Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Cyflogaeth yn y gweithle yn ôl ardaloedd lleol yng Nghymru a diwydiant eang
None
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure2
[Lleihau]Diwydiant[Hidlo]
-
Diwydiant 1
[Lleihau]Ardal[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Ardal 1
-
-
Ardal 2
[Lleihau]Mae'r holl ddiwydiannauCliciwch yma i ddidoliMae'r holl ddiwydiannau
Cliciwch yma i ddidoliAmaethyddiaeth, coedwigaeth a physgotaCliciwch yma i ddidoliCynhyrchuCliciwch yma i ddidoliAdeiladuCliciwch yma i ddidoliCyfanwerthu, manwerthu, cludiant, gwestai a bwydCliciwch yma i ddidoliGwybodaeth a chyfathrebuCliciwch yma i ddidoliGweithgareddau ariannol ac yswiriantCliciwch yma i ddidoliGweithgareddau eiddo tirolCliciwch yma i ddidoliGweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegolCliciwch yma i ddidoliGweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg ac iechydCliciwch yma i ddidoliGweithgareddau gwasanaeth eraill
[Ehangu]Y Deyrnas Unedig796,1005,796,6004,624,10017,233,9002,884,5002,146,9001,140,00011,950,20016,180,3003,905,90066,658,900
[Lleihau]Cymru85,700331,600199,300721,80065,80071,40044,900362,500858,700154,5002,896,200
Cymru[Lleihau]Gorllewin Cymru a'r Cymoedd54,100188,300121,700426,80031,00025,40024,200168,600504,20084,1001,628,600
Gorllewin Cymru a'r CymoeddYnys Môn3,9006,0004,60017,6005002001,4004,50012,7002,90054,300
Gwynedd7,3008,70010,40035,1003,2001,8001,9009,50042,30010,100130,300
Conwy4,0003,8007,00031,0001,5001,2001,70010,90025,4005,40092,100
Sir Ddinbych4,3007,9007,70022,2001,3001,0001,3009,70030,9003,90090,400
Ceredigion8,8003,7005,60019,7001,5005001,2006,00020,7003,80071,400
Sir Benfro10,5008,7009,90038,5001,4008001,20010,90029,6007,000118,600
Sir Gaerfyrddin11,80019,60011,30039,3002,5001,4002,00015,40049,0008,000160,400
Abertawe60014,70015,20061,8005,70011,2003,30033,90088,90011,900247,100
Castell-nedd Port Talbot60019,9008,30025,4001,9007001,6009,00032,4004,300104,100
Pen-y-bont ar Ogwr40018,0008,90029,9003,8001,2001,40014,40037,2005,900121,200
Rhondda Cynon Taf50022,80013,40041,1001,8001,9002,20013,90049,2006,500153,100
Merthyr Tudful2007,1003,40013,7002,9004001,0004,60017,9002,30053,700
Caerffili40025,7008,50025,5001,3001,5001,20016,50031,4005,700117,700
Blaenau Gwent-Nid yw\’r eitem o ddata yn union yn sero, ond wedi ei hamcangyfrif yn sero neu lai na hanner y digid terfynol a ddangosir8,2002,2009,8002006007002,90011,5002,70039,000
Tor-faen40013,5005,60016,1001,5001,2001,9006,40025,1003,60075,200
[Lleihau]Dwyrain Cymru31,600143,20077,500294,90034,80046,00020,700193,900354,50070,4001,267,600
Dwyrain CymruSir y Fflint2,90030,0007,90025,7002,1001,3001,00018,90019,9003,600113,400
Wrecsam3,60030,3008,60031,8002,8001,1002,00018,50046,8008,200153,500
Powys18,20013,7006,50030,5001,6008001,70014,60026,9006,800121,500
Bro Morgannwg1,2008,1006,60021,0001,9001,7001,60010,40026,8006,30085,800
Caerdydd1,00034,30029,600115,00020,60031,7009,80093,700163,60033,400533,000
Sir Fynwy4,3009,6008,90026,9002,3002,0002,20012,40026,5005,200100,400
Casnewydd40017,2009,40044,1003,4007,3002,40025,20043,9006,700160,000
[Ehangu]Gogledd Cymru26,20086,60046,100163,40011,4006,5009,20072,000178,20034,100633,900
[Ehangu]Canolbarth Cymru27,00017,40012,10050,1003,2001,3002,90020,60047,70010,600192,900
[Ehangu]De-orllewin Cymru23,50062,90044,600165,20011,50014,1008,40069,100199,80031,300630,300
[Ehangu]De-ddwyrain Cymru9,000164,60096,700343,00039,70049,60024,300200,600433,10078,4001,439,100
[Ehangu]Canolbarth a De-orllewin Cymru50,50080,30056,500215,30014,70015,40011,30089,800247,50041,900823,200

Metadata

Teitl

Cyflogaeth yn y gweithle yn ôl diwydiant eang yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru

Diweddariad diwethaf

31 Awst 2021 31 Awst 2021

Diweddariad nesaf

TBC

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ffynhonnell 2

Arolwg Cyflogaeth y Gofrestr Fusnes (BRES), y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.economi@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon cyflogaeth yn y gweithle, neu amcangyfrifon o gyfanswm swyddi, ar gyfer Cymru a'i hardaloedd NUTS2, ynghyd â data cymaradwy ar gyfer y DU wedi'u dadgyfuno yn ôl adran diwydiant.

Casgliad data a dull cyfrifo

Caiff y Gofrestr Busnesau ac Arolwg Cyflogaeth (BRES), a elwid gynt yr Ymchwiliad Busnes Blynyddol (ABI), ei chynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ers amser maith mae wedi darparu’r ffordd o ddadgyfuno swyddi cyflogeion i grwpiau diwydiant a rhaniadau daearyddol manwl.

Fodd bynnag, mae BRES yn fwy addas ar gyfer dadansoddiad trawstoriadol na chymariaethau dros amser, ac nid yw ond yn ymdrin â swyddi cyflogeion. Mae’r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon o gyfanswm swyddi yn ôl diwydiant trwy gynnwys hunangyflogaeth hefyd. Gan fod y lefelau hunangyflogaeth yn amrywio’n sylweddol yn ôl diwydiant, mae dosbarthiad cyfanswm swyddi yn ôl diwydiant yn wahanol i gyfanswm swyddi cyflogeion yn ôl diwydiant. Felly, mae’r set ddata hon yn darparu ffordd o amcangyfrif proffil diwydiannol yr economi gyfan.

Wrth gael amcangyfrifon o gyflogaeth yn y gweithle yn ôl diwydiant ar gyfer Cymru a’i hardaloedd NUTS2, mae’r set ddata hon yn defnyddio nifer o ffynonellau data, yn bennaf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr Arolwg Llafurlu Lleol blynyddol gynt, a hefyd BRES a Chyfrifiad Amaeth Cymru.

Mae rhaniadau’r data islaw lefel Cymru a roddir yn y set ddata hon ar lefel NUTS2. Mae NUTS yn sefyll am Nomenclature of Units for Territorial Statistics, ac mae’n rhaniad daearyddol hierarchaidd gan yr Undeb Ewropeaidd o aelod-wladwriaethau. Mae NUTS1 yn diffinio rhanbarthau’r DU (y mae Cymru’n un ohonynt), ac mae NUTS4 yn diffinio awdurdodau lleol. Mae NUTS2 a NUTS3 yn darlunio casgliadau hierarchaidd olynol o awdurdodau lleol. Yng Nghymru, mae dwy ardal NUTS2, sef ‘Gorllewin Cymru a’r Cymoedd’ a ‘Dwyrain Cymru’. Y gyntaf yw’r rhan o Gymru sy’n gymwys i gael cyllid Amcan 1 gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Mae’r rhaniad diwydiannau a gymhwysir i’r data wedi’i seilio ar Ddosbarthiad Diwydiannol Safonol 2007 (SIC07).

Mae amcangyfrifon y DU o gyflogaeth yn y gweithle yn ôl diwydiant yn y set ddata hon wedi’u cael yn yr un ffordd â’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru a’i hardaloedd NUTS2 yn gyfan gwbl er mwyn darparu cymharydd cyson. Mae hyn yn golygu eu bod yn wahanol i’r amcangyfrifon o swyddi gweithlu yn ôl diwydiant yn y DU fel y’i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sydd wedi’u cael o fethodoleg wahanol, wedi’i seilio’n bennaf ar ffynonellau cyflogwyr.

Ni ddylid defnyddio amcangyfrifon y DU at unrhyw ddiben ond darparu cymhariaeth â’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru a ddangosir yma. Gellir gweld amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol o swyddi gweithlu yn y DU yn nhabl 5(2) o gyhoeddiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar farchnad lafur y DU a dylid eu defnyddio yn hytrach na’r amcangyfrifon ar gyfer y DU a roddir yma onid ydych yn gwneud cymariaethau â’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru a ddangosir yma.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2001 i 2019

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Ym mis Mawrth 2019, adolygwyd y data Arolwg Boblogaeth Blynyddol yn ôl i 2012, oherwydd mae'n ystyried yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth.

Ansawdd ystadegol

Gellir rhestru’r fethodoleg a ddefnyddir i ddeillio cyflogaeth yn y gweithle yn ôl diwydiant ar gyfer Cymru a’i his-ranbarthau (a hefyd amcangyfrifon cymaradwy ar gyfer y DU) fel cyfres o gamau penodol, fel y nodir isod. Caiff data ar gyfer nifer y swyddi cyntaf ac ail swyddi cyflogeion yn ôl yr awdurdod lleol yng Nghymru lle mae’r gweithle, ac ar gyfer y DU yn gyfan, eu tynnu o setiau data blynyddol yr Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2001 ymlaen. Caiff y rhain eu hadio at ei gilydd i roi cyfanswm swyddi cyflogeion yn ôl yr awdurdod lleol yng Nghymru lle mae’r gweithle ac ar gyfer y DU yn gyfan. Mae’r data ar gyfer Cymru a’r DU ar gyfer yr holl flynyddoedd yn adlewyrchu’r setiau data wedi’u hailbwysoli a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mai 2013, sy’n alinio’r data’n well â’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Mae’r data ar lefel awdurdodau lleol o 2004 ymlaen hefyd wedi’u seilio ar setiau data wedi’u hailbwysoli’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae’r data awdurdodau lleol ar gyfer 2001 i 2003 wedi’u seilio ar setiau data blaenorol, heb eu hailbwysoli, yr Arolwg o’r Llafurlu, wedi’u haddasu i’r cyfansymiau wedi’u hailbwysoli ar gyfer Cymru’n gyfan. Mae hyn oherwydd bod y pwysoli blaenorol, am wahanol resymau technegol, wedi’u halinio’n well â’r amcangyfrifon poblogaeth ar lefel awdurdodau lleol ar gyfer y tair blynedd hynny. Ar gyfer pob ardal, mae’r cyfansymiau swyddi cyflogeion a ddeilliwyd uchod yn cael eu rhannu i is-adrannau diwydiannau trwy ddyrannu’r cyfansymiau pro rata gan ddefnyddio data lefel diwydiannau ar gyfer pob ardal o’r Gofrestr Busnesau ac Arolwg Cyflogaeth (BRES) (yr Ymchwiliad Busnes Blynyddol cyn 2009). [Nodwch, er bod data amaeth ar lefel Cymru’n gyflawn yn set ddata BRES, nid yw hynny’n wir am ddata amaeth ar lefel awdurdod lleol. Felly defnyddiwyd ffigurau o Gyfrifiad Amaeth Cymru ar gyfer pob blwyddyn i ddyrannu data amaeth Cymru rhwng awdurdodau lleol Cymru er mwyn deillio set ddata gyflawn BRES yn ôl diwydiant ac awdurdod lleol.] Caiff cyfansymiau NUTS2 a chyfansymiau Cymru ar gyfer swyddi cyflogeion yn ôl diwydiant yn y data eu deillio trwy symio’r amcangyfrifon ar gyfer yr awdurdodau lleol perthnasol. Caiff data ar gyfer nifer y swyddi cyntaf a’r ail swyddi hunangyflogedig yn ôl diwydiant ac awdurdod lleol yng Nghymru lle mae’r gweithle (ac ar gyfer y DU yn gyfan) eu tynnu o setiau data blynyddol yr Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2001 ymlaen. Caiff y rhain eu hadio at ei gilydd i roi cyfanswm y swyddi hunangyflogedig yn ôl diwydiant ac awdurdod lleol yng Nghymru lle mae’r gweithle (ac ar gyfer y DU yn gyfan). Eto caiff cyfansymiau NUTS2 a chyfansymiau Cymru ar gyfer swyddi hunangyflogedig yn ôl diwydiant yn y data eu deillio trwy symio’r amcangyfrifon ar gyfer yr awdurdodau lleol perthnasol. Yn olaf, caiff y nifer fach o ffigurau hyfforddeion a gefnogir gan y llywodraeth eu tynnu o setiau data blynyddol yr Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2001 ymlaen ar gyfer pob ardal a’u dyrannu rhwng diwydiannau yn ôl yr amcangyfrifon o swyddi cyflogeion plws swyddi hunangyflogaeth yn ôl diwydiant ar gyfer pob ardal. Wedyn caiff yr amcangyfrifon hyn o hyfforddeion a gefnogir gan y llywodraeth eu hadio at y ffigurau ar gyfer swyddi cyflogeion yn ôl diwydiant a swyddi hunangyflogaeth yn ôl diwydiant i roi’r gyflogaeth yn y gweithle yn ôl diwydiant ar gyfer pob ardal a ddangosir yn y data.

18

12. I grynhoi, mae’r fethodoleg wedi’i seilio ar ganlyniadau o’r Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i ddarparu amcangyfrifon o’r holl swyddi yn yr economi, wedi’u rhannu yn ôl ardal leol yng Nghymru, gan ddefnyddio data BRES (data’r Ymchwiliad Busnes Blynyddol cyn 2009) yn bennaf i rannu’r elfen cyflogeion o’r data hyn yn ôl diwydiant. Mae hyn yn gyson ag Argymhelliad 1 yn yr Adolygiad o Ansawdd Ystadegau Cyflogaeth a Swyddi gan yr Ystadegau Gwladol (NSQR Series Report No.44: http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/method-quality/quality/quality-reviews/theme/labour-market/nsqr-44/nsqr-series-report-no--44--review-of-employment-and-jobs-statistics-.pdf) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Ionawr 2006, sy’n nodi’r ffynonellau priodol i’w defnyddio wrth fesur strwythur gwahanol agweddau ar weithlu’r DU.

Allweddeiriau

Swyddi