Mae'r set ddata hon yn rhoi ciplun chwarterol o hawlwyr budd-daliadau ar adegau penodol ac maent wedi'u seilio ar 100% o hawlwyr felly nid oes ynddi unrhyw wallau samplu. Mae'r data ar gyfer nifer y bobl rhwng 16 a 64 oed sy'n hawlio un neu ragor o fudd-daliadau allweddol yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r cyfuniad o fudd-daliadau maent yn eu hawlio. Nod teipoleg y Grwp Ystadegol yw dangos pob person yn ôl y prif resymau pam mae'n hawlio budd-dal. Dosberthir pob cleient unwaith yn unig. Mae budd-daliadau wedi'u trefnu'n hierarchaidd a dyroddir hawlwyr i'r budd-dal uchaf maent yn ei gael. Felly byddai person sy'n unig riant ac yn cael Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei ddosbarthu o dan fudd-daliadau analluogrwydd. Am y rheswm hwn ni fydd y grwp 'unig riant', er enghraifft, yn cynnwys yr holl unig rieni sy'n hawlio Cymhorthdal Incwm. Bydd rhai'n cael eu cynnwys yn y grwp budd-daliadau analluogrwydd yn lle hynny. Nid yw'r data wedi'u haddasu'n dymhorol felly dylid gwneud unrhyw gymariaethau rhwng y naill flwyddyn a'r llall.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data ar gyfer nifer y bobl rhwng 16 a 64 oed sy'n hawlio un neu ragor o fudd-daliadau allweddol yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r cyfuniad o fudd-daliadau maent yn eu hawlio.
Nod teipoleg y Grwp Ystadegol yw dangos pob unigolyn yn ôl y prif resymau pam mae'n hawlio budd-dal. Dosberthir pob cleient unwaith yn unig. Mae budd-daliadau wedi'u trefnu'n hierarchaidd a dyroddir hawlwyr i'r budd-dal uchaf maent yn ei gael. Felly byddai person sy'n unig riant ac yn cael Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei ddosbarthu o dan fudd-daliadau analluogrwydd. Am y rheswm hwn ni fydd y grwp 'unig riant', er enghraifft, yn cynnwys yr holl unig rieni sy'n hawlio Cymhorthdal Incwm. Bydd rhai'n cael eu cynnwys yn y grwp budd-daliadau analluogrwydd yn lle hynny. Nid yw'r data wedi'u haddasu'n dymhorol felly dylid gwneud unrhyw gymariaethau rhwng y naill flwyddyn a'r llall.
Nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) bellach yn cyhoeddi hawlwyr budd-daliadau oedran gweithio gan grwp cleientiaid. Mae'r datganiad DWP llawn ar gael ar https://www.nomisweb.co.uk/articles/1048.aspx. Rydym wrthi'n nodi ffynhonnell briodol newydd ar gyfer y data hwn.
Allweddeiriau
Budd-daliadau
Ansawdd ystadegol
Mae anawsterau'n bodoli yng ngallu data'r Astudiaeth Arhydol Gwaith a Phensiynau i ganfod llifoedd hawliadau hyd byr. Mae'r achosion hyd byr hyn yn effeithio ar y nifer sy'n dechrau hawliad newydd neu'n diweddu hawliad am fudd-dal gan gyfeirio at gyfnod amser penodol. Ar hyn o bryd adroddir ar lifoedd ar gyfer Budd-dal Profedigaeth/Budd-dal Gwraig Weddw (sgan 6 wythnosol), Budd-dal Analluogrwydd/Lwfans Anabledd Difrifol (sgan 6 wythnosol), Cymhorthdal Incwm (sgan wythnosol), Credyd Pensiwn (sgan wythnosol), Pensiwn y Wladwriaeth (sgan 6 wythnosol) a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (sgan pythefnosol). Ni fydd hawliadau sy'n dechrau ac yn gorffen rhwng dau ddyddiad olynol codi data yn cael eu cofnodi. O'r blaen ar gyfer y data sampl 5%, oherwydd bod bwlch o 3 mis rhwng adegau codi data, cafodd rhai hawliadau a barodd rhwng un diwrnod a bron tri mis eu methu, ac felly mae defnyddio data'r Astudiaeth Arhydol Gwaith a Phensiynau yn cynnig cryn dipyn o welliant yn hyn o beth.