Cofrestriadau Blwyddyn Gyntaf yng Nghymru yn ôl blwyddyn, lefel a dull astudio
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Cofrestriadau myfyrwyr yng Nghymru yn ôl sefydliad, lefel a dull astudioDiweddariad diwethaf
1 Chwefror 2022Diweddariad nesaf
Ionawr 2023Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Diweddariad diwethaf: 1 Chwefror 2022Diweddariad nesaf: Ionawr 2023
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnodion Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)Daw'r data a gynhwysir yn bennaf o Gofnodion Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ac yn seiliedig ar boblogaeth gofrestru safonol HESA, sy'n cynnwys cofrestriadau myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn. Ar hyn o bryd mae HESA yn cyhoeddi data cyfunol o gofnod Myfyriwr HESA a chofnod amgen Myfyriwr HESA. Fel canlyniad, gall ffigurau a gyhoeddir gan HESA ac Stats Cymru fod yn wahanol.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae poblogaeth gofrestru safonol HESA yn cyfrif pob cofrestriad yn y flwyddyn adrodd 1 Awst i 31 Gorffennaf. Nid yw myfyrwyr sy'n gadael o fewn pythefnos i'r dyddiad cychwyn, neu ben-blwydd y dyddiad hwnnw, ac sydd ar gwrs sy'n para mwy na phythefnos, yn cael eu cynnwys y boblogaeth gofrestru safonol. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy'n ymweld a myfyrwyr cyfnewid o dramor, a myfyrwyr sy'n astudio'r rhaglen gyfan y tu allan i'r DU, hefyd wedi'u heithrio o'r boblogaeth hon.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu HESA. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae'n golygu talgrynnu'r ffigurau i'r lluosrif agosaf o 5. Dyma grynodeb o'r strategaeth:• Mae'r niferoedd sy'n llai na 3 wedi'u talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli fel '.'
• caiff pob ffigur arall eu talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5
Ansawdd ystadegol
Mae niferoedd y myfyrwyr o Gymru sy’n astudio cyrsiau’r Brifysgol Agored yn seiliedig ar y man y mae’r myfyriwr yn hanu ohono yn hytrach nag ar y nod campws a ddewiswyd gan y brifysgol. Mae HESA yn defnyddio dull gwahanol i hyn felly mae’n bosibl y bydd y niferoedd a gyhoeddwyd ychydig yn wahanol.Nodwch nad yw'n bosibl diweddaru gwybodaeth StatsCymru ynghylch Cymraeg i Oedolion, sy'n arfer cael ei gynnwys fel rhan o'r datganiad hwn, i 2016/17. Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn gyfrifol am arwain y rhaglen Cymraeg i Oedolion ac am gydgysylltu darpariaeth ar draws Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ers 2015. Mae ad-drefnu'r ddarpariaeth a'r systemau data o 2016/17 ymlaen wedi bod yn rhan o waith y Ganolfan (yn y gorffennol casglwyd data drwy ddefnyddio data'r Awdurdod Safonau Addysg Uwch a Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru). Mae trefniadau casglu data newydd yn cael eu sefydlu ar gyfer 2017/18 ac ymlaen. Fodd bynnag, ni chasglwyd data i ddarparu darlun cyflawn o'r ddarpariaeth yn ystod blwyddyn 2016/17 ac ni fydd yn cael ei gynnwys o gwbl o 2017/18 ymlaen.
Rhwng 2008/09 a 2012/13 cyfrifwyd "y Brifysgol Agored" yn ôl nifer y myfyrwyr yn y Brifysgol Agored a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Fel arall, cânt eu cyfrif fel myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n astudio yn y Brifysgol Agored
O 2010/11, cafodd myfyrwyr Addysg Bellach (AB) a gofrestrodd â Choleg Merthyr Tudful, Morgannwg, eu hadrodd i HESA hefyd yn hytrach na Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn unig. Yn 2009/10, dim ond 950 o gofrestriadau AB a gafwyd yng Ngholeg Merthyr Tudful (fel rhan o Brifysgol Morgannwg); ond cafwyd 8,580 o gofrestriadau AB yn 2011/12. Gwnaeth y protocol newydd ar gyfer data 2012/13 olygu bod nifer y cofrestriadau hyn wedi gostwng eto i 1,850 yn 2012/13.
Newidiodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ei henw i Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar ddiwedd 2011.
Yn 2009/10, newidodd Prifysgol Morgannwg eu harferion adrodd ar gyfer nifer o'u myfyrwyr ôl-radd llawnamser a oedd yn weithredol dros ddwy flynedd adrodd. Cafodd y myfyrwyr hyn eu nodi gynt yn weithredol yn eu blwyddyn gyntaf ond yn segur yn eu hail flwyddyn. Ers 2009/10, mae'r myfyrwyr bellach yn cael eu nodi'n weithredol yn y ddwy flynedd academaidd, yn unol â gofynion adrodd HESA. O ganlyniad i hyn, gwnaeth Prifysgol Morgannwg adrodd cynnydd o 670 o gofrestriadau (tua 58 y cant) ar gyfer eu cyrsiau ôl-radd llawnamser, a chynnydd dilynol yn nifer y cofrestriadau ôl-radd llawnamser mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
Yn 2008/09, gwelwyd gostyngiad o 2,195 yn nifer y cofrestriadau israddedig rhan-amser, sy'n ostyngiad o 39 y cant ers 2007/08. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y myfyrwyr hynny wedi cael eu cofnodi o'r newydd fel myfyrwyr segur, sy'n golygu eu bod wedi'u heithrio'n awtomatig o'r data cofrestru.
Yn ystod 2009/10, gwnaeth Prifysgol Bangor gymryd rhan mewn cynllun peilot gyda phartner allanol yn ymwneud â chyfres fawr o'u data Cymraeg i Oedolion (mae cofrestriadau AB yn cael eu cynnwys yng nghofnod HESA fel arfer). Yn sgil natur y cynllun, nid oedd rhywfaint o'r data ar gael cyn dyddiad cau HESA, ac felly gwnaeth hyn arwain at dangyfrif ar gyfer y flwyddyn honno. Yn 2011/12, cofnododd Prifysgol Bangor gynnydd o 112 y cant yn nifer y cofrestriadau AB ers 2009/10; ar hyn o bryd nid oes rheswm i gredu bod hyn oherwydd unrhyw beth ond adrodd llawn a chynnydd yn y ddarpariaeth.