Myfyrwyr yng Nghymru sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl pwnc HECOS a gallu i siarad Cymraeg
None
|
Metadata
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r data hwn yn darparu gwybodaeth ar fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data ar fyfyrwyr, staff ac adnoddau sefydliadau addysg uwch (SAU) yn y DU. Mae'r data a gyflwynir yn y tabl hwn yn cael ei gymryd o Gofnod Myfyrwyr HESA sy'n cynnwys gwybodaeth am yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau sy'n cynnig credydau yn SAU y DU. Mae gwybodaeth bellach am HESA a'u casgliadau data ar gael ar eu gwefan www.hesa.ac.uk
Set ddata newydd yw hon. Mae'n wahanol i'r data yn y set ddata wedi'i harchifo o dan y teitl: Myfyrwyr yng Nghymru sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl pwnc a gallu i siarad Cymraeg oherwydd newid o godau pwnc JACS i godau pwnc HECOS. Ceir rhagor o fanylion am godau pwnc HECOS ar wefan HESA: https://www.hesa.ac.uk/support/documentation/hecos
Mae'r Cofnod Myfyriwr yn cynnwys gwybodaeth am ymrestriadau unigol, sydd, oherwydd y gall myfyriwr ymrestru ar fwy nag un rhaglen astudio, fod yn uwch na nifer y myfyrwyr. Fodd bynnag, mae dadansoddiad blaenorol wedi dangos, ar gyfer ymrestriadau llawn amser SAU yng Nghymru, eu bod yn llai nag 1 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr llawn amser; a bod ymrestriadau rhan-amser yn llai na 2 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr rhan-amser.
Nid yw myfyrwyr ôl-ddoethurol yn cael eu cynnwys yng Nghofnod Myfyrwyr HESA.
Mae myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu diffinio fel myfyrwyr sy'n astudio o leiaf un modiwl gyda chyfran di-sero o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gweler y nodiadau dimensiwn am ragor o fanylion.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru
Gall myfyriwr astudio modiwlau mewn nifer o bynciau, a hyd yn oed mwy nag un pwnc mewn modiwl unigol. Gallai unrhyw gyfuniad o bynciau a modiwlau gynnwys rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Golyga hyn nad yw’n bosibl adrodd am nifer y pynciau mewn ffordd sy’n gyson â’r cyfansymiau cyfrwng Cymraeg mewn mannau eraill ond sydd hefyd yn fanwl gywir o ran canran y myfyrwyr sy’n astudio pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wedi dewis gwneud y canrannau’n fanwl gywir.
Mae pynciau yr adroddir amdanynt mewn cyfrifiadau Cyfwerth â Pherson Llawn yn rhannu pob myfyriwr ar draws y pynciau maen nhw’n eu hastudio. Pe bai cwrs myfyriwr yn golygu ei fod yn treulio hanner ei amser yn astudio Mathemateg a’r hanner arall yn astudio’r Gyfraith, byddai hynny’n cyfrif fel hanner myfyriwr (0.5) yn astudio Mathemateg a hanner myfyriwr yn astudio’r Gyfraith. Ar ôl i bynciau myfyriwr gael eu cyfrifo mewn cyfrifiadau Cyfwerth â Pherson Llawn, byddwn yn gwirio a gafodd unrhyw ran o bwnc ei astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, os Mathemateg yw hanner cwrs myfyriwr (0.5 Cyfwerth â Pherson Llawn), a’i fod yn astudio rhywfaint o Fathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg, yna mae hefyd yn cyfrif fel hanner myfyriwr yn astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg (0.5 Cyfwerth â Pherson Llawn).
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae poblogaeth gofrestru safonol Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn cyfrif pawb a gofrestrodd o fewn y flwyddyn adrodd 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Ni chaiff myfyrwyr sy’n gadael o fewn pythefnos i’w dyddiad dechrau, neu o fewn blwyddyn i’w dyddiad dechrau, ac sydd ar gwrs sy’n para mwy na phythefnos, eu cynnwys yn y boblogaeth gofrestru safonol. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n ymweld a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen gyfan y tu allan i’r DU hefyd yn cael eu heithrio o’r niferoedd hyn.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio: Mae’r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys talgrynnu pob rhif i’r 5 agosaf. Dyma grynodeb o’r strategaeth hon:• Rhifau llai na 2.5 yn cael eu talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli gan ‘.’
• Pob rhif arall yn cael eu talgrynnu i’r 5 agosaf
Mae'r cyfansymiau hefyd wedi'u talgrynnu yn ôl y fethodoleg hon; ac fel canlyniad efallai na fydd swm y rhifau ym mhob rhes neu golofn gyfwerth yn union â'r cyfanswm a ddangosir.
Teitl
Myfyrwyr yng Nghymru sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl pwnc HECOS a gallu i siarad CymraegDiweddariad diwethaf
21 Medi 2023Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2024 (Dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae data yn y set ddata hon yn wahanol i'r data yn y set ddata wedi'i harchifo o dan y teitl ‘Myfyrwyr yng Nghymru sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl pwnc a gallu i siarad Cymraeg oherwydd newid o godau pwnc JACS i godau pwnc HECOS’. Ceir rhagor o fanylion am godau pwnc HECOS ar wefan HESA: https://www.hesa.ac.uk/support/documentation/hecos.O 2020/21 newidiodd HESA y ffordd y caiff pynciau eu dosbarthu. Mae data 2019/20 wedi'i ddiwygio a'i ailgyhoeddi ynghyd â data 2020/21 er mwyn adlewyrchu'r newidynnau dosbarthu newydd. Felly, mae data 2019/20 yn wahanol i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.hesa.ac.uk/news/25-01-2022/sb262-higher-education-student-statistics/notes.
Gall myfyriwr astudio modiwlau mewn nifer o bynciau, a hyd yn oed mwy nag un pwnc mewn modiwl unigol. Gallai unrhyw gyfuniad o bynciau a modiwlau gynnwys rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyhoeddiadau eraill yn defnyddio pynciau cwrs yn hytrach na phynciau modiwlau. Golyga hyn efallai nad yw nifer y pynciau a’r cyfansymiau cyfrwng Cymraeg yn cael eu dangos mewn ffordd sy’n gyson â nifer y pynciau a’r cyfansymiau cyfrwng Cymraeg mewn mannau eraill.