Incwm Aelwydydd Crynswth i'w Wario yn ôl mesur, rhanbarth economaidd yng Nghymru a blwyddyn - Wedi ei archifo - Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach
Wedi ei archifo - Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach - Mae'r holl ddata sy'n ymwneud ag Incwm Aelwydydd Crynswth i'w Wario a dadansoddiadau eraill isod ar gael yn y set ddata econ0016.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Incwm Aelwydydd yn ôl rhanbarth economaidd yng Nghymru - Wedi ei archifo - Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach - Mae'r holl ddata sy'n ymwneud ag Incwm Aelwydydd Crynswth i'w Wario a dadansoddiadau eraill isod ar gael yn y set ddata econ0016.Diweddariad diwethaf
24 Mai 2019Diweddariad nesaf
Wedi ei archifo - Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach - Mae'r holl ddata sy'n ymwneud ag Incwm Aelwydydd Crynswth i'w Wario a dadansoddiadau eraill isod ar gael yn y set ddata econ0016.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifon Rhanbarthol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau NUTS3 yr UECwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data yn rhoi amcangyfrifon o incwm gwario gros aelwydydd ar gyfer y DU, Cymru, rhanbarthau economaidd Cymru ac is-ranbarthau Cymru am y cyfnod 1997 i 2015.Casgliad data a dull cyfrifo
Incwm gwario gros aelwydydd yw un o'r balansau a ddangosir yn yr adran aelwydydd o'r Cyfrifon Cenedlaethol. Mewn gwirionedd mae'r sector yn cynnwys aelwydydd, unig fasnachwyr a sefydliadau di-elw sy'n gwasanaethu aelwydydd (megis prifysgolion ac elusennau).Mae incwm gwario gros aelwydydd yn amcangyfrif o'r swm o arian sydd ar gael i aelwydydd i'w wario ar dreuliant neu ei gynilo. Mae'n gyfwerth â'r gwarged incwm (gan gynnwys enillion, pensiynau, buddsoddiadau, budd-daliadau ac ati) dros wariant sy'n gysylltiedig â'u hincwm (trethi, perchnogaeth eiddo a darparu ar gyfer pensiynau yn y dyfodol). Mae'r amcangyfrifon o incwm gwario gros aelwydydd a ddangosir yma'n gyson ag argraffiad 2016 o Gyfrifon Cenedlaethol y DU - The Blue Book.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1997 i 2017Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Allweddeiriau
Incwm AelwydyddAnsawdd ystadegol
Mae incwm gwario gros aelwydydd yn amcangyfrif o'r swm o arian sydd ar gael i aelwydydd i'w wario ar dreuliant neu ei gynilo. Mae'n gyfwerth â'r gwarged incwm (gan gynnwys enillion, pensiynau, buddsoddiadau, budd-daliadau ac ati) dros wariant sy'n gysylltiedig â'u hincwm (trethi, perchnogaeth eiddo a darparu ar gyfer pensiynau yn y dyfodol).Mae incwm gwario gros aelwydydd yn cynnwys balans y prif incymau llai balans yr incymau eilaidd. Mae balans y prif incymau'n ganlyniad i gyfranogiad unigolion yn y broses gynhyrchu, er enghraifft, fel cyflogeion sy'n darparu llafur neu drwy berchnogaeth ar asedau a/neu o hunangyflogaeth llai prif ddefnyddiau sy'n cynnwys incwm eiddo a delir, h.y. rhent ar dir a llog a delir ar forgeisi a benthyciadau eraill. Ceir balans yr incymau eilaidd o ganlyniad i ailddosbarthu incwm, er enghraifft, pensiynau a budd-daliadau llai defnyddiau eilaidd sydd yn bennaf yn daliadau annewisol, h.y. trethi a chyfraniadau cymdeithasol i Yswiriant Gwladol.
Mae'r amcangyfrifon o incwm gwario gros aelwydydd a ddangosir yma'n gyson ag argraffiad 2016 o Gyfrifon Cenedlaethol y DU - The Blue Book.