Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Diweithdra yng Nghymru a’r DU fesul hyd a blwyddyn
None
[Lleihau]Rhyw[Hidlwyd]
-
Rhyw 1[Hidlo]
Measure2
Mesur[Hidlo]
[Lleihau]Hyd[Hidlo]
-
Hyd 1
[Lleihau]Ardal[Hidlo]
-
Ardal 1
Blwyddyn[Hidlwyd]
[Lleihau]Lefel[Lleihau]Cyfradd diweithdraY ganran o\'r boblogaeth sy\'n weithgar yn economaidd 16 oed a mwy.[Lleihau]Canran y bobl sy'n ddi-waithMae’r ganran yn seiliedig ar y rhai a atebodd y cwestiwn yn unig.
[Lleihau]Holl bobl ddi-waithMae\'r cyfanswm yn cynnwys y rhai nad oedd wedi nodi hyd y diweithdra.[Lleihau]Holl bobl ddi-waithMae\'r cyfanswm yn cynnwys y rhai nad oedd wedi nodi hyd y diweithdra.[Lleihau]Holl bobl ddi-waithMae\'r cyfanswm yn cynnwys y rhai nad oedd wedi nodi hyd y diweithdra.
[Lleihau]Llai na 12 mis[Lleihau]12 mis neu mwy[Lleihau]Llai na 12 mis[Lleihau]12 mis neu mwy[Lleihau]Llai na 12 mis[Lleihau]12 mis neu mwy
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliDeyrnas Unedig[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCymru[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliDeyrnas Unedig[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCymru[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliDeyrnas Unedig[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCymru[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliDeyrnas Unedig[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCymru[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliDeyrnas Unedig[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCymru[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliDeyrnas Unedig[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCymru
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20041,112,10051,900304,10013,3003.73.81.01.078.579.621.520.4
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20051,155,10055,200318,60016,4003.84.01.11.278.477.121.622.9
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20061,263,60057,000368,90016,0004.14.11.21.177.478.122.621.9
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20071,209,30061,100380,50017,8003.94.31.21.376.177.423.922.6
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20081,351,10071,100414,90019,2004.34.91.31.376.578.823.521.2
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20091,805,50088,300586,50029,5005.86.11.92.175.574.924.525.1
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20101,637,60082,700757,70036,4005.25.72.42.568.469.431.630.6
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20111,695,00082,700838,20037,7005.35.72.62.666.968.733.131.3
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20121,635,60075,900871,40044,4005.15.22.73.065.263.134.836.9
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20131,540,70077,400875,60039,7004.85.22.72.763.866.136.233.9
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20141,310,50064,000706,10035,4004.04.32.22.465.064.435.035.6
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20151,202,70057,700519,00029,8003.73.91.62.069.965.930.134.1
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20161,173,80048,000424,70019,8003.53.21.31.373.470.826.629.2
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20171,082,10050,300371,30020,6003.23.31.11.474.571.025.529.0
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20181,035,10051,000349,70017,1003.13.31.01.174.774.925.325.1
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 2019987,90045,500316,80015,9002.93.00.91.075.774.124.325.9
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20201,242,80041,000312,80013,2003.72.70.90.979.975.720.124.3
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 20211,057,60040,700422,00022,1003.12.71.31.571.564.828.535.2

Metadata

Teitl

Cyfraddau diweithdra hirdymor yr ILO yn ôl hyd, rhyw ac awdurdod lleol yng Nghymru

Diweddariad diwethaf

31 Mawrth 2022 31 Mawrth 2022

Diweddariad nesaf

Awst 2022

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.economi@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r set ddata hon yn rhoi Diweithdra Hirdymor yng Nghymru yn ôl awdurdod lleol.

Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'n bosibl na fydd y ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer 2001, 2002 a 2003 yn y tablau hyn yr un peth â ffigurau a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, gan fod y niferoedd yma'n cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio pwysoli penodol i Gymru. Mae'r pwysoli hwn yn adlewyrchu'n well yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd hyn.

Cymerir y data hyn o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg o'r Llafurlu a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), gan ddarparu data'r farchnad lafur yn ôl statws anabledd yn ôl i 1996 ar gyfer yr ardaloedd NUTS2 yng Nghymru, ac yn ôl i 2001 ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae argaeledd data awdurdodau lleol yn dibynnu ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) ar gyfer yr Arolwg blynyddol o'r Llafurlu, a ddechreuodd yn 2001.

Ar gyfer y blynyddoedd sydd wedi'u labelu 2001 i 2004 yn y set ddata hon, y gwir gyfnodau yr ymdrinnir â hwy yw'r 12 mis sy'n rhedeg o fis Mawrth yn y flwyddyn a nodir i fis Chwefror yn y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 i 28 Chwefror 2002).

Ers 2004, mae'r data blynyddol wedi cael eu cynhyrchu fel data blynyddol treigl, sy'n cael eu diweddaru bob tri mis, ac erbyn hyn cyfeirir at y set ddata fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl yn dilyn y calendr ac mae'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a ddangosir yma yn ymdrin â'r cyfnod 1 Ionawr 2004 i 31 Rhagfyr 2004, ac wedyn data sy'n ymdrin â'r cyfnod 1 Ebrill 2004 i 31 Mawrth 2005, gyda diweddariadau chwarterol treigl wedi hynny.

Nodwch felly bod y cyfartaleddau blynyddol treigl olynol yn gorgyffwrdd gan naw mis, a bod gorgyffwrdd o ddeufis hefyd rhwng y cyfnod olaf a ddangosir ar hen sail Mawrth i Chwefror, a'r cyfnod cyntaf ar y sail newydd.

Gellir rhannu'r boblogaeth oedran gweithio neu 16 oed a throsodd i boblogaethau economaidd weithgar ac economaidd anweithgar. Mae'r boblogaeth economaidd weithgar yn cynnwys personau sydd mewn cyflogaeth, a phersonau sy'n ddi-waith yn ôl diffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) a dyma a ddefnyddir fel yr enwadur ar gyfer y cyfraddau diweithdra a ddangosir yn y tabl.

Cesglir data’r Arolwg o’r Llafurlu drwy gydol y flwyddyn, ac mae ar gael o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r set ddata hon yn cynnwys y canlyniadau blynyddol diweddaraf, fel y cyfeirir atynt yn yr ail bwynt bwled isod.

. Mae data allweddol ar y farchnad lafur yn cael eu diweddaru bob mis gan ddangos y sefyllfa ar gyfer y tri mis diweddaraf, ar gyfer y DU a phob un o’r gwledydd yn y DU a phob rhanbarth yn Lloegr. Nodwch fod y data hyn wedi’u haddasu’n dymhorol a hefyd nad yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi unrhyw ddata is-ranbarthol (h.y. awdurdod lleol) yn ôl amserlen fisol.

. Mae canlyniadau blynyddol sy’n ymdrin â’r cyfnodau a ddisgrifiwyd yn gynharach hefyd ar gael o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan ddarparu data manylach o’r Arolwg o’r Llafurlu, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd islaw lefel Cymru. Mae’r setiau data blynyddol hyn yn defnyddio canlyniadau o’r samplau o’r arolygon chwarterol a ddefnyddir ar gyfer y cyfresi allweddol, ynghyd â chanlyniadau o bersonau ychwanegol a samplwyd er mwyn darparu set ddata fwy cadarn (cyfnerthedig), ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai.

Cymerir y data hyn o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg o'r Llafurlu a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), gan ddarparu data'r farchnad lafur yn ôl i 1996 ar gyfer yr ardaloedd NUTS2 yng Nghymru, ac yn ôl i 2001 ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae argaeledd data awdurdodau lleol yn dibynnu ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) ar gyfer yr Arolwg blynyddol o'r Llafurlu, a ddechreuodd yn 2001.

Ar gyfer y blynyddoedd sydd wedi'u labelu 2001 i 2004 yn y set ddata hon, y gwir gyfnodau yr ymdrinnir â hwy yw'r 12 mis sy'n rhedeg o fis Mawrth yn y flwyddyn a nodir i fis Chwefror yn y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 i 28 Chwefror 2002).

Ers 2004, mae'r data blynyddol wedi cael eu cynhyrchu fel data blynyddol treigl, sy'n cael eu diweddaru bob tri mis, ac erbyn hyn cyfeirir at y set ddata fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl yn dilyn y calendr ac mae'r cyfartaledd treigl blynyddol cyntaf a ddangosir yma yn ymdrin â'r cyfnod 1 Ionawr 2004 i 31 Rhagfyr 2004, ac wedyn data sy'n ymdrin â'r cyfnod 1 Ebrill 2004 i 31 Mawrth 2005, gyda diweddariadau chwarterol treigl wedi hynny.
Nodwch felly bod y cyfartaleddau blynyddol treigl olynol yn gorgyffwrdd gan naw mis, a bod gorgyffwrdd o ddeufis hefyd rhwng y cyfnod olaf a ddangosir ar hen sail Mawrth i Chwefror, a'r cyfnod cyntaf ar y sail newydd.

Gellir rhannu'r boblogaeth oedran gweithio neu 16 oed a throsodd i boblogaethau economaidd weithgar ac economaidd anweithgar. Mae'r boblogaeth economaidd weithgar yn cynnwys personau sydd mewn cyflogaeth, a phersonau sy'n ddi-waith yn ôl diffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) a dyma a ddefnyddir fel yr enwadur ar gyfer y cyfraddau diweithdra a ddangosir yn y tabl.
Nodwch oherwydd y cymerir y data o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg o'r Llafurlu NAD ydynt yn cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r 4 set ddata CHWARTEROL yn y cyfnod perthnasol o 12 mis yr ymdrinnir ag ef oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.

Nodwch hefyd fod y data a ddangosir yma ar gyfer Cymru a’r DU yn gyson â’r data islaw lefel Cymru, ac felly nad ydynt wedi cael eu haddasu’n dymhorol.

Nodwch yn olaf fod mesur diweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn wahanol i fesur diweithdra arall a ddefnyddir yn aml, sef nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra. Mae'r ail yn gyfrifiad o'r holl bobl sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra, a chan hynny, nid yw'n destun amrywioldeb samplu. Fodd bynnag, mae'n eithrio'r rheiny sy’n ddi-waith nad ydynt yn gymwys i hawlio (er enghraifft y rheiny sydd allan o waith ond sydd â phartner sy'n gweithio), a'r rheiny nad ydynt eisiau hawlio. Mae mesur yr ILO, sy'n gyfrifiad o'r rheiny sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; a hefyd y rheiny sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy'n aros i ddechrau yn y pythefnos nesaf, yn fesur mwy cynhwysol o ddiweithdra, a ddefnyddir ledled y byd.

Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

2001 i 2021

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mehefin 2019: Yn flaenorol cyfrifwyd y ganran sy’n ddi-waith fel canran o bob person sy’n ddi-waith – mae hwn bellach wedi ei ddiwygio i fod yn seiliedig ar y rhai ymatebodd i’r cwestiwn yn unig. Diwygiwyd y data a gyhoeddwyd yn flaenorol. Mae’r data diwygiedig wedi'i farcio â (r).

Ansawdd ystadegol

Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.
Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.

Allweddeiriau

Diweithdra hirdymor;