Neidio i'r cynnwys

Dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal

Mae’r dudalen hon yn cynnwys data cyfun o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar nodweddion gwarchodedig, wedi’u grwpio yn ôl grwpiau amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) 2019.

Mae’r dadansoddiad yn cynnwys chwe adroddiad ar oedran a rhyw, statws anabledd, ethnigrwydd, statws priodasol, crefydd a hunaniaeth rywiol.

Gellir lawrlwytho’r data hyn ar ffurf taenlen hefyd, o dan yr adran ffeiliau isod.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am MALlC ac ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth ar y tudalennau gwe ar wefan Llywodraeth Cymru (gweler y dolenni isod).
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am grwpiau nodweddion gwarchodedig ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (gweler y ddolen isod).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon e-bost atom: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru