
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
16. Canran y bobl mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am swyddi parhaol) ac sy’n ennill y Cyflog Byw gwirioneddol man lleiaf.Diweddariad diwethaf
30 Ebrill 2025Diweddariad nesaf
Ebrill 2026Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau NUTS1 yr UECwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r data hyn yn dangos nifer y bobl mewn gwaith sy’n ennill y cyflog byw gwirioneddol man lleiaf ar gyfer gwledydd y DU/rhanbarthau Lloegr. Mae’r data’n gysylltiedig â gweithwyr amser llawn a rhan-amser sydd ar gontractau parhaol neu ar gontractau dros dro ac nad ydynt yn chwilio am swyddi parhaol.Ceir rhagor o wybodaeth am y cyflog byw gwirioneddol isod:
https://www.livingwage.org.uk/what-real-living-wage
Casgliad data a dull cyfrifo
Cymerir y data hyn o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaethy. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnal yr arolygon hyn. Mae data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu casglu drwy gydol y flwyddyn a'u cyhoeddi ar gyfer blynyddoedd calendr.Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2012 i 2024Allweddeiriau
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Cyflog byw gwirioneddolAnsawdd ystadegol
Mae Ystadegau Gwladol wedi'u cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel a amlinellir yn y Cod Ymarfer Ystadegau Gwladol. Maent yn destun adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Maent yn cael eu cynhyrchu heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol. Mae'r adran hon yn darparu crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum dimensiwn ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaradwyedd.Arferai’r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (ABB) wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi’i ailbwysoli i’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ailddynodi'r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol.
Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag dylai defnyddwyr nodi'r ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r ABB. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i roi arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaethau llai neu is-grwpiau o’r boblogaeth yn llai dibynadwy.