
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Gwerth Ychwanegol Gros rhanbarthol yn ôl diwydiantDiweddariad diwethaf
Mai 2025Diweddariad nesaf
I'w gyhoeddiSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifon Rhanbarthol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
GDP; GVA; Cynnyrch Domestig Gros; Gwerth Ychwanegol GrosDisgrifiad cyffredinol
Mae amcangyfrifon o Werth Ychwanegol Gros seiliedig ar y gweithle yn dyrannu incymau i'r rhanbarth lle mae'r gweithgarwch economaidd yn digwydd i ddiwydiannau gwahanol, gan roi symiau'r Gwerth Ychwanegol Gros mewn £ miliwn ynghyd â chanran 'Gwerth YchwaneCasgliad data a dull cyfrifo
Cyfrifir GYC (gwerth ychwanegol crynswth) Rhanbarthol ar sail prisiau sylfaenol cyfredol gan ddefnyddio'r dull cytbwys. Yn 2017, defnyddiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dull incwm a’r dull cynhyrchu, i gynhyrchu amcangyfrif sengl o GYC a’i helwir yn ddull cytbwys (GYC (B)). Ceir mwy o fanylion am sut y’i datblygwyd a’i cyfrifwyd yn eu hymateb i'r ymgynghoriad. Cyfrannodd Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi at yr ymateb.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1998 i 2023Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Yn 2025, diweddarodd ONS y fframwaith daearyddiaeth Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL). Mae hyn wedi arwain at newidiadau i'r dosbarthiadau isranbarthol ar gyfer Cymru ar lefelau ITL2 ac ITL3.Gyda chymaint o newidiadau daearyddol, mae'r grwpiau diwydiant hefyd wedi'u diweddaru i osgoi datgelu gwybodaeth gyfrinachol.
Felly, ni allwn nodi pa ddata sydd wedi'i ddiwygio o'r diweddariad 2024, bydd nodiadau adolygu yn cael eu hadfer gyda chyhoeddiad 2026.
Ansawdd ystadegol
O dan y System Cyfrifon Ewropeaidd 1995 (ESA95), defnyddir y term Gwerth Ychwanegol Gros i ddynodi amcangyfrifon a elwid ynghynt Cynnyrch Domestig Gros yn ôl prisiau sylfaenol. O dan ESA95 mae'r term Cynnyrch Domestig Gros yn dynodi Gwerth Ychwanegol Gros plws trethi (llai cymorthdaliadau) ar gynhyrchion h.y. yn ôl prisiau'r farchnad. Mae Cyfrifon Rhanbarthol yn cyhoeddi ffigurau yn ôl prisiau sylfaenol felly wedi mabwysiadu'r term Gwerth Ychwanegol Gros yn hytrach na Chynnyrch Domestig Gros.Caiff Gwerth Ychwanegol Gros is-ranbarthol ei fesur yn ôl prisiau cyfredol, sy'n golygu bod codiadau dros amser yn adlewyrchu chwyddiant yn ogystal â thwf gwirioneddol. Ni ellir dadansoddi tueddiadau yng nghyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros yn hawdd heb ddatchwyddo'r data. Ar gyfer dadansoddi tueddiadau mewn GYG, byddem yn cynghori defnyddio'r mesurau cyfaint cadwyn a gyhoeddwyd gan ONS (Saesneg yn unig): https://www.ons.gov.uk/economy/grossvalueaddedgva/datasets/nominalandrealregionalgrossvalueaddedbalancedbyindustry
Mae'r amcangyfrifon o Werth Ychwanegol Gros is-ranbarthol yn ôl prisiau sylfaenol a ddangosir yma'n gyson ag argraffiad 2024 o Gyfrifon Cenedlaethol y DU - The Blue Book.