Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Mae pobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill mwy na 2/3 o gyflog canolrifol y DU yn ôl flwyddyn
None
[Lleihau]Rhyw[Hidlwyd]
-
Rhyw 1[Hidlo]
Measure2
Blwyddyn[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlo]
-
-
Ardal 1
Cliciwch yma i ddidoli2013Cliciwch yma i ddidoli2014Cliciwch yma i ddidoli2015Cliciwch yma i ddidoli2016Cliciwch yma i ddidoli2017Cliciwch yma i ddidoli2018Cliciwch yma i ddidoli2019Cliciwch yma i ddidoli2020
[Lleihau]Y Deyrnas Unedig69.969.469.569.370.771.171.674.3
Y Deyrnas UnedigGogledd-ddwyrain Lloegr67.365.564.565.966.966.766.370.9
Gogledd-orllewin Lloegr66.567.167.466.968.169.269.772.7
Swydd Efrog a'r Humber66.266.365.264.868.367.167.671.5
Dwyrain Canolbarth Lloegr68.167.767.866.168.268.269.471.6
Gorllewin Canolbarth Lloegr67.565.568.067.168.870.071.471.8
Dwyrain Lloegr71.969.969.970.470.971.971.573.5
Llundain78.877.977.778.279.581.081.284.0
De-ddwyrain Lloegr71.972.871.471.572.672.172.675.4
De-orllewin Lloegr67.266.067.666.667.567.867.770.8
Cymru66.365.267.765.268.667.568.170.7
Yr Alban68.870.169.169.770.070.372.373.3
Gogledd Iwerddon67.263.865.266.067.170.068.773.1

Metadata

Teitl

Y ganran o’r bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill mwy na 2/3 o gyflog canolrifol y DU.

Diweddariad diwethaf

9 Medi 2021 9 Medi 2021

Diweddariad nesaf

I’w gadarnhau

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ffynhonnell 2

Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.economi@llyw.cymru

Dynodiad

Dim

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Arolwg blynyddol o aelwydydd sy’n byw mewn cyfeiriadau preifat yn y DU yw’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae’n cwmpasu sampl o ryw 285,000 o unigolion o ryw 125,000 o aelwydydd. Mae’r arolwg yn defnyddio canlyniadau ymatebion i donnau 1 a 5 o’r prif arolwg chwarterol o’r llafurlu, ac ers 2001 rydym yn defnyddio sampl ychwanegol bob blwyddyn. Pwrpas y sampl ychwanegol hwn yw darparu set ddata flynyddol fwy eang sy’n cwmpasu elfennau daearyddol manylach o fewn y DU, sy’n golygu bod amrywioldeb yn llawer llai tebygol o fewn y sampl.

Mae’r ffigurau ar gyfer pob gweithiwr yn amrywio oherwydd y newid yn nifer y gweithwyr rhan-amser yn y sampl, a nifer yr oriau y mae’r rhai hynny sy’n gweithio’n rhan amser yn ei weithio. Byddwn yn cynnwys y ffigurau ar gyfer gweithwyr llawn-amser cyn hir. Mae data canolrif cyflog y DU o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion gweithwyr sy’n ennill cyfradd oedolion llawn amser ac na effeithiwyd ar eu cyflog oherwydd absenoldeb.


Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2013 i 2020

Ansawdd ystadegol

Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.
Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.
Daw’r data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ac felly mae’r canlyniadau yn amcangyfrifon sy’n seiliedig ar samplau. Mae’n bosibl, o’r herwydd, bod camgymeriad yn y sampl. Fodd bynnag, mae’r camgymeriadau yn fach gan bod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn defnyddio sampl ar hap o gyfeiriadau ar un cam. Mae rhoi trefn daearyddol ar y ffrâm samplo yn dosbarthu’r sampl.

Mae cyfradd gadael hefyd, ble y mae ymatebwyr yn dechrau’r arolwg ond yn gadael yn gyfnodol. Mae’r ymatebwyr sy’n aros ym mhob cam o’r arolwg yn tueddu i feddu ar nodweddion gwahanol i’r rhai sy’n gadael, a gall hyn olygu bod tuedd yng nghyfradd gadael y sampl. Caiff ymatebion procsi eu casglu pan fo unigolion eraill yn y cartref allai ateb ar ran ymatebwr absennol, gan leihau y duedd o’r rhai sydd heb ymateb.

Nid yw’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cynnwys mwyafrif y sefydliadau cymunol. Mae aelodau’r lluoedd arfog yn cael eu cynnwys os ydynt yn byw mewn llety preifat. Nid yw gweithwyr o dan 16 oed yn cael eu cynnwys.

Allweddeiriau

Enillion