Neidio i'r cynnwys

Hawlwyr budd-daliadau allweddol

Mae Ceiswyr budd-daliadau allweddol yn rhoi nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra fesul grwp ystadegol. Mae ar gael fesul awdurdod lleol yn ogystal ag ar gyfer Cymru a rhanbarthau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae’r data’n cyfeirio at nifer y bobl 16 i 64 oed sy’n hawlio un neu ragor o fudd-daliadau allweddol y DWP a’r cyfuniad o fudd-daliadau y maen nhw’n eu hawlio. Nod teipoleg y Grwpiau Ystadegol yw cyflwyno pob person yn ôl eu prif resymau dros hawlio budd-dal. Unwaith yn unig y mae pob cleient yn cael ei ddosbarthu. Mae’r budd-daliadau wedi’u trefnu mewn hierarchaeth ac mae’r ceiswyr yn cael eu priodoli i’r budd-dal uchaf y maen nhw’n ei gael. Gan hynny, byddai person sy’n rhiant unigol ac sy’n cael Budd-dal Analluedd yn cael ei ddosbarthu o dan fudd-daliadau analluedd.