Hawlwyr budd-daliadau diweithdra yn ôl gwlad ym Mhrydain Fawr/rhanbarth yn Lloegr, mesur a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Hawlwyr budd-daliadau yn ôl gwlad ym Mhrydain Fawr/rhanbarth yn Lloegr a grwp ystadegolDiweddariad diwethaf
Mai 2017Diweddariad nesaf
Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyachSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau Prydain FawrCwmpas daearyddol
Rhanbarthau Prydain FawrCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Budd-daliadauDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi ciplun chwarterol o hawlwyr budd-daliadau ar adegau penodol ac maent wedi'u seilio ar 100% o hawlwyr felly nid oes ynddi unrhyw wallau samplu.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data ar gyfer nifer y bobl rhwng 16 a 64 oed sy'n hawlio un neu ragor o fudd-daliadau allweddol yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r cyfuniad o fudd-daliadau maent yn eu hawlio.Nod teipoleg y Grwp Ystadegol yw dangos pob unigolyn yn ôl y prif resymau pam mae'n hawlio budd-dal. Dosberthir pob cleient unwaith yn unig. Mae budd-daliadau wedi'u trefnu'n hierarchaidd a dyroddir hawlwyr i'r budd-dal uchaf maent yn ei gael. Felly byddai person sy'n unig riant ac yn cael Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei ddosbarthu o dan fudd-daliadau analluogrwydd.
Am y rheswm hwn ni fydd y grwp 'unig riant', er enghraifft, yn cynnwys yr holl unig rieni sy'n hawlio Cymhorthdal Incwm. Bydd rhai'n cael eu cynnwys yn y grwp budd-daliadau analluogrwydd yn lle hynny.
Nid yw'r data wedi'u haddasu'n dymhorol felly dylid gwneud unrhyw gymariaethau rhwng y naill flwyddyn a'r llall.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
1999 i 2016Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r data wedi'u talgrynnu i'r 10 agosaf.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Er bod yr Adran Gwaith a Phensiynau'n cyflawni gwaith sicrhau ansawdd helaeth ar y data crai a'r tablau ystadegol cyn eu cyhoeddi, o dro i dro bydd gwall yn llithro drwodd. Yn yr achosion prin pan geir gwall, rydym yn ymchwilio'n drwyadl i sut y digwyddodd ac yn cryfhau ein prosesau lle bo angen. Caiff unrhyw ystadegau gwallus eu dileu a'u diwygio cyn gynted ag sy'n bosibl. Cymerir gofal mawr i sicrhau y caiff yr holl ddefnyddwyr wybod a'u bod yn llwyr ymwybodol o'r gwall ac o unrhyw oblygiadau. I gael mwy o wybodaeth gweler Datganiad Polisi'r Adran Gwaith a Phensiynau ar Ddiwygiadau:http://research.dwp.gov.uk/asd/policy/DWP_Revisions_Policy_final.pdf
Nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) bellach yn cyhoeddi hawlwyr budd-daliadau oedran gweithio gan grwp cleientiaid. Mae'r datganiad DWP llawn ar gael ar https://www.nomisweb.co.uk/articles/1048.aspx. Rydym wrthi'n nodi ffynhonnell briodol newydd ar gyfer y data hwn.