Myfyrwyr yng Nghymru sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl pwnc a gallu i siarad Cymraeg - -Wedi ei archifo – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach
None
|
Metadata
Ansawdd ystadegol
Mae'r amrywiadau diweddar yn nifer y cofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn bennaf oherwydd newid i'r ddarpariaeth o ran cyrsiau byr ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant. Cafodd y cyrsiau hyn eu hadrodd drwy HESA am y tro cyntaf yn 2015/16. Cyn hynny, ni adroddwyd yn ddigonol ar nifer y cofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn 2013/14 a 2014/15 ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant. Yn sgil diffyg staff, cyllid ac adnoddau, nid oedd rhai o'r modylau hyn ar gael yn 2016/17.Ni adroddwyd yn ddigonol ar gofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn 2013/14 a 2014/15 ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant oherwydd systemau adrodd gwahanol mewn sefydliadau a oedd newydd uno.
O 2010/11, cafodd myfyrwyr Addysg Bellach (AB) a gofrestrodd â Choleg Merthyr Tudful, Morgannwg, eu hadrodd i HESA hefyd yn hytrach na Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn unig. Yn 2009/10, dim ond 950 o gofrestriadau AB a gafwyd yng Ngholeg Merthyr Tudful (fel rhan o Brifysgol Morgannwg); ond cafwyd 8,580 o gofrestriadau AB yn 2011/12. Gwnaeth y protocol newydd ar gyfer data 2012/13 olygu bod nifer y cofrestriadau hyn wedi gostwng eto i 1,850 yn 2012/13.
Newidiodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ei henw i Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar ddiwedd 2011.
Yn 2009/10, newidodd Prifysgol Morgannwg eu harferion adrodd ar gyfer nifer o'u myfyrwyr ôl-radd llawnamser a oedd yn weithredol dros ddwy flynedd adrodd. Cafodd y myfyrwyr hyn eu nodi gynt yn weithredol yn eu blwyddyn gyntaf ond yn segur yn eu hail flwyddyn. Ers 2009/10, mae'r myfyrwyr bellach yn cael eu nodi'n weithredol yn y ddwy flynedd academaidd, yn unol â gofynion adrodd HESA. O ganlyniad i hyn, gwnaeth Prifysgol Morgannwg adrodd cynnydd o 670 o gofrestriadau (tua 58 y cant) ar gyfer eu cyrsiau ôl-radd llawnamser, a chynnydd dilynol yn nifer y cofrestriadau ôl-radd llawnamser mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
Yn 2008/09, gwelwyd gostyngiad o 2,195 yn nifer y cofrestriadau israddedig rhan-amser, sy'n ostyngiad o 39 y cant ers 2007/08. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y myfyrwyr hynny wedi cael eu cofnodi o'r newydd fel myfyrwyr segur, sy'n golygu eu bod wedi'u heithrio'n awtomatig o'r data cofrestru.
Yn ystod 2009/10, gwnaeth Prifysgol Bangor gymryd rhan mewn cynllun peilot gyda phartner allanol yn ymwneud â chyfres fawr o'u data Cymraeg i Oedolion (mae cofrestriadau AB yn cael eu cynnwys yng nghofnod HESA fel arfer). Yn sgil natur y cynllun, nid oedd rhywfaint o'r data ar gael cyn dyddiad cau HESA, ac felly gwnaeth hyn arwain at dangyfrif ar gyfer y flwyddyn honno. Yn 2011/12, cofnododd Prifysgol Bangor gynnydd o 112 y cant yn nifer y cofrestriadau AB ers 2009/10; ar hyn o bryd nid oes rheswm i gredu bod hyn oherwydd unrhyw beth ond adrodd llawn a chynnydd yn y ddarpariaeth.
Teitl
Myfyrwyr yng Nghymru sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y GymraegDiweddariad diwethaf
30 Gorffennaf 2020Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2021Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Ffynhonnell: Cofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) .Manylion cyswllt: Post16Ed.stats@gov.wales
Mae’r data hwn yn darparu gwybodaeth ar fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data ar fyfyrwyr, staff ac adnoddau sefydliadau addysg uwch (SAU) yn y DU. Mae'r data a gyflwynir yn y tabl hwn yn cael ei gymryd o Gofnod Myfyrwyr HESA sy'n cynnwys gwybodaeth am yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau sy'n cynnig credydau yn SAU y DU. Mae gwybodaeth bellach am HESA a'u casgliadau data ar gael ar eu gwefan www.hesa.ac.uk
Mae'r Cofnod Myfyriwr yn cynnwys gwybodaeth am ymrestriadau unigol, sydd, oherwydd y gall myfyriwr ymrestru ar fwy nag un rhaglen astudio, fod yn uwch na nifer y myfyrwyr. Fodd bynnag, mae dadansoddiad blaenorol wedi dangos, ar gyfer ymrestriadau llawn amser SAU yng Nghymru, eu bod yn llai nag 1 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr llawn amser; a bod ymrestriadau rhan-amser yn llai na 2 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr rhan-amser.
Nid yw myfyrwyr ôl-ddoethurol yn cael eu cynnwys yng Nghofnod Myfyrwyr HESA.
Mae myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu diffinio fel myfyrwyr sy'n astudio o leiaf un modiwl gyda chyfran di-sero o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gweler y nodiadau dimensiwn am ragor o fanylion.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt: post16ed.stats@gov.wales
Gall myfyriwr astudio modiwlau mewn nifer o bynciau, a hyd yn oed mwy nag un pwnc mewn modiwl unigol. Gallai unrhyw gyfuniad o bynciau a modiwlau gynnwys rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Golyga hyn nad yw’n bosibl adrodd am nifer y pynciau mewn ffordd sy’n gyson â’r cyfansymiau cyfrwng Cymraeg mewn mannau eraill ond sydd hefyd yn fanwl gywir o ran canran y myfyrwyr sy’n astudio pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wedi dewis gwneud y canrannau’n fanwl gywir.
Mae pynciau yr adroddir amdanynt mewn cyfrifiadau Cyfwerth â Pherson Llawn yn rhannu pob myfyriwr ar draws y pynciau maen nhw’n eu hastudio. Pe bai cwrs myfyriwr yn golygu ei fod yn treulio hanner ei amser yn astudio Mathemateg a’r hanner arall yn astudio’r Gyfraith, byddai hynny’n cyfrif fel hanner myfyriwr (0.5) yn astudio Mathemateg a hanner myfyriwr yn astudio’r Gyfraith. Ar ôl i bynciau myfyriwr gael eu cyfrifo mewn cyfrifiadau Cyfwerth â Pherson Llawn, byddwn yn gwirio a gafodd unrhyw ran o bwnc ei astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, os Mathemateg yw hanner cwrs myfyriwr (0.5 Cyfwerth â Pherson Llawn), a’i fod yn astudio rhywfaint o Fathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg, yna mae hefyd yn cyfrif fel hanner myfyriwr yn astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg (0.5 Cyfwerth â Pherson Llawn).
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae poblogaeth gofrestru safonol Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn cyfrif pawb a gofrestrodd o fewn y flwyddyn adrodd 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Ni chaiff myfyrwyr sy’n gadael o fewn pythefnos i’w dyddiad dechrau, neu o fewn blwyddyn i’w dyddiad dechrau, ac sydd ar gwrs sy’n para mwy na phythefnos, eu cynnwys yn y boblogaeth gofrestru safonol. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n ymweld a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen gyfan y tu allan i’r DU hefyd yn cael eu heithrio o’r niferoedd hyn.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae’r ffordd y caiff y ffigurau eu cyflwyno yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth talgrynnu Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Bwriad y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys talgrynnu pob rhif i’r 5 agosaf. Dyma grynodeb o’r strategaeth hon:• 0, 1, 2 yn cael eu talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli gan '*'.
• Pob rhif arall yn cael eu talgrynnu i’r 5 agosaf