Trosiant yn ôl diwydiant (ISC2007), band maint ac ardal
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Dadansoddiad o faint busnesau yn ôl diwydiant (SIC2007), Cymru a'r DUDiweddariad diwethaf
21 Rhagfyr 2023Diweddariad nesaf
Tachwedd 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofrestr Busnes Rhyngadrannol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Y Deyrnas UnedigCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Strwythur Busnes CymruDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn darparu data ar strwythur y mentrau sy'n weithredol yng Nghymru yn ôl diwydiant (SIC 2007) a band maint, gan gynnwys amcangyfrifon ar gyfer y busnesau lleiaf sy'n gweithredu o dan y trothwy TAW. Mae'r newidynnau a ddadansoddwyd yn gyfrif o nifer y mentrau sy'n weithredol ym mhob ardal, ynghyd â chyflogaeth gysylltiedig a chyfanredau trosiant ym mhob un o'r diwydiannau a bandiau maint penodol, gyda'r ail yn cael ei ddefnyddio ar nifer y gweithwyr yn y DU yn y fenter yn gyffredinol.Noder bod y dadansoddiadau o ardal yn y data yn seiliedig ar y gweithle.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’r data a roddir wedi’u seilio ar fentrau sydd â rhywfaint o weithgarwch yng Nghymru neu un o'i his-ardaloedd, ni waeth beth yw rhanbarth y cofrestriad. Yn y cyd-destun hwn, cymerir bod menter yn sefydliad cyfan, gan gynnwys ei phrif swyddfa a’r holl safleoedd unigol yn y DU, lle bynnag y bônt. Mae rhanbarth y fenter fel arfer wedi’i seilio ar leoliad ei phrif swyddfa, er y gall y safleoedd fod mewn rhanbarthau eraill. Mae’r ffigurau a roddir ar gyfer cyflogaeth a throsiant ar gyfer Cymru neu ei his-ardaloedd yn y dadansoddiad hwn yn ymwneud â safleoedd y mentrau sydd yn yr ardaloedd hynny yn unig.Ym mhob achos, mae band maint y fenter wedi’i seilio ar nifer y cyflogeion yn y DU (boed amser llawn neu ran amser) yn y fenter. Mae hyn yn sicrhau bod menter sy’n cyflogi 10,000 o staff yn y DU ond dim ond llond llaw yn yr ardal benodol yn cael ei chategoreiddio fel menter fawr ac nid microfenter.
Mae’r mentrau yr ymdrinnir â hwy i gyd yn fentrau yn y sector preifat (hynny yw, cwmnïau, unig berchnogaethau, partneriaethau, cyrff dielw preifat a chymdeithasau cydfuddiannol), a hefyd corfforaethau cyhoeddus a chyrff gwladoledig. Caiff sefydliadau llywodraeth leol a chanolog eu heithrio.
Deilliwyd y data o nifer o ffynonellau. Y brif ffynhonnell yw detholiad manwl a gymerir ym mis Mawrth bob blwyddyn o’r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau (IDBR) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae hon yn rhoi manylion yr holl fentrau sy’n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys ffigurau cyflogaeth a throsiant y DU a ffigurau deilliedig ar gyfer elfennau cyflogaeth a throsiant Cymru (gan ddefnyddio gwybodaeth am y safleoedd ym mhob menter sydd yng Nghymru). Mae hefyd yn cynnwys dynodwyr ar gyfer diwydiant (gan ddefnyddio’r Dosbarthiad Diwydiannol Safonol), lleoliad daearyddol a statws cyfreithiol pob menter, ac felly’n caniatáu’r dadansoddiad a roddir yma.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2010 i 2023Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Gan fod yr holl gyfrifiadau mentrau a chyfansymiau cyflogaeth yn y set ddata hon wedi cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r 5 a 100 agosaf yn y drefn honno, a bod yr holl gyfansymiau trosiant wedi cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r miliwn o bunnoedd agosaf, mae'n bosibl na fydd y ffigurau'n adio'n union.Er mwyn osgoi celu data oherwydd rheolaeth ar ddatgelu (sy'n orfodol ar gyfer unrhyw gyfansymiau wedi'u seilio ar lai na 20 o fentrau), mae rhai o'r bandiau maint wedi cael eu dangos ar ffurf gyfunedig. Mae'r bandiau maint cyfunedig hyn wedi cael eu dewis i gyfyngu ar faint y cyfuno ac ar yr un pryd sicrhau na chaiff unrhyw ddata eu celu.