Mae'r tabl hwn yn cynnig gwybodaeth am y cymwysterau a enillwyd gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC), a ddarperir drwy sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
I addysgu fel athro cymwysedig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid i fyfyrwyr fodloni safonau SAC. Gall myfyrwyr wneud hynny drwy naill ai gwneud cwrs gradd gyntaf sy'n cyfuno gradd - fel arfer BEd, BA neu BSc - â SAC, neu drwy gwblhau cwrs TAR sy'n arwain at SAC. Mae modd dilyn llwybrau eraill sy'n seiliedig ar gyflogaeth er mwyn ennill SAC, ond nid yw'r rhain wedi'u cynnwys yn y bwletin hwn. Mae'r ffigurau'n cynrychioli'r nifer sydd wedi cofrestru ar gyfer pob blwyddyn, ac maent wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. O 2007/08 ymlaen, ni fydd y boblogaeth gofrestru'n cynnwys y myfyrwyr hynny sydd ar flwyddyn sabothol neu'n ysgrifennu eu traethodau. Dylid cymryd gofal wrth gymharu data ar yr holl fyfyrwyr dros gyfnod o amser gan fod hyd cyrsiau'n gallu amrywio. Er enghraifft, mae nifer o gyrsiau gradd gyntaf a oedd gynt yn bedair blynedd o hyd, bellach yn gyrsiau tair blynedd o hyd.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Mae’r cofnod o’r nifer sydd wedi ennill cymwysterau HESA yn nodi nifer y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â dyfarniad cymhwyster Addysg Uwch (heb gynnwys credydau sefydliadau Addysg Uwch) yn ystod cyfnod adrodd HESA rhwng 1 Awst a 31 Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a ddyfarnwyd i’r rhai a oedd wedi gohirio eu hastudiaethau (e.e. yn cymryd saib) ac a oedd wedi cyrraedd y pwynt lle roeddent yn barod i ysgrifennu am eu gwaith ymchwil. Nid yw’n cynnwys dyfarniadau i fyfyrwyr gwadd a chyfnewid, myfyrwyr sy’n astudio dramor gan mwyaf, na chymwysterau a ddyfernir sydd â dyddiad cwblhau fwy na 3 blynedd cyn y cyfnod adrodd.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu HESA. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae'n golygu talgrynnu'r ffigurau i'r lluosrif agosaf o 5. Dyma grynodeb o'r strategaeth: • Mae cyfrifiadau o bobl yn cael eu talgrynnu i’r lluosrif o 5 agosaf.
AGA Addysg Gychwynnol i Athrawon Cymru SAC Statws Athro Cymwysedig TAR Addysg
Ansawdd ystadegol
Dylid bod yn ofalus wrth gymharu data ar gyfer pob myfyriwr dros amser oherwydd gall hyd cyrsiau amrywio. Er enghraifft, mae nifer o gyrsiau gradd cyntaf a arferai fod yn 4 blynedd bellach yn 3 blynedd o hyd.