
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Gwerth Ychwanegol Gros rhanbarthol yn ôl cydranDiweddariad diwethaf
Gorffennaf 2025Diweddariad nesaf
I'w gyhoeddiSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifon Rhanbarthol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi ffigurau Gwerth Ychwanegol Gros ar gyfer rhanbarthau'r DU. Maent yn cynnwys diwygiadau i'r ffigurau a gyhoeddwyd ar gyfer y cyfnod 1998 i 2023 ym mis Mehefin 2025.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r set ddata yn darparu dadansoddiad o Gynnyrch Ychwanegol Gros rhanbarthol yn y gweithle i elfennau o iawndal i weithwyr, arall a chyfanswm.Cyfrifir GYC (gwerth ychwanegol crynswth) Rhanbarthol ar sail prisiau sylfaenol cyfredol gan ddefnyddio'r dull cytbwys. Yn 2017, defnyddiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dull incwm a’r dull cynhyrchu, i gynhyrchu amcangyfrif sengl o GYC a’i helwir yn ddull cytbwys (GYC (B)). Ceir mwy o fanylion am sut y’i datblygwyd a’i cyfrifwyd yn eu hymateb i'r ymgynghoriad. Cyfrannodd Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi at yr ymateb.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1998 i 2023Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Allweddeiriau
Cynnyrch Domestig Gros; Gwerth Ychwanegol Gros; GDP; GVAAnsawdd ystadegol
O dan System Cyfrifon Ewropeaidd 1995 (ESA95), mae'r term Gwerth Ychwanegol Gros yn cael ei ddefnyddio i ddynodi amcangyfrifon a arferai gael eu galw'n Gynnyrch Domestig Gros ar brisiau sylfaenol. O dan ESA95, mae'r term Cynnyrch Domestig Gros yn dynodi Gwerth Ychwanegol Gros gyda threthi (namyn cymorthdaliadau) ar gynhyrchion h.y. am brisiau'r farchnad. Mae Cyfrifon Rhanbarthol yn cyhoeddi ffigurau ar eu prisiau sylfaen ac felly wedi mabwysiadu'r term Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yn hytrach na Chynnyrch Domestig Gros (GDP).Mesurir Gwerth Ychwanegol Gros ar sail prisiau cyfredol, sy'n golygu bod cynnydd dros amser yn adlewyrchu chwyddiant yn ogystal â thwf go iawn. Ni ellir dadansoddi tueddiadau mewn cyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros neu Werth Ychwanegol Gros y pen yn hawdd heb ddadchwyddo'r data. Ar gyfer dadansoddi tueddiadau mewn GYG, byddem yn cynghori defnyddio'r mesurau cyfaint cadwyn a gyhoeddwyd gan ONS (Saesneg yn unig): https://www.ons.gov.uk/economy/grossvalueaddedgva/datasets/nominalandrealregionalgrossvalueaddedbalancedbyindustry
Mae amcangyfrifon o Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol ar brisiau sylfaenol a gyflwynwyd yma yn gyson â rhifyn 2024 o UK National Accounts - The Blue Book.