Amddifadedd hirsefydlog
Mae'r dudalen hon yn cynnwys data sy'n sail i'r dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog. Gallwch weld y dadansoddiad hwn yn adran 2.6 o adroddiad canlyniadau MALlC 2019, ar dudalen we MALlC (gweler yr adran dolenni isod).
Mae ardaloedd bach (ardaloedd cynnyrch ehangach haen is neu ACEHI) o amddifadedd ‘hirsefydlog’ yn ardaloedd sydd wedi aros ymhlith y 50 o ardaloedd mwyaf difreintiedig, sy'n cyfateb yn fras i'r 2.6% uchaf o ardaloedd bach yng Nghymru ar gyfer y pum fersiwn ddiwethaf o safleoedd MALIC.
Mae'r data wedi cael eu darparu i helpu defnyddwyr i nodi pa ardaloedd sydd wedi gadael, ymuno neu aros yn y grŵp mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio safleoedd i awgrymu newid mewn amddifadedd cymharol dros amser. Mae'r rhesymau dros hyn yn cynnwys newidiadau i ffiniau daearyddol ACEHI a newidiadau i fethodoleg y Mynegai rhwng fersiynau. Ewch i'r Crynodeb o’r newidiadau i MALlC ar dudalen we canllawiau MALlC i gael rhagor o wybodaeth. Nodwch hefyd fod MALlC yn mesur amddifadedd cymharol, ac felly nid yw'n dangos lefel amddifadedd mewn ardaloedd bach na sut y mae hyn wedi newid dros amser. Gweler y daenlen ddata sy'n sail i'r dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog (isod) i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r data yma yn cynnwys safleoedd cyffredinol a safleoedd y meysydd ar gyfer y 5 fersiwn ddiwethaf o MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019) ac mae'n nodi i ba gategori o amddifadedd hirsefydlog y mae pob ardal yng Nghymru yn perthyn iddo.
Mae gan y tabl data yn yr adran adroddiadau isod bedair golwg wahanol. Mae pob golwg yn dangos ardaloedd sy'n perthyn i bob un o'r pedwar categori o amddifadedd isod:
Categorïau o Amddifadedd Hirsefydlog
ACEHI mewn Amddifadedd Hirsefydlog
ACEHI sydd wedi aros yn y 50 mwyaf difreintiedig yn y pum fersiwn ddiwethaf o safleoedd MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019).
ACEHI sy'n symud mewn ac allan o'r 50 mwyaf difreintiedig
ACEHI sydd wedi bod yn y 50 mwyaf difreintiedig ar gyfer rhwng dau a phedwar o'r pum fersiwn ddiwethaf o safleoedd MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019).
ACEHI sy'n ymddangos unwaith yn y 50 mwyaf difreintiedig
ACEHI sydd wedi bod yn y 50 mwyaf difreintiedig ar gyfer un o'r pum fersiwn ddiwethaf o safleoedd MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019).
ACEHI nad ydynt erioed wedi ymddangos yn y 50 mwyaf difreintiedig
ACEHI nad ydynt erioed wedi bod yn y 50 mwyaf difreintiedig am y pum fersiwn ddiwethaf o safleoedd MALlC (MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019).
Ym mis Awst 2022, cyhoeddwyd dadansoddiad pellach sy'n disgrifio'r patrymau a welir mewn data dangosyddion rhwng gwahanol gategorïau 'Amddifadedd Hirsefydlog' yn y tabl Data Dangosyddion yn ôl categori Amddifadedd Hirsefydlog o dan yr adran 'Dolenni' isod.
Gallwch hefyd lawrlwytho’r data mewn taenlen o dan yr adran ffeiliau isod, ac o wefan MALlC 2019 (gweler yr adran Dolenni isod).
Mae croeso i chi anfon e-bost os oes gennych unrhyw gwestiynau: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru