Gwerth Ychwanegol Crynswth yn ôl cydran, ardaloedd NUTS2 yng Nghymru a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Gwerth Ychwanegol Gros Is-ranbarthol fesul ardal NUTS yng NghymruDiweddariad diwethaf
1 Mai 2024Diweddariad nesaf
I'w gyhoeddiSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifon Rhanbarthol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau NUTS3 yr UECwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
GDP; GVA; Cynnyrch Domestig Gros; Gwerth Ychwanegol GrosDisgrifiad cyffredinol
Mae'r Gwerth Ychwanegol Gros rhanbarthol ar gyfer Cymru yn cael ei ddyrannu i ardaloedd NUTS3 a NUTS3 o fewn Cymru, yn ôl diwydiant, gan ddefnyddio data seiliedig ar y gweithle. Mae tri gwahanol fesur ar gael ar gyfer pob ardal, sef yn bennaf symiau'r Gwerth Ychwanegol Gros mewn £ miliwn, Gwerth Ychwanegol Gros y pen a Gwerth Ychwanegol Gros y pen wedi'i fynegeio i'r DU = 100.Casgliad data a dull cyfrifo
Cyfrifir GYC (gwerth ychwanegol crynswth) Rhanbarthol ar sail prisiau sylfaenol cyfredol gan ddefnyddio'r dull cytbwys. Yn 2017, defnyddiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dull incwm a’r dull cynhyrchu, i gynhyrchu amcangyfrif sengl o GYC a’i helwir yn ddull cytbwys (GYC (B)). Ceir mwy o fanylion am sut y’i datblygwyd a’i cyfrifwyd yn eu hymateb i'r ymgynghoriad. Cyfrannodd Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi at yr ymateb. Mae amcangyfrifon GYC (B) yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd fel "ystadegau arbrofol".Mae data sy’n defnyddio'r dull incwm yn parhau i fod ar gael. Mae’r dull hwn yn adio’r holl incwm a enillwyd gan unigolion preswyl neu gorfforaethau wrth gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau. Mae felly yn gyfrif o swm y defnyddiau wrth gynhyrchu incwm ar gyfer yr economi cyflawn (neu fel arall swm y prif incwm wedi’i ddosbarthu yn ôl unedau cynhyrchydd preswyl) (National Accounts Concepts, Sources and Methods, t206).
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1997 i 2022Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae ffigurau'n cael eu talgrynnu ac felly efallai y bydd rhywfaint o fân anghysondebau rhwng symiau'r elfennau ansoddol a'r cyfansymiau a ddangosir.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Adolygiad, 20eg Rhagfyr 2019: Rydym wedi adolygu’r tabl gwerth ychwanegol crynswth isranbarthol yn ôl ardaloedd NUTS2 yng Nghymru yn dilyn darganfyddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) bod y methodoleg a ddefnyddir i ymrannu’r amcangyfrifon cytbwys gwerth ychwanegol crynswth o lefel NUTS2 in NUTS3 yn rhoi canlyniadau gwahanol pan y ddefnyddir gyda’r cyfansoddiad diwydiannol manwl a gyda’r cydrannau incwm. Mae’r SYG yn credu mai’r cyfansoddiad diwydiannol yw’r fersiwn cryfaf, am ei fod yn defnyddio cyfansoddiad mwy gronynnog a chyfrifiad i bob diben o ddata gweinyddol i lywio’r dosraniad. Mae’r SYG felly wedi ad-drefnu’r amcangyfrifon cyfanswm gwerth ychwanegol crynswth a gwerth ychwanegol crynswth y pen ar lefel NUTS3 er mwyn defnyddio’r fersiwn fesul diwydiant, ac wedi tynnu’r cydrannau incwm o’r data NUTS3. Y data lefel-NUTS3 yn unig a effeithir, a dim ond y data a gyhoeddwyd yn y tablau gwerth ychwanegol crynswth y pen a chydrannau incwm.Ansawdd ystadegol
O dan System Cyfrifon Ewropeaidd 1995 (ESA95), mae'r term Gwerth Ychwanegol Gros yn cael ei ddefnyddio i ddynodi amcangyfrifon a arferai gael eu galw'n Gynnyrch Domestig Gros ar brisiau sylfaenol. O dan ESA95, mae'r term Cynnyrch Domestig Gros yn dynodi Gwerth Ychwanegol Gros gyda threthi (namyn cymorthdaliadau) ar gynhyrchion h.y. am brisiau'r farchnad. Mae Cyfrifon Rhanbarthol yn cyhoeddi ffigurau ar eu prisiau sylfaen ac felly wedi mabwysiadu'r term Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yn hytrach na Chynnyrch Domestig Gros (GDP).Mesurir Gwerth Ychwanegol Gros ar sail prisiau cyfredol, sy'n golygu bod cynnydd dros amser yn adlewyrchu chwyddiant yn ogystal â thwf go iawn. Ni ellir dadansoddi tueddiadau mewn cyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros neu Werth Ychwanegol Gros y pen yn hawdd heb ddadchwyddo'r data. Fodd bynnag, nid oes indecsau pris rhanbarthol y gellid eu defnyddio'n hawdd cael gwared ar effaith chwyddiant o'r ffigurau. Felly, gellir seilio cymariaethau tueddiadau naill ai ar y gwahaniaeth rhwng cynnydd rhanbarthol ar brisiau cyfredol neu ar symudiadau sy'n berthynol i gyfartaledd y DU. Byddai'r ddau ddull yn gamarweiniol pe bai cyfradd chwyddiant mewn unrhyw ranbarth yn wahanol i gyfartaledd y DU.
Mae amcangyfrifon o Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol ar brisiau sylfaenol a gyflwynwyd yma yn gyson â rhifyn 2015 o UK National Accounts - The Blue Book.