boed amser llawn neu ran amser) yn y fenter. Mae hyn yn sicrhau bod menter sy’n cyflogi 10,000 o staff yn y DU ond dim ond llond llaw yn yr ardal benodol yn cael ei chategoreiddio fel menter fawr ac nid microfenter. Mae’r mentrau yr ymdrinnir â hwy i gyd yn fentrau yn y sector preifat (hynny yw, cwmnïau, unig berchnogaethau, partneriaethau, cyrff dielw preifat a chymdeithasau cydfuddiannol), a hefyd corfforaethau cyhoeddus a chyrff gwladoledig. Caiff sefydliadau llywodraeth leol a chanolog eu heithrio. Deilliwyd y data o nifer o ffynonellau. Y brif ffynhonnell yw detholiad manwl a gymerir ym mis Mawrth bob blwyddyn o’r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau (IDBR) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae hon yn rhoi manylion yr holl fentrau sy’n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys ffigurau cyflogaeth a throsiant y DU a ffigurau deilliedig ar gyfer elfennau cyflogaeth a throsiant Cymru (gan ddefnyddio gwybodaeth am y safleoedd ym mhob menter sydd yng Nghymru). Mae hefyd yn cynnwys dynodwyr ar gyfer diwydiant (gan ddefnyddio’r Dosbarthiad Diwydiannol Safonol), lleoliad daearyddol a statws cyfreithiol pob menter, ac felly’n caniatáu’r dadansoddiad a roddir yma.
Gan fod yr holl gyfrifiadau mentrau a chyfansymiau cyflogaeth yn y set ddata hon wedi cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r 5 a 100 agosaf yn y drefn honno, a bod yr holl gyfansymiau trosiant wedi cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r miliwn o bunnoedd agosaf, mae'n bosibl na fydd y ffigurau'n adio'n union. Er mwyn osgoi celu data oherwydd rheolaeth ar ddatgelu (sy'n orfodol ar gyfer unrhyw gyfansymiau wedi'u seilio ar lai na 20 o fentrau), mae rhai o'r bandiau maint wedi cael eu dangos ar ffurf gyfunedig. Mae'r bandiau maint cyfunedig hyn wedi cael eu dewis i gyfyngu ar faint y cyfuno ac ar yr un pryd sicrhau na chaiff unrhyw ddata eu celu.
Ansawdd ystadegol
Mae'r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau yn ymdrin â chyfran fawr iawn o'r gyflogaeth a'r trosiant yn y DU, ond oherwydd ei bod yn eithrio'r rhan fwyaf o'r nifer fawr iawn o fusnesau lleiaf sy'n gweithredu o dan y trothwy ar gyfer TAW, dim ond rhan o'r holl nifer o fentrau (oddeutu 50%) mae'n ymdrin â hwy. Er mwyn cywiro ar gyfer hyn, mae'r ffigurau a ddangosir yma'n cynnwys amcangyfrifon ar gyfer mentrau sydd heb eu cofrestru, ynghyd â'r gyflogaeth a'r trosiant sy'n gysylltiedig â hwy. Cyfrifir yr amcangyfrifon hyn ar gyfer mentrau sydd heb eu cofrestru gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol: data'r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau; gwybodaeth am bersonau sy'n hunangyflogedig yn eu prif neu ail swydd, wedi'i chymryd o'r Arolwg o'r Llafurlu a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; a gwybodaeth am nifer yr unig fasnachwyr a phartneriaethau o'r data Arolwg o Incymau Personol a ddarperir gan Gyllid y Wlad.