Myfyrwyr yng Nghymru yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl rhywedd a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Myfyrwyr yng Nghymru sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y GymraegDiweddariad diwethaf
21 Medi 2023Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2024 (Dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegCasgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae poblogaeth gofrestru safonol Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn cyfrif pawb a gofrestrodd o fewn y flwyddyn adrodd 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Ni chaiff myfyrwyr sy’n gadael o fewn pythefnos i’w dyddiad dechrau, neu o fewn blwyddyn i’w dyddiad dechrau, ac sydd ar gwrs sy’n para mwy na phythefnos, eu cynnwys yn y boblogaeth gofrestru safonol. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n ymweld a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen gyfan y tu allan i’r DU hefyd yn cael eu heithrio o’r niferoedd hyn.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio: Mae’r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys talgrynnu pob rhif i’r 5 agosaf. Dyma grynodeb o’r strategaeth hon:• Rhifau llai na 2.5 yn cael eu talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli gan ‘.’
• Pob rhif arall yn cael eu talgrynnu i’r 5 agosaf
Mae'r cyfansymiau hefyd wedi'u talgrynnu yn ôl y fethodoleg hon; ac fel canlyniad efallai na fydd swm y rhifau ym mhob rhes neu golofn gyfwerth yn union â'r cyfanswm a ddangosir.
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r data hwn yn darparu gwybodaeth ar fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data ar fyfyrwyr, staff ac adnoddau sefydliadau addysg uwch (SAU) yn y DU. Mae'r data a gyflwynir yn y tabl hwn yn cael ei gymryd o Gofnod Myfyrwyr HESA sy'n cynnwys gwybodaeth am yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau sy'n cynnig credydau yn SAU y DU. Mae gwybodaeth bellach am HESA a'u casgliadau data ar gael ar eu gwefan www.hesa.ac.uk
Mae'r Cofnod Myfyriwr yn cynnwys gwybodaeth am ymrestriadau unigol, sydd, oherwydd y gall myfyriwr ymrestru ar fwy nag un rhaglen astudio, fod yn uwch na nifer y myfyrwyr. Fodd bynnag, mae dadansoddiad blaenorol wedi dangos, ar gyfer ymrestriadau llawn amser SAU yng Nghymru, eu bod yn llai nag 1 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr llawn amser; a bod ymrestriadau rhan-amser yn llai na 2 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr rhan-amser.
Nid yw myfyrwyr ôl-ddoethurol yn cael eu cynnwys yng Nghofnod Myfyrwyr HESA.
Mae myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu diffinio fel myfyrwyr sy'n astudio o leiaf un modiwl gyda chyfran di-sero o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gweler y nodiadau dimensiwn am ragor o fanylion.
Ansawdd ystadegol
Mae'r amrywiadau diweddar yn nifer y cofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn bennaf oherwydd newid i'r ddarpariaeth o ran cyrsiau byr ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant. Cafodd y cyrsiau hyn eu hadrodd drwy HESA am y tro cyntaf yn 2015/16. Cyn hynny, ni adroddwyd yn ddigonol ar nifer y cofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn 2013/14 a 2014/15 ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant. Yn sgil diffyg staff, cyllid ac adnoddau, nid oedd rhai o'r modylau hyn ar gael yn 2016/17.Ni adroddwyd yn ddigonol ar gofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn 2013/14 a 2014/15 ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant oherwydd systemau adrodd gwahanol mewn sefydliadau a oedd newydd uno. O 2010/11, cafodd myfyrwyr Addysg Bellach (AB) a gofrestrodd â Choleg Merthyr Tudful, Morgannwg, eu hadrodd i HESA hefyd yn hytrach na Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn unig. Yn 2009/10, dim ond 950 o gofrestriadau AB a gafwyd yng Ngholeg Merthyr Tudful (fel rhan o Brifysgol Morgannwg); ond cafwyd 8,580 o gofrestriadau AB yn 2011/12. Gwnaeth y protocol newydd ar gyfer data 2012/13 olygu bod nifer y cofrestriadau hyn wedi gostwng eto i 1,850 yn 2012/13.
Newidiodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ei henw i Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar ddiwedd 2011.
Yn 2009/10, newidodd Prifysgol Morgannwg eu harferion adrodd ar gyfer nifer o'u myfyrwyr ôl-radd llawnamser a oedd yn weithredol dros ddwy flynedd adrodd. Cafodd y myfyrwyr hyn eu nodi gynt yn weithredol yn eu blwyddyn gyntaf ond yn segur yn eu hail flwyddyn. Ers 2009/10, mae'r myfyrwyr bellach yn cael eu nodi'n weithredol yn y ddwy flynedd academaidd, yn unol â gofynion adrodd HESA. O ganlyniad i hyn, gwnaeth Prifysgol Morgannwg adrodd cynnydd o 670 o gofrestriadau (tua 58 y cant) ar gyfer eu cyrsiau ôl-radd llawnamser, a chynnydd dilynol yn nifer y cofrestriadau ôl-radd llawnamser mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
Yn 2008/09, gwelwyd gostyngiad o 2,195 yn nifer y cofrestriadau israddedig rhan-amser, sy'n ostyngiad o 39 y cant ers 2007/08. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y myfyrwyr hynny wedi cael eu cofnodi o'r newydd fel myfyrwyr segur, sy'n golygu eu bod wedi'u heithrio'n awtomatig o'r data cofrestru.
Yn ystod 2009/10, gwnaeth Prifysgol Bangor gymryd rhan mewn cynllun peilot gyda phartner allanol yn ymwneud â chyfres fawr o'u data Cymraeg i Oedolion (mae cofrestriadau AB yn cael eu cynnwys yng nghofnod HESA fel arfer). Yn sgil natur y cynllun, nid oedd rhywfaint o'r data ar gael cyn dyddiad cau HESA, ac felly gwnaeth hyn arwain at dangyfrif ar gyfer y flwyddyn honno. Yn 2011/12, cofnododd Prifysgol Bangor gynnydd o 112 y cant yn nifer y cofrestriadau AB ers 2009/10; ar hyn o bryd nid oes rheswm i gredu bod hyn oherwydd unrhyw beth ond adrodd llawn a chynnydd yn y ddarpariaeth.