Neidio i'r cynnwys

Gwerth Ychwanegol Crynswth

Mae'r Gwerth Ychwanegol Crynswth yn amcangyfrif o gyfanswm allbwn yr economi. Mae data ar GVA ar gael fesul ardal NUTS (Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth) a fesul diwydiant. Ar lefel NUTS1 mae wedi’i rannu hefyd fesul cydran – Taliadau i Gyflogedigion (cyflogau yn bennaf) a Gwarged Gweithredu Crynswth/Incwm Cymysg (incwm o hunan-gyflogaeth, elw busnesau etc).

Nodyn diwygio
Cyhoeddodd SYG diwygiadau i ddata GVA ar gyfer ardaloedd NUTS3 yn ol diwydiant ar 13 Gorffennaf 2016. Nid yw amcangyfrifon NUTS1 a NUTS2 wedi eu newid. Mae StatsCymru wedi cael ei ddiweddaru gyda’r amcangyfrifon diweddaraf.