Strwythur busnesau yng Nghymru yn ôl band maint a mesur
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn darparu data ar strwythur y mentrau sy'n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys amcangyfrifon ar gyfer y busnesau lleiaf sy'n gweithredu o dan y trothwy TAW. Mae'r newidynnau a ddadansoddwyd yn gyfrif o nifer y mentrau sy'n weithredol ym mhob ardal, ynghyd â chyflogaeth gysylltiedig a chyfanredau trosiant ym mhob un o'r bandiau maint penodol, ar sail nifer y gweithwyr yn y DU yn y fenter yn gyffredinol.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’r data a roddir wedi’u seilio ar fentrau sydd â rhywfaint o weithgarwch yng Nghymru, ni waeth beth yw rhanbarth y cofrestriad. Yn y cyd-destun hwn, cymerir bod menter yn sefydliad cyfan, gan gynnwys ei phrif swyddfa a’r holl safleoedd unigol yn y DU, lle bynnag y bônt. Mae rhanbarth y fenter fel arfer wedi’i seilio ar leoliad ei phrif swyddfa, er y gall y safleoedd fod mewn rhanbarthau eraill. Mae’r ffigurau a roddir ar gyfer cyflogaeth a throsiant ar gyfer Cymru yn y dadansoddiad hwn yn ymwneud â safleoedd y mentrau sydd yng Nghymru yn unig.Ym mhob achos, mae band maint y fenter wedi’i seilio ar nifer y cyflogeion yn y DU (boed amser llawn neu ran amser) yn y fenter. Mae hyn yn sicrhau bod menter sy’n cyflogi 10,000 o staff yn y DU ond dim ond llond llaw yng Nghymru’n cael ei chategoreiddio fel menter fawr ac nid microfenter.
Mae’r mentrau yr ymdrinnir â hwy i gyd yn fentrau yn y sector preifat (hynny yw, cwmnïau, unig berchnogaethau, partneriaethau, cyrff dielw preifat a chymdeithasau cydfuddiannol), a hefyd corfforaethau cyhoeddus a chyrff gwladoledig. Caiff sefydliadau llywodraeth leol a chanolog eu heithrio.
Mae’r data wedi’u deillio o nifer o ffynonellau. Y brif ffynhonnell yw detholiad manwl a gymerir ym mis Mawrth bob blwyddyn o’r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau (IDBR) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae hon yn rhoi manylion yr holl fentrau sy’n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys ffigurau cyflogaeth a throsiant y DU a ffigurau deilliedig ar gyfer elfennau cyflogaeth a throsiant Cymru (gan ddefnyddio gwybodaeth am y safleoedd ym mhob menter sydd yng Nghymru). Mae hefyd yn cynnwys dynodwyr ar gyfer diwydiant (gan ddefnyddio’r Dosbarthiad Diwydiannol Safonol), lleoliad daearyddol a statws cyfreithiol pob menter, ac felly’n caniatáu’r dadansoddiad a roddir yma.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2003 i 2023Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Gan fod yr holl gyfrifiadau mentrau a chyfansymiau cyflogaeth yn y set ddata hon wedi cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r 5 a 100 agosaf yn y drefn honno, a bod yr holl gyfansymiau trosiant wedi cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r miliwn o bunnoedd agosaf, mae'n bosibl na fydd y ffigurau'n adio'n union.Er mwyn osgoi celu data oherwydd rheolaeth ar ddatgelu (sy'n orfodol ar gyfer unrhyw gyfansymiau wedi'u seilio ar lai na 20 o fentrau), mae rhai o'r bandiau maint wedi cael eu dangos ar ffurf gyfunedig. Mae'r bandiau maint cyfunedig hyn wedi cael eu dewis i gyfyngu ar faint y cyfuno ac ar yr un pryd sicrhau na chaiff unrhyw ddata eu celu.
Teitl
Dadansoddiad manwl o faint busnesau, Cymru a'r DUDiweddariad diwethaf
21 Rhagfyr 2023Diweddariad nesaf
Tachwedd 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofrestr Busnes Rhyngadrannol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Y Deyrnas UnedigCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae'r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau yn ymdrin â chyfran fawr iawn o'r gyflogaeth a'r trosiant yn y DU, ond oherwydd ei bod yn eithrio'r rhan fwyaf o'r nifer fawr iawn o fusnesau lleiaf sy'n gweithredu o dan y trothwy ar gyfer TAW, dim ond rhan o'r holl nifer o fentrau (oddeutu 50%) mae'n ymdrin â hwy. Er mwyn cywiro ar gyfer hyn, mae'r ffigurau a ddangosir yma'n cynnwys amcangyfrifon ar gyfer mentrau sydd heb eu cofrestru, ynghyd â'r gyflogaeth a'r trosiant sy'n gysylltiedig â hwy. Cyfrifir yr amcangyfrifon hyn ar gyfer mentrau sydd heb eu cofrestru gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol: data'r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau; gwybodaeth am bersonau sy'n hunangyflogedig yn eu prif neu ail swydd, wedi'i chymryd o'r Arolwg o'r Llafurlu a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; a gwybodaeth am nifer yr unig fasnachwyr a phartneriaethau o'r data Arolwg o Incymau Personol a ddarperir gan Gyllid y Wlad.Gellir gweld disgrifiad llawnach o'r fethodoleg a ddefnyddir yn y ddogfen yn y prif ffolder Strwythur Busnesau yn y rhan hon o StatsCymru.
Mae amcangyfrifon ar gyfer trosiant yn eithrio ffigurau o'r sector gwasanaethau ariannol a busnes yn y set ddata hon i gyd. Mae hyn oherwydd bod y wybodaeth am drosiant a gofnodir ar y Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau ar gyfer mentrau yn y sector gwasanaethau ariannol hefyd yn cynnwys y symiau yn y trafodion a gyflawnir gan y mentrau hyn ac felly nid yw'n gymaradwy â’r wybodaeth am drosiant yn y sectorau eraill.
Er mwyn osgoi celu data oherwydd rheolaeth ar ddatgelu (sy'n orfodol ar gyfer unrhyw gyfansymiau wedi'u seilio ar lai na 20 o fentrau), mae rhai o'r bandiau maint wedi cael eu dangos ar ffurf gyfunedig. Mae'r bandiau maint cyfunedig hyn wedi cael eu dewis i gyfyngu ar faint y cyfuno ac ar yr un pryd sicrhau na chaiff unrhyw ddata eu celu.