Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Myfyrwyr yng Nghymru yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl dull astudio a lefel
None
SylwAr gyfer data rhwng 2008/09 a 2012/13, cofnodir myfyrwyr yn y Brifysgol Agored yng Nghymru fel myfyrwyr yn y Brifysgol Agored sy\'n cael eu hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Rhwng 2013/14 a 2019/20, fe\'u cofnodir fel myfyrwyr sy\'n hanu o Gymru sy\'n astudio yn y Brifysgol Agored. O 2020/21 ymlaen, maent yn cael eu cyfrif fel myfyrwyr sydd wedi\'u cofrestru yng nghanolfan genedlaethol Cymru\'r Brifysgol Agored.[Hidlwyd]
[Lleihau]DomisilLle mae\'r myfyriwr fel arfer yn byw cyn dechrau ar ei astudiaethau [Hidlwyd]
-
Domisil 1[Hidlo]
[Lleihau]Sefydliad[Hidlwyd]
-
Sefydliad 1[Hidlo]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Blwyddyn Astudio[Hidlwyd]
[Lleihau]Rhyw[Hidlwyd]
-
Rhyw 1[Hidlo]
Measure2
[Lleihau]Dwysedd y GymraegSwm a astudiwyd drwy gyfrwng y Gymraeg[Hidlo]
-
Dwysedd y Gymraeg 1
[Lleihau]Modd[Hidlo]
-
-
Modd 1
[Lleihau]Lefel[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Lefel 1
-
-
Lefel 2
[Lleihau]Pob cofrestriadPob myfyriwr sydd wedi cofrestru gyda Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, waeth beth yw iaith y ddarpariaethCliciwch yma i ddidoliPob cofrestriadPob myfyriwr sydd wedi cofrestru gyda Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, waeth beth yw iaith y ddarpariaeth
Cliciwch yma i ddidoliCofrestriadau gyda rhywfaint o addysg gyfrwng CymraegMyfyrwyr sy’n astudio o leiaf un modiwl sydd â chyfran o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.Cliciwch yma i ddidoliCofrestriadau gydag o leiaf 5 credyd yn GymraegCliciwch yma i ddidoliCofrestriadau gydag o leiaf 40 credyd yn GymraegCliciwch yma i ddidoliCofrestriadau gydag o leiaf 80 credyd yn GymraegCliciwch yma i ddidoliCofrestriadau gydag o leiaf 120 credyd yn GymraegCliciwch yma i ddidoliCofrestriadau gyda dim addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
[Lleihau]Pob dull7,2156,0702,7651,390835141,835149,045
Pob dullLlawn-amserMyfyrwyr amser llawn yw\'r myfyrwyr y mae\'n rhaid iddynt fynychu sefydliad am gyfnodau o 24 wythnos o leiaf o fewn blwyddyn y rhaglen astudio sy\'n para o leiaf 21 awr yr wythnos. Mae\'r cynnwys myfyrwyr sy\'n dilyn cyrsiau rhyngosod hir neu fyr a\'r rhai sy\'n cymryd blwyddyn allan o\'u sefydliad sy\'n gysylltiedig ag astudio.[Lleihau]Addysg UwchPob rhaglen Addysg Uwch5,8055,1052,5201,310815101,955107,760
Addysg UwchPob rhaglen Addysg Uwch[Ehangu]Ôl-raddMae rhaglenni astudio ôl-radd yn arwain at radd uwch, diploma neu dystysgrif, ac fel arfer bydd angen i’r myfyrwyr sydd am gofrestru ar eu cyfer fod â chymhwyster ar lefel gradd.72562037031029023,06523,790
[Ehangu]Is-raddedigionMae rhaglenni astudio ar gyfer is-raddedigion yn cynnwys graddau cyntaf, graddau sylfaen, diplomâu mewn Addysg Uwch, Diplomâu Cenedlaethol Uwch, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, ac ati.5,0804,4852,1551,00052578,89083,970
Rhan-amserMyfyrwyr rhan amser yw\'r rhai sydd wedi cofrestru fel myfyrwyr sy\'n astudio\'n rhan amser, neu\'n astudio cyrsiau amser llawn sy\'n para llai na 24 wythnos.[Lleihau]Addysg UwchPob rhaglen Addysg Uwch1,410965245752039,87541,285
Addysg UwchPob rhaglen Addysg Uwch[Ehangu]Ôl-raddMae rhaglenni astudio ôl-radd yn arwain at radd uwch, diploma neu dystysgrif, ac fel arfer bydd angen i’r myfyrwyr sydd am gofrestru ar eu cyfer fod â chymhwyster ar lefel gradd.4902709540514,38514,870
[Ehangu]Is-raddedigionMae rhaglenni astudio ar gyfer is-raddedigion yn cynnwys graddau cyntaf, graddau sylfaen, diplomâu mewn Addysg Uwch, Diplomâu Cenedlaethol Uwch, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, ac ati.920695145351525,49526,415

Metadata

Teitl

Myfyrwyr yng Nghymru sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Diweddariad diwethaf

21 Medi 2023 21 Medi 2023

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2024 (Dros dro)


Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Cyswllt ebost

addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Higher Education

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r data hwn yn darparu gwybodaeth ar fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.

Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data ar fyfyrwyr, staff ac adnoddau sefydliadau addysg uwch (SAU) yn y DU. Mae'r data a gyflwynir yn y tabl hwn yn cael ei gymryd o Gofnod Myfyrwyr HESA sy'n cynnwys gwybodaeth am yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau sy'n cynnig credydau yn SAU y DU. Mae gwybodaeth bellach am HESA a'u casgliadau data ar gael ar eu gwefan www.hesa.ac.uk

Mae'r Cofnod Myfyriwr yn cynnwys gwybodaeth am ymrestriadau unigol, sydd, oherwydd y gall myfyriwr ymrestru ar fwy nag un rhaglen astudio, fod yn uwch na nifer y myfyrwyr. Fodd bynnag, mae dadansoddiad blaenorol wedi dangos, ar gyfer ymrestriadau llawn amser SAU yng Nghymru, eu bod yn llai nag 1 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr llawn amser; a bod ymrestriadau rhan-amser yn llai na 2 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr rhan-amser.

Nid yw myfyrwyr ôl-ddoethurol yn cael eu cynnwys yng Nghofnod Myfyrwyr HESA.

Mae myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu diffinio fel myfyrwyr sy'n astudio o leiaf un modiwl gyda chyfran di-sero o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gweler y nodiadau dimensiwn am ragor o fanylion.


Casgliad data a dull cyfrifo

Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Cyswllt: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru


Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Mae poblogaeth gofrestru safonol Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn cyfrif pawb a gofrestrodd o fewn y flwyddyn adrodd 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Ni chaiff myfyrwyr sy’n gadael o fewn pythefnos i’w dyddiad dechrau, neu o fewn blwyddyn i’w dyddiad dechrau, ac sydd ar gwrs sy’n para mwy na phythefnos, eu cynnwys yn y boblogaeth gofrestru safonol. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n ymweld a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen gyfan y tu allan i’r DU hefyd yn cael eu heithrio o’r niferoedd hyn.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio: Mae’r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys talgrynnu pob rhif i’r 5 agosaf. Dyma grynodeb o’r strategaeth hon:
• Rhifau llai na 2.5 yn cael eu talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli gan ‘.’
• Pob rhif arall yn cael eu talgrynnu i’r 5 agosaf
Mae'r cyfansymiau hefyd wedi'u talgrynnu yn ôl y fethodoleg hon; ac fel canlyniad efallai na fydd swm y rhifau ym mhob rhes neu golofn gyfwerth yn union â'r cyfanswm a ddangosir.

Ansawdd ystadegol

Mae'r amrywiadau diweddar yn nifer y cofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn bennaf oherwydd newid i'r ddarpariaeth o ran cyrsiau byr ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant. Cafodd y cyrsiau hyn eu hadrodd drwy HESA am y tro cyntaf yn 2015/16. Cyn hynny, ni adroddwyd yn ddigonol ar nifer y cofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn 2013/14 a 2014/15 ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant. Yn sgil diffyg staff, cyllid ac adnoddau, nid oedd rhai o'r modylau hyn ar gael yn 2016/17.
Ni adroddwyd yn ddigonol ar gofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn 2013/14 a 2014/15 ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant oherwydd systemau adrodd gwahanol mewn sefydliadau a oedd newydd uno. O 2010/11, cafodd myfyrwyr Addysg Bellach (AB) a gofrestrodd â Choleg Merthyr Tudful, Morgannwg, eu hadrodd i HESA hefyd yn hytrach na Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn unig. Yn 2009/10, dim ond 950 o gofrestriadau AB a gafwyd yng Ngholeg Merthyr Tudful (fel rhan o Brifysgol Morgannwg); ond cafwyd 8,580 o gofrestriadau AB yn 2011/12. Gwnaeth y protocol newydd ar gyfer data 2012/13 olygu bod nifer y cofrestriadau hyn wedi gostwng eto i 1,850 yn 2012/13.
Newidiodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ei henw i Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar ddiwedd 2011.

Yn 2009/10, newidodd Prifysgol Morgannwg eu harferion adrodd ar gyfer nifer o'u myfyrwyr ôl-radd llawnamser a oedd yn weithredol dros ddwy flynedd adrodd. Cafodd y myfyrwyr hyn eu nodi gynt yn weithredol yn eu blwyddyn gyntaf ond yn segur yn eu hail flwyddyn. Ers 2009/10, mae'r myfyrwyr bellach yn cael eu nodi'n weithredol yn y ddwy flynedd academaidd, yn unol â gofynion adrodd HESA. O ganlyniad i hyn, gwnaeth Prifysgol Morgannwg adrodd cynnydd o 670 o gofrestriadau (tua 58 y cant) ar gyfer eu cyrsiau ôl-radd llawnamser, a chynnydd dilynol yn nifer y cofrestriadau ôl-radd llawnamser mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.

Yn 2008/09, gwelwyd gostyngiad o 2,195 yn nifer y cofrestriadau israddedig rhan-amser, sy'n ostyngiad o 39 y cant ers 2007/08. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y myfyrwyr hynny wedi cael eu cofnodi o'r newydd fel myfyrwyr segur, sy'n golygu eu bod wedi'u heithrio'n awtomatig o'r data cofrestru.

Yn ystod 2009/10, gwnaeth Prifysgol Bangor gymryd rhan mewn cynllun peilot gyda phartner allanol yn ymwneud â chyfres fawr o'u data Cymraeg i Oedolion (mae cofrestriadau AB yn cael eu cynnwys yng nghofnod HESA fel arfer). Yn sgil natur y cynllun, nid oedd rhywfaint o'r data ar gael cyn dyddiad cau HESA, ac felly gwnaeth hyn arwain at dangyfrif ar gyfer y flwyddyn honno. Yn 2011/12, cofnododd Prifysgol Bangor gynnydd o 112 y cant yn nifer y cofrestriadau AB ers 2009/10; ar hyn o bryd nid oes rheswm i gredu bod hyn oherwydd unrhyw beth ond adrodd llawn a chynnydd yn y ddarpariaeth.