Hawlwyr budd-daliadau diweithdra yn ôl rhanbarth economaidd yng Nghymru, newidyn a grŵp ystadegol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Data agored
Teitl
Hawlwyr budd-daliadau yn ôl rhanbarth economaidd yng Nghymru a grwp ystadegolDiweddariad diwethaf
19 Mai 2017Diweddariad nesaf
Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyachSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System Weinyddu'r Ganolfan Byd Gwaith, yr Adran Gwaith a PhensiynauCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae anawsterau'n bodoli yng ngallu data'r Astudiaeth Arhydol Gwaith a Phensiynau i ganfod llifoedd hawliadau hyd byr. Mae'r achosion hyd byr hyn yn effeithio ar y nifer sy'n dechrau hawliad newydd neu'n diweddu hawliad am fudd-dal gan gyfeirio at gyfnod amser penodol. Ar hyn o bryd adroddir ar lifoedd ar gyfer Budd-dal Profedigaeth/Budd-dal Gwraig Weddw (sgan 6 wythnosol), Budd-dal Analluogrwydd/Lwfans Anabledd Difrifol (sgan 6 wythnosol), Cymhorthdal Incwm (sgan wythnosol), Credyd Pensiwn (sgan wythnosol), Pensiwn y Wladwriaeth (sgan 6 wythnosol) a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (sgan pythefnosol). Ni fydd hawliadau sy'n dechrau ac yn gorffen rhwng dau ddyddiad olynol codi data yn cael eu cofnodi. O'r blaen ar gyfer y data sampl 5%, oherwydd bod bwlch o 3 mis rhwng adegau codi data, cafodd rhai hawliadau a barodd rhwng un diwrnod a bron tri mis eu methu, ac felly mae defnyddio data'r Astudiaeth Arhydol Gwaith a Phensiynau yn cynnig cryn dipyn o welliant yn hyn o beth.Allweddeiriau
Budd-daliadauDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi ciplun chwarterol o hawlwyr budd-daliadau ar adegau penodol ac maent wedi'u seilio ar 100% o hawlwyr felly nid oes ynddi unrhyw wallau samplu. Mae'r data ar gyfer nifer y bobl rhwng 16 a 64 oed sy'n hawlio un neu ragor o fudd-daliadau allweddol yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r cyfuniad o fudd-daliadau maent yn eu hawlio.Nod teipoleg y Grwp Ystadegol yw dangos pob person yn ôl y prif resymau pam mae'n hawlio budd-dal. Dosberthir pob cleient unwaith yn unig. Mae budd-daliadau wedi'u trefnu'n hierarchaidd a dyroddir hawlwyr i'r budd-dal uchaf maent yn ei gael. Felly byddai person sy'n unig riant ac yn cael Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei ddosbarthu o dan fudd-daliadau analluogrwydd.
Am y rheswm hwn ni fydd y grwp 'unig riant', er enghraifft, yn cynnwys yr holl unig rieni sy'n hawlio Cymhorthdal Incwm. Bydd rhai'n cael eu cynnwys yn y grwp budd-daliadau analluogrwydd yn lle hynny.
Nid yw'r data wedi'u haddasu'n dymhorol felly dylid gwneud unrhyw gymariaethau rhwng y naill flwyddyn a'r llall.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data ar gyfer nifer y bobl rhwng 16 a 64 oed sy'n hawlio un neu ragor o fudd-daliadau allweddol yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r cyfuniad o fudd-daliadau maent yn eu hawlio.Nod teipoleg y Grwp Ystadegol yw dangos pob unigolyn yn ôl y prif resymau pam mae'n hawlio budd-dal. Dosberthir pob cleient unwaith yn unig. Mae budd-daliadau wedi'u trefnu'n hierarchaidd a dyroddir hawlwyr i'r budd-dal uchaf maent yn ei gael. Felly byddai person sy'n unig riant ac yn cael Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei ddosbarthu o dan fudd-daliadau analluogrwydd.
Am y rheswm hwn ni fydd y grwp 'unig riant', er enghraifft, yn cynnwys yr holl unig rieni sy'n hawlio Cymhorthdal Incwm. Bydd rhai'n cael eu cynnwys yn y grwp budd-daliadau analluogrwydd yn lle hynny.
Nid yw'r data wedi'u haddasu'n dymhorol felly dylid gwneud unrhyw gymariaethau rhwng y naill flwyddyn a'r llall.