Incwm Aelwydydd Crynswth i'w Wario yng Nghymru yn ôl mesur a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data'n rhoi amcangyfrifon o incwm gwario gros aelwydydd ar gyfer rhanbarthau a gwledydd y DU, ac is-ranbarthau Cymru ar gyfer y cyfnod 1997 i 2022.Casgliad data a dull cyfrifo
Incwm gwario gros aelwydydd yw un o'r balansau a ddangosir yn yr adran aelwydydd o'r Cyfrifon Cenedlaethol. Mewn gwirionedd mae'r sector yn cynnwys aelwydydd, unig fasnachwyr a sefydliadau di-elw sy'n gwasanaethu aelwydydd (megis prifysgolion ac elusennau).Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1997 i 2022Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Teitl
Incwm Gwario Gros AelwydyddDiweddariad diwethaf
5 Medi 2024Diweddariad nesaf
Haf 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifon Rhanbarthol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau NUTS3 yr UECwmpas daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Pan gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol, o ganlyniad i gwall wrth brosesu roedd gwerthoedd Gogledd Iwerddon a'r Alban wedi cael eu cam-labelu fel ei gilydd. Ers 3 Medi 2021 mae'r Gwledydd hyn bellach yn dangos y gwerthoedd cywir.Mae incwm gwario gros aelwydydd yn amcangyfrif o'r swm o arian sydd ar gael i aelwydydd i'w wario ar dreuliant neu ei gynilo. Mae'n gyfwerth â'r gwarged incwm (gan gynnwys enillion, pensiynau, buddsoddiadau, budd-daliadau ac ati) dros wariant sy'n gysylltiedig â'u hincwm (trethi, perchnogaeth eiddo a darparu ar gyfer pensiynau yn y dyfodol).
Mae incwm gwario gros aelwydydd yn cynnwys balans y prif incymau llai balans yr incymau eilaidd. Mae balans y prif incymau'n ganlyniad i gyfranogiad unigolion yn y broses gynhyrchu, er enghraifft, fel cyflogeion sy'n darparu llafur neu drwy berchnogaeth ar asedau a/neu o hunangyflogaeth llai prif ddefnyddiau sy'n cynnwys incwm eiddo a delir, h.y. rhent ar dir a llog a delir ar forgeisi a benthyciadau eraill. Ceir balans yr incymau eilaidd o ganlyniad i ailddosbarthu incwm, er enghraifft, pensiynau a budd-daliadau llai defnyddiau eilaidd sydd yn bennaf yn daliadau annewisol, h.y. trethi a chyfraniadau cymdeithasol i Yswiriant Gwladol.
Mae'r amcangyfrifon o incwm gwario gros aelwydydd a ddangosir yma'n gyson ag argraffiad 2016 o Gyfrifon Cenedlaethol y DU - The Blue Book.
I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg y data, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Incwm Cartrefi Gros Rhanbarthol y Swyddfa Ystadegau Gwladol: https://cy.ons.gov.uk/economy/regionalaccounts/grossdisposablehouseholdincome/methodologies/regionalgrossdisposablehouseholdincomeqmi