ACEHI sy'n ymddangos unwaith yn y 50 mwyaf difreintiedig
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Data underlying Deep-Rooted deprivation analysisDiweddariad diwethaf
06/05/2020Diweddariad nesaf
Nid yn allbwn rheolaiddSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Ardaloedd cynnyrch ehangach haen isCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data yma yn sail i'r dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog. Gellir gweld y dadansoddiad hwn yn adroddiad canlyniadau MALlC 2019.Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r dull swyddogol ar gyfer mesur amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Ei nod yw canfod yr ardaloedd bach hynny o'r wlad sydd â'r crynoadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. MALlC 2019 yw'r mynegai mwyaf diweddar ac mae'n rhoi safle rhwng 1 (mwyaf difreintiedig) a 1,909 (lleiaf difreintiedig) i'r holl ardaloedd bach yng Nghymru. Gelwir yr ardaloedd bach hyn yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) hefyd. Mae'r ddaearyddiaeth hon wedi'i llunio o ddata'r cyfrifiad ac mae'n cynrychioli ardaloedd bach, pob un â phoblogaeth o tua 1,600 o bobl yr un.
Mae'r data hyn yn cynnwys safleoedd MALlC cyffredinol a safleoedd y meysydd ar gyfer y 5 fersiwn ddiwethaf o MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019) ac mae'n nodi i ba gategori o amddifadedd hirsefydlog y mae pob ardal yng Nghymru yn perthyn iddo.
Mae gan y tabl data bedair golwg wahanol, gyda phob un yn dangos ardaloedd sy'n perthyn i bob un o'r pedwar categori.
Gellir gweld disgrifiadau llawn o'r pedwar categori o amddifadedd hirsefydlog ar y dudalen we hon.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y wybodaeth yn cyswllt gwefan.Cyfnodau data dan sylw
Ewch i'r Adroddiadau Technegol a'r Crynodeb o newidiadau i MALlC ar dudalen we MALlC i gael rhagor o wybodaeth (gweler y tab dolenni gwe).Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r data wedi cael eu darparu i helpu defnyddwyr i nodi pa ardaloedd sydd wedi gadael, ymuno neu aros yn y grwp mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio safleoedd i awgrymu newid dros amser. Mae'r rhesymau am hyn yn cynnwys newidiadau i ffiniau daearyddol ACEHIau a newidiadau i gynllun y mynegai rhwng fersiynau. Ewch i'r Crynodeb o newidiadau i MALlC ar dudalen we canllawiau MALlC i gael rhagor o fanylion. Nodwch hefyd fod MALlC yn mesur amddifadedd cymharol, ac felly nid yw'n dangos lefel amddifadedd mewn ardaloedd bach na sut y mae hyn wedi newid dros amser. Gweler y daenlen ddata sy'n sail i'r dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog i gael rhagor o wybodaeth. Gweler fersiwn MALlC 2019 ar y tab dolenni gwe i gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddwyr a defnydd a chynnwys.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Gweler y wybodaeth yn cyswllt gwefan.Ansawdd ystadegol
I weld yr wybodaeth sy'n ymwneud ag ansawdd yr ystadegau, ewch i Adroddiad Technegol MALlC 2019 a fersiynau MALlC ar y wefan (gweler y tab dolenni gwe).Dolenni'r we
Gwefan: https://llyw.cymru/mynegai-amddifadedd-lluosog-cymruCanllawiau i’r Mynegai: https://llyw.cymru/mynegai-amddifadedd-lluosog-cymru-canllawiau-ir-mynegai