Gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn ôl y math o wariant a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Gwariant ar ymchwil a datblygu yn ôl gwlad yn y DU/rhanbarth yn LloegrDiweddariad diwethaf
13 Awst 2024Diweddariad nesaf
Tachwedd 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ystadegau ymchwil a datblygu, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae'r amcangyfrifon o'r arolwg BERD wedi'u seilio ar sampl haenedig a gafwyd o'r boblogaeth busnesau y gwyddys eu bod wir yn cyflawni ymchwil a datblygu neu sy'n debygol o gyflawni ymchwil a datblygu. Fel yn achos unrhyw arolwg sampl, mae arolwg BERD yn destun dau fath o wall posibl:? Gwallau samplu: oherwydd mai dim ond sampl o'r boblogaeth sy'n cael ei harolygu. Gellir meintioli'r amcangyfrifon hyn ac fe'u cyhoeddwyd fel rhan o gyhoeddiad BERD.
? Gwallau nad ydynt yn wallau samplu. Mae'r rhain yn cynnwys ffactorau fel cynnwys y boblogaeth, camadrodd a thuedd diffyg ymateb. Yn gyffredinol mae'n anodd meintioli'r gwallau hyn oherwydd ei bod yn anodd canfod y boblogaeth sydd wir yn cyflawni/sy'n debyg o gyflawni ymchwil a datblygu, ac oherwydd y problemau wrth sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â diffiniadau ymchwil a datblygu Frascati.
Mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sampl newydd ar gyfer 2022, sydd wedi cynyddu maint y data a dderbyniwyd ac wedi sicrhau bod yr ystadegau BERD bellach yn adlewyrchu lefel yr ymchwil a datblygu a gyflawnir ar draws economi'r DU yn well. Mae hyn yn golygu bod yr amcangyfrifon yn y bwletin hwn yn disodli'r rhai o'r dull cynyddu interim a gymerwyd yn 2021 a'u bod yn cael eu hystyried yr amcangyfrifon mwyaf cywir o ymchwil a datblygu busnes yn y DU. Felly, nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon o 2022 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol ac eithrio ar lefel y DU.
SYG yn gweithio gydag OSR wrth iddynt gynnal asesiad ansawdd o ystadegau BERD. Mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar y dulliau newydd a sut mae'r rhain yn diwallu anghenion ein defnyddwyr gyda'r nod o adennill statws Ystadegau Gwladol ar gyfer yr ystadegau hyn yn y datganiad nesaf:
https://www.ons.gov.uk/economy/governmentpublicsectorandtaxes/researchanddevelopmentexpenditure/bulletins/ukgrossdomesticexpenditureonresearchanddevelopment/2020
Cafodd holiaduron BERD, GovERD a PNP eu hailgynllunio ar ôl arolwg 2010 i adlewyrchu anghenion y defnyddwyr yn well, gan gynnwys gofynion newydd y Cyfrifon Cenedlaethol a'r Undeb Ewropeaidd. Dilynodd hyn ddiwygiadau mawr i arolygon BERD a GovERD ar gyfer casgliadau data 2007.
Cafodd methodoleg newydd ac arolwg newydd eu cyflwyno ar gyfer llunio amcangyfrifon o wariant ar ymchwil a datblygu ar gyfer y sector PNP fel cyflawnwr o 2011 ymlaen. Defnyddiwyd yr amcangyfrifon o'r arolwg hwn fel y sail i lunio data cyflawnwyr PNP 2012 yn y cyhoeddiad hwn.
Er y bernir bod yr holl newidiadau hyn yn welliant, mae'n bosibl y byddant yn cael effaith ar gymaroldeb y data dros amser. Yn anffodus, nid yw'n bosibl mesur yr effaith hon.
Mae adroddiad ansawdd ar gyfer allbwn GERD ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol:
http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/method-quality/quality/quality-information/business-and-energy/gross-domestic-expenditure.pdf
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi'r cyfanswm gwariant ar ymchwil a datblygu ym mhob un o ranbarthau'r DU.Casgliad data a dull cyfrifo
Rhennir y data i wariant mentrau busnes ar ymchwil a datblygu (BERD), gwariant llywodraethau ar ymchwil a datblygu (GOVERD) a gwariant addysg uwch ar ymchwil a datblygu (HERD). Mae'r cyfanswm ar gyfer y DU hefyd yn cynnwys y cyfraniad a wneir gan sefydliadau di-elw preifat, nad yw wedi'i ddadgyfuno yn ôl rhanbarth.Mae data ar gyfer rhanbarthau Lloegr ar gyfer 2018 ymlaen ar gael ar hyn o bryd dim ond ar gyfer y cyfanredau canlynol:
• Gogledd-ddwyrain, Gogledd-orllewin a Swydd Efrog a'r Humber
• Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr a De-orllewin Lloegr
• Dwyrain Lloegr, Llundain a De-ddwyrain Lloegr
Amlder cyhoeddi
Dwywaith y flwyddynCyfnodau data dan sylw
2001 i 2022Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
GERD yw amcangyfrif mwyaf dibynadwy’r DU o’r gwariant cenedlaethol ar ymchwil a datblygu sy’n dwyn ynghyd wybodaeth am wariant ar ymchwil a datblygu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ar gyfer dibenion sifil a dibenion amddiffyn.Mae newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o’r diwygiadau i’r System Cyfrifon Cenedlaethol yn 2008, ac yn System Cyfrifon Ewropeaidd 2010, yn rhagnodi y dylai ymchwil a datblygu, o Fedi 2014 ymlaen, gael ei ystyried yn weithgarwch atodol. Dylai gwariant ar ymchwil a datblygu gael ei ystyried yn fuddsoddiad mewn asedau ymchwil a datblygu, ac o ganlyniad mae angen i hyn gael ei gyfalafu yng Nghyfrifon Cenedlaethol y DU. Yn gryno, yn awr bydd gwariant ar ymchwil a datblygu’n cyfrannu at lunio ffigur gwerth net y DU a bydd yn cael ei gynnwys fel rhan o amcangyfrifon Cynnyrch Domestig Gros. Gweler tudalen ESA 2010 y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gael mwy o wybodaeth. Mae nifer fawr o ddefnyddwyr y tu mewn a’r tu allan i’r Llywodraeth sy’n defnyddio’r data hyn i gynhyrchu gwahanol ddadansoddiadau ac i lywio penderfyniadau polisi. Mae’r rhain yn cynnwys:
• Swyddfa Ystadegol yr Undeb Ewropeaidd (Eurostat) – mae’r DU yn darparu ystadegau sy’n mesur gweithgarwch ymchwil a datblygu yn unol â Rheoliad y Comisiwn Ewropeaidd Rhif 995/2012 o Senedd Ewrop a’r cyngor. Defnyddir yr amcangyfrifon yn y bwletin ystadegol hwn i ddarparu gwybodaeth sy’n gyson ag aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd ac i’w gwneud yn bosibl cyflawni gwaith meincnodi. Mae targedau Ewrop 2020 ar gyfer twf economaidd yn cynnwys targed i 3% o Gynnyrch Domestig Gros yr Undeb Ewropeaidd (gyda chyllid preifat a chyhoeddus) gael ei buddsoddi mewn ymchwil a datblygu erbyn 2020. Mae hyn yn golygu bod yr amcangyfrifon yn y cyhoeddiad hwn yn hanfodol i fonitro’r cynnydd tuag at y targed hwn.
Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn defnyddio data GERD i adeiladu cronfeydd data sy’n gymaradwy’n rhyngwladol ac i gynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol rheolaidd fel y ‘Main Science and Technology indicators’ (MSTI) a’r ystadegau ‘Annual Business Enterprise Research and Development’ (ANBERD). Defnyddir y data hefyd ar gyfer astudiaethau dadansoddol, sy’n sylfaen i ddadansoddiadau economaidd ac adolygiadau polisi;
• Yn ddiweddar mae Cyfarwyddiaeth Ymchwil ac Arloesi’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi adroddiad Cystadleurwydd yr Undeb Arloesi, 2011. Un o’r prif ganfyddiadau yw bod yr Undeb Ewropeaidd yn symud yn araf tuag at ei darged o 3% o Gynnyrch Domestig Gros ond bod y bwlch rhwng yr Undeb a’i gystadleuwyr yn y byd yn agor, yn fwyaf nodedig oherwydd llai o fuddsoddi gan fusnesau mewn ymchwil a datblygu;
• Mae’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau’n defnyddio data GERD i asesu effaith polisi ac i ddarparu gwybodaeth ar gyfer trafodaethau. Mae data ymchwil a datblygu’n sylfaen i’w hasesiadau o berfformiad y DU o ran arloesi yn ogystal â gwaith rhyngwladol yn y maes;
• Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban ac Adran Cyllid a Phersonél Gogledd Iwerddon yn defnyddio data GERD fel dangosydd allweddol i fesur perfformiad eu heconomïau hwythau y tu mewn i’r DU, yn ogystal ag i fonitro a datblygu polisïau ymchwil a datblygu sy’n ceisio cynyddu’r buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu. Mae gwybodaeth GERD ranbarthol hefyd yn cael ei chyhoeddi yn nhablau GERD ar gyfer yr Alban;
• Mae’r Research and Development Society yn sefydliad yn y DU a ffurfiwyd i hybu dealltwriaeth well o ymchwil a datblygu yn ei holl ffurfiau. Mae ei haelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o fyd diwydiant, adrannau ac asiantaethau llywodraethol, prifysgolion ac ymgynghorwyr. Mae’r gymdeithas hon yn defnyddio data GERD, fel ffynhonnell allweddol gwybodaeth, er mwyn deall faint sy’n cael ei fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn y DU bob blwyddyn ac i ddarparu gwybodaeth ar gyfer trafodaethau ehangach am ymchwil a datblygu. Daw ceisiadau am ddata GERD o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys academyddion, adrannau llywodraethol ac ymgynghorwyr economaidd. Mae hyn yn golygu y defnyddir y data mewn gwahanol gyhoeddiadau.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Rhoddir y data wedi'u talgrynnu i'r £ miliwn agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Wrth i ddata newydd gael eu cyhoeddi mae'n bosibl y bydd diwygiadau er mwyn cymryd i ystyriaeth ddatganiadau hwyr ac adroddiadau anghywir.Diwygiwyd ym mis Mawrth 2019: Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi nodi y penderfynwyd hepgor yr elfen oedd yn ymwneud â chyllido rhwng sefydliadau addysg uwch, yn dilyn proses bellach o wirio ansawdd llif y cyllid o fewn y sector addysg uwch. Oherwydd hynny mae ffigyrau o 2001 ymlaen wedi eu diwygio.