Dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal – Ethnigrwydd
Data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar nodweddion gwarchodedig yn ôl grwpiau amddifadedd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019
Metadata
Mae’r tabl hwn yn cyflwyno data ar bobl yng Nghymru a ddadansoddwyd yn ôl nodwedd warchodedig a grwp amddifadedd MALlC.
Mae’r data’n dangos risg a nifer y bobl o grwpiau nodweddion gwarchodedig amrywiol sy’n byw mewn Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) ym mhob grwp amddifadedd MALlC. Mae hefyd yn dangos cyfran y bobl sy’n byw ym mhob grwp amddifadedd yn ôl nodwedd warchodedig.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae wedi’i gynllunio i ganfod yr ardaloedd bach hynny (ACEHI) sydd â’r crynoadau uchaf o fathau gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn gosod yr holl ardaloedd bach yng Nghymru mewn safleoedd rhwng 1 (mwyaf difreintiedig) a 1,909 (lleiaf difreintiedig). Mae’r safleoedd MALlC ar gyfer y dadansoddiad hwn wedi’u grwpio’n ‘Grwpiau Amddifadedd’. Mae gan y rhain grwpiau llai o ACEHI yn y pen mwy difreintiedig o’r dosbarthiad (y 10% o ACEHI mwyaf difreintiedig yng Nghymru), lle mae’r gwahaniaeth rhwng ardaloedd yn fwy nag yn y pen lleiaf difreintiedig o’r dosbarthiad (y 50% o ACEHI lleiaf difreintiedig yng Nghymru). I gael rhagor o wybodaeth am y mesurau a ddefnyddir ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, gweler y dolenni MALlC yn y tab dolenni.
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysonderau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y’u dangosir.
Gan fod y data poblogaeth blynyddol yn dod o arolwg, mae’r canlyniadau’n amcangyfrifon sy’n seiliedig ar samplau ac felly’n gallu amrywio i wahanol raddau, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur i’w weld yn ystod amrywiol y gwerth amcangyfrifedig. Mae amrywioldeb y samplau’n cynyddu wrth i’r manylion yn y data gynyddu
I gael gwybodaeth ansawdd ystadegol ar ddata MALlC, gweler Adroddiad Technegol MALlC 2019 a’r cyhoeddiad MALlC 2019 yn y tab dolenni.
• MALlC 2019;
• Amddifadedd Lluosog;
• Amddifadedd;
• Cynhwysiant Cymdeithasol;
• Crefydd;
• Cydraddoldeb ac Amrywiaeth;
• Ethnigrwydd;
• Statws Anabledd;
• Statws Priodasol;
• Oedran;
• Hunaniaeth Rywiol.
wimd1935