Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion wythnosol ar gyfer gweithwyr llawn amser heb gynnwys goramser) (£)
None
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Ardal 1[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Ardal 2[Hidlwyd]
-
Ardal 3[Hidlo]
Mesurmewn £s[Hidlwyd]
Measure2
[Lleihau]BlwyddynO ganlyniad i newidiadau yn 2004, 2006 a 2011 i\'r fethodoleg a ddefnyddir, ceir llawer o bethau y rhoddwyd y gorau i\'w cyfrif yn y gyfres amser, felly rhaid wrth ofal wrth gymharu blynyddoedd. Gweler gwybodaeth am yr ansawdd ystadegol am ragor o fanylion.[Hidlwyd]
-
Blwyddyn 1
Rhyw[Hidlo]
[Lleihau]2004 i 2005[Lleihau]2006 i 2010[Lleihau]2011Gellir ond cymharu data ar gyfer 2011 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2012 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.
Cliciwch yma i ddidoli2004Gellir ond cymharu data ar gyfer 2004 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2005, nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2005Gellir ond cymharu data ar gyfer 2005 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2004, nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2006Gellir ond cymharu data ar gyfer 2006 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2007-2010, nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2007Gellir ond cymharu data ar gyfer 2007 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2006-2010, nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2008Gellir ond cymharu data ar gyfer 2008 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2006-2010, nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2009Gellir ond cymharu data ar gyfer 2009 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2006-2010, nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2010Gellir ond cymharu data ar gyfer 2010 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2006-2009, nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2011Gellir ond cymharu data ar gyfer 2011 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2012 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2012Gellir ond cymharu data ar gyfer 2012 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2013Gellir ond cymharu data ar gyfer 2013 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2014Gellir ond cymharu data ar gyfer 2014 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2015Gellir ond cymharu data ar gyfer 2015 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2016Gellir ond cymharu data ar gyfer 2016 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2017Gellir ond cymharu data ar gyfer 2017 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2018Gellir ond cymharu data ar gyfer 2018 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2019Gellir ond cymharu data ar gyfer 2019 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2020Gellir ond cymharu data ar gyfer 2020 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2021Gellir ond cymharu data ar gyfer 2021 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2022Gellir ond cymharu data ar gyfer 2022 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.Cliciwch yma i ddidoli2023Gellir ond cymharu data ar gyfer 2023 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 , nid yw cymariaethau â blynyddoedd eraill yn gwbl ddilys.
Gwrywaidd386.20394.10411.90407.90438.00453.70454.40458.30457.10472.30479.10483.40503.60500.00511.40540.40550.00564.60601.00(p) Dros dro yw\'r eitem ddata hon648.10
Benyw314.20327.80339.60349.10358.80374.90389.60393.00398.70413.10417.10425.70439.80446.70454.90480.00503.00516.00538.40(p) Dros dro yw\'r eitem ddata hon574.90
Gwahaniaeth72.0066.3072.3058.8079.2078.8064.8065.3058.4059.2062.0057.7063.8053.3056.5060.4047.0048.6062.60(p) Dros dro yw\'r eitem ddata hon73.20
Gwahaniaeth canrannolGwahaniaeth fel canran o enillion dynion18.616.817.614.418.117.414.314.212.812.512.911.912.710.711.011.28.58.610.4(p) Dros dro yw\'r eitem ddata hon11.3

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r data hyn yn dangos enillion cyfartalog gros mewn punnoedd cyflogedigion amser llawn gwrywaidd a benywaidd heb gynnwys goramser. Mae'r data'n ymwneud â chyflogedigion amser llawn ar gyfraddau oedolion na effeithiwyd ar eu tâl yng nghyfnod yr arolwg gan absenoldeb. Mae ardal yn golygu lleoliad y gweithle, nid cartref y gweithiwr.
Mae sawl ffordd o fesur enillion menywod i'w cymharu â rhai dynion. Mae prif amcangyfrifon yr ONS o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn seiliedig ar enillion fesul awr heb gynnwys goramser. Gallai goramser ystumio'r darlun gan fod dynion yn gweithio cymharol fwy o oramser na menywod. Er bod tâl canolrif a chymedrig fesul awr heb gynnwys goramser yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth gymharu enillion dynion a menywod, nid ydynt yn dangos y gwahaniaeth yng nghyfraddau cyflog swyddi cymharol. Hynny am nad yw'r mesurau hyn yn caniatáu ar gyfer nodweddion cyflogaeth gwahanol dynion a menywod, megis y gyfran sydd mewn galwedigaethau gwahanol a faint o amser y maent wedi bod yn y swydd.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) yn seiliedig ar sampl o 1% o swyddi cyflogedigion, wedi'u cymryd o gofnodion PAYE Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Gallai unigolion sy'n gwneud mwy nag un swydd felly ymddangos yn y sampl fwy nag unwaith. Darperir yr wybodaeth am enillion ac oriau gan gyflogwyr a chedwir yr wybodaeth yn gyfrinachol. Nid yw ASHE yn ymdrin â gweithwyr hunangyflogedig nag â gweithwyr na chawsant eu talu yn y cyfnod cyfeirio.
Defnyddir y canolrif yn aml fel y prif fesur ar gyfer enillion cyfartalog, hynny am fod y gwasgariad enillion wedi'u gogwyddo , gyda mwy o bobl yn ennill cyflogau is nag sy'n ennill cyflogau uwch. Mewn gwasgariad wedi'i ystumio, gall nifer gymharol fach o werthoedd uchel gan dylanwad anghymarus ar y cymedr, gan ei dynnu oddi wrth yr hyn y gellid ei ystyried yn nodweddiadol. Nid yw gwerthoedd eithafol yn effeithiol ar y canolrif ac o'r herwydd, fe'i ystyrir yn fesur gwell o enillion 'cyfartalog' nodweddiadol.
Cyfrifir gwahaniaethau canrannol ar gyfer enillion wythnosol trwy ddefnyddio’r ffigurau a gyhoeddwyd wedi eu talgrynnu.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

1997 i 2023

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Cyn i amcangyfrifon 2018 gael eu datgan, roedd yr ystadegau gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau wedi eu cyhoeddi yma yn seiliedig ar enillion gros yr awr a gros wythnosol. Rydym bellach yn cyhoeddi ystadegau cyflogau rhwng y rhywiau yn seiliedig ar enillion yr awr ac wythnosol heb gynnwys goramser. Gall gynnwys goramser newid y darlun oherwydd bod dynion yn gweithio goramser yn gymharol fwy na menywod. Y mesur a ffefrir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw canolrif enillion yr awr, heb gynnwys goramser.

Teitl

Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau (canolrif enillion ar gyfer gweithwyr llawn amser heb gynnwys goramser)

Diweddariad diwethaf

2 Chwefror 2024 2 Chwefror 2024

Diweddariad nesaf

I'w gadarnhau

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

Cafwyd y ffigurau hyn o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) sy'n cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Yn 2004, disodlwyd yr Arolwg Enillion Newydd gan ASHE trwy ddefnyddio dull newydd o gyfrif y data enillion. Mae'r fethodoleg newydd hon yn pwysoli'r canlyniadau er mwyn ystyried strwythur y boblogaeth o ran oed, rhyw, galwedigaeth ac ardal y gweithle (Llundain a De-ddwyrain Lloegr a mannau eraill yn y DU). Cafodd data NES ar gyfer 1997 hyd 2003 eu hailweithio er mwyn cael ôl-gyfres o ddata enillion sy'n seiliedig ar y fethodoleg newydd.
Cafwyd rhagor o newidiadau i fethodoleg ASHE yn 2005 yn sgil cyflwyno holiadur newydd. Cafodd data 2004 eu hailweithio er mwyn eu gwneud yn gyson â'r fethodoleg newydd ond nid oedd yn bosib gwneud hynny i ganlyniadau blynyddoedd cynt. Felly cafwyd gwerthoedd y rhoddwyd y gorau i'w mesur yn y data, a rhaid ystyried hynny wrth wneud cymariaethau dros amser.
Cyflwynwyd system codio awtomatig newydd ar gyfer galwedigaethau yn 2007. Effaith fwyaf hynny oedd tynnu nifer o swyddi o'r grwpiau galwedigaethol uwch i grwpiau galwedigaethol eraill. Tuedd hynny oedd gostwng enillion cyfartalog y grwpiau galwedigaethol uwch a gostwng enillion yn gyffredinol. Yn rhannol fel ymateb i'r newid yn nyluniad y sampl, cyflwynwyd stratwm pwysoli ychwanegol ar gyfer y mentrau mawr sy'n cyflwyno atebion electronig i'r arolwg (trefniadau arbennig). Ni welwyd lleihad yn y sampl o'r mentrau hyn.
Yn 2007 a 2008, penderfynwyd gostwng y sampl ryw 20 y cant. Penderfynwyd sicrhau bod y gostyngiad mwyaf yn digwydd yn y sampl o'r diwydiannau lle cafwyd yr amrywiaeth leiaf yn yr enillion. Yn 2009, adferwyd maint gwreiddiol y sampl.
Ar gyfer amcangyfrifon ASHE 2011, cafodd y grwpiau galwedigaethol eu hailddosbarthu. Gan fod y dosbarth galwedigaethol yn rhan o'r fethodoleg y pwysolir data ASHE i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y DU, roedd hyn yn ddechrau ar gyfres amser newydd ac felly dylid cymryd gofal wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd cynt.
Gan y daw'r canlyniadau o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon sy'n seiliedig ar sampl ac yr effeithir arnynt felly i raddau gwahanol gan amrywiadau yn y sampl h.y. mae gwir werth unrhyw fesur yn sefyll mewn ystod amrywiol o bob tu'r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hwn neu'r amrywiad yn y sampl yn cynyddu wrth i fanylder y data gynyddu, er enghraifft ceir mwy o amrywiad yn y data rhanbarthol nag yn y data ar gyfer Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig.

I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg y data, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion y Swyddfa Ystadegau Gwladol: https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/methodologies/annualsurveyofhoursandearningslowpayandannualsurveyofhoursandearningspensionresultsqmi

Allweddeiriau

Enillion

Enw

ECON0101