Enillion wythnosol gros cyfartalog (canolrif) yn ôl gwlad yn y DU - rhanbarth yn Lloegr a blwyddyn (£)
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Data enillion cyfartalog yn ôl gwlad yn y DU/rhanbarth yn LloegrDiweddariad diwethaf
3 Rhagfyr 2024Diweddariad nesaf
i'w gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Cafwyd y ffigurau hyn o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) sy'n cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Yn 2004, disodlwyd yr Arolwg Enillion Newydd gan ASHE trwy ddefnyddio dull newydd o gyfrif y data enillion. Mae'r fethodoleg newydd hon yn pwysoli'r canlyniadau er mwyn ystyried strwythur y boblogaeth o ran oed, rhyw, galwedigaeth ac ardal y gweithle (Llundain a De-ddwyrain Lloegr a mannau eraill yn y DU). Cafodd data NES ar gyfer 1997 hyd 2003 eu hailweithio er mwyn cael ôl-gyfres o ddata enillion sy'n seiliedig ar y fethodoleg newydd.Cafwyd rhagor o newidiadau i fethodoleg ASHE yn 2005 yn sgil cyflwyno holiadur newydd. Cafodd data 2004 eu hailweithio er mwyn eu gwneud yn gyson â'r fethodoleg newydd ond nid oedd yn bosib gwneud hynny i ganlyniadau blynyddoedd cynt. Felly cafwyd gwerthoedd y rhoddwyd y gorau i'w mesur yn y data, a rhaid ystyried hynny wrth wneud cymariaethau dros amser.
Cyflwynwyd system codio awtomatig newydd ar gyfer galwedigaethau yn 2007. Effaith fwyaf hynny oedd tynnu nifer o swyddi o'r grwpiau galwedigaethol uwch i grwpiau galwedigaethol eraill. Tuedd hynny oedd gostwng enillion cyfartalog y grwpiau galwedigaethol uwch a gostwng enillion yn gyffredinol. Yn rhannol fel ymateb i'r newid yn nyluniad y sampl, cyflwynwyd stratwm pwysoli ychwanegol ar gyfer y mentrau mawr sy'n cyflwyno atebion electronig i'r arolwg (trefniadau arbennig). Ni welwyd lleihad yn y sampl o'r mentrau hyn.
Yn 2007 a 2008, penderfynwyd gostwng y sampl ryw 20 y cant. Penderfynwyd sicrhau bod y gostyngiad mwyaf yn digwydd yn y sampl o'r diwydiannau lle cafwyd yr amrywiaeth leiaf yn yr enillion. Yn 2009, adferwyd maint gwreiddiol y sampl.
Ar gyfer amcangyfrifon ASHE 2011, cafodd y grwpiau galwedigaethol eu hailddosbarthu. Gan fod y dosbarth galwedigaethol yn rhan o'r fethodoleg y pwysolir data ASHE i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y DU, roedd hyn yn ddechrau ar gyfres amser newydd ac felly dylid cymryd gofal wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd cynt.
Gan y daw'r canlyniadau o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon sy'n seiliedig ar sampl ac yr effeithir arnynt felly i raddau gwahanol gan amrywiadau yn y sampl h.y. mae gwir werth unrhyw fesur yn sefyll mewn ystod amrywiol o bob tu'r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hwn neu'r amrywiad yn y sampl yn cynyddu wrth i fanylder y data gynyddu, er enghraifft ceir mwy o amrywiad yn y data rhanbarthol nag yn y data ar gyfer Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig.
I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg y data, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion y Swyddfa Ystadegau Gwladol: https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/methodologies/annualsurveyofhoursandearningslowpayandannualsurveyofhoursandearningspensionresultsqmi
Dolenni'r we
www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghoursDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data hyn yn dangos enillion cyfartalog gros fesul wythnos ac awr mewn punnoedd gwledydd y DU/rhanbarthau Lloegr bob mis Ebrill yn y blynyddoedd a ddangosir. Mae'r data'n ymwneud â chyflogedigion amser llawn ar gyfraddau oedolion na effeithiwyd ar eu tâl yng nghyfnod yr arolwg gan absenoldeb. Mae ardal yn golygu lleoliad y gweithle, nid cartref y gweithiwr.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) yn seiliedig ar sampl o 1% o swyddi cyflogedigion, wedi'u cymryd o gofnodion PAYE Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Gallai unigolion sy'n gwneud mwy nag un swydd felly ymddangos yn y sampl fwy nag unwaith. Darperir yr wybodaeth am enillion ac oriau gan gyflogwyr a chedwir yr wybodaeth yn gyfrinachol. Nid yw ASHE yn ymdrin â gweithwyr hunangyflogedig nag â gweithwyr na chawsant eu talu yn y cyfnod cyfeirio.Defnyddir y canolrif yn aml fel y prif fesur ar gyfer enillion cyfartalog, hynny am fod y gwasgariad enillion wedi'u gogwyddo , gyda mwy o bobl yn ennill cyflogau is nag sy'n ennill cyflogau uwch. Mewn gwasgariad wedi'i ystumio, gall nifer gymharol fach o werthoedd uchel gan dylanwad anghymarus ar y cymedr, gan ei dynnu oddi wrth yr hyn y gellid ei ystyried yn nodweddiadol. Nid yw gwerthoedd eithafol yn effeithiol ar y canolrif ac o'r herwydd, fe'i ystyrir yn fesur gwell o enillion 'cyfartalog' nodweddiadol.