Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru yn ôl preswylfan a blwyddyn
None
SylwAr gyfer data rhwng 2008/09 a 2012/13, cofnodir myfyrwyr yn y Brifysgol Agored yng Nghymru fel myfyrwyr yn y Brifysgol Agored sy\'n cael eu hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Rhwng 2013/14 a 2019/20, fe\'u cofnodir fel myfyrwyr sy\'n hanu o Gymru sy\'n astudio yn y Brifysgol Agored. O 2020/21 ymlaen, maent yn cael eu cyfrif fel myfyrwyr sydd wedi\'u cofrestru yng nghanolfan genedlaethol Cymru\'r Brifysgol Agored.[Hidlwyd]
[Lleihau]Sefydliad[Hidlwyd]
-
Sefydliad 1[Hidlo]
[Lleihau]Lefel[Hidlwyd]
-
Lefel 1[Hidlo]
[Lleihau]Modd[Hidlwyd]
-
Modd 1[Hidlo]
[Lleihau]Dwysedd y GymraegSwm a astudiwyd drwy gyfrwng y Gymraeg[Hidlwyd]
-
Dwysedd y Gymraeg 1[Hidlo]
Blwyddyn Astudio[Hidlwyd]
Measure1
Blwyddyn[Hidlwyd]
[Lleihau]DomisilLle mae\'r myfyriwr fel arfer yn byw cyn dechrau ar ei astudiaethau [Hidlo]
-
-
Domisil 1
[Lleihau]Siaradwr CymraegA yw\’r myfyriwr yn ystyried ei hun yn siaradwr Cymraeg.[Hidlo]
-
-
Siaradwr Cymraeg 1
Cliciwch yma i ddidoli2016/17Cliciwch yma i ddidoli2017/18Cliciwch yma i ddidoli2018/19Cliciwch yma i ddidoli2019/20Cliciwch yma i ddidoli2020/21Cliciwch yma i ddidoli2021/22
[Lleihau]Pob myfyriwr129,405129,595132,210136,370145,175149,045
Pob myfyriwr Hanu o Gymru[Lleihau]Pob myfyriwr67,93567,32069,70071,41076,17074,975
Pob myfyriwrSiaradwr Cymraeg rhugl9,9109,9309,9459,86010,34510,470
Siaradwr Cymraeg ond ddim yn rhugl10,07010,1909,92510,01510,48510,545
Ddim yn siarad Cymraeg43,51043,08044,93545,57048,05046,660
Anhysbys4,4454,1204,8955,9607,2907,305
Ddim yn hanu o Gymru[Lleihau]Pob myfyriwr61,42062,24562,49564,94569,00074,060
Pob myfyriwrSiaradwr Cymraeg rhugl7595155160155200
Siaradwr Cymraeg ond ddim yn rhugl1651,030370460510525
Ddim yn siarad Cymraeg24,12025,35558,71059,96562,90065,905
Anhysbys37,06535,7653,2554,3555,4357,435

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r data hwn yn darparu gwybodaeth ar fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.

Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data ar fyfyrwyr, staff ac adnoddau sefydliadau addysg uwch (SAU) yn y DU. Mae'r data a gyflwynir yn y tabl hwn yn cael ei gymryd o Gofnod Myfyrwyr HESA sy'n cynnwys gwybodaeth am yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau sy'n cynnig credydau yn SAU y DU. Mae gwybodaeth bellach am HESA a'u casgliadau data ar gael ar eu gwefan www.hesa.ac.uk

Mae'r Cofnod Myfyriwr yn cynnwys gwybodaeth am ymrestriadau unigol, sydd, oherwydd y gall myfyriwr ymrestru ar fwy nag un rhaglen astudio, fod yn uwch na nifer y myfyrwyr. Fodd bynnag, mae dadansoddiad blaenorol wedi dangos, ar gyfer ymrestriadau llawn amser SAU yng Nghymru, eu bod yn llai nag 1 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr llawn amser; a bod ymrestriadau rhan-amser yn llai na 2 y cant yn uwch na nifer y myfyrwyr rhan-amser.

Nid yw myfyrwyr ôl-ddoethurol yn cael eu cynnwys yng Nghofnod Myfyrwyr HESA.

Mae myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu diffinio fel myfyrwyr sy'n astudio o leiaf un modiwl gyda chyfran di-sero o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gweler y nodiadau dimensiwn am ragor o fanylion.


Casgliad data a dull cyfrifo

Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Cyswllt: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Mae poblogaeth gofrestrodd o fewn y flwyddyn adrodd 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Ni chaiff myfyrwyr sy’n gadael o fewn pythefnos i’w dyddiad dechrau, neu o fewn blwyddyn i’w dyddiad dechrau, ac sydd ar gwrs sy’n para mwy na phythefnos, eu cynnwys yn y boblogaeth gofrestru safonol. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n ymweld a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen gyfan y tu allan i’r DU hefyd yn cael eu heithrio o’r niferoedd hyn.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio: Mae’r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys talgrynnu pob rhif i’r 5 agosaf. Dyma grynodeb o’r strategaeth hon:
• Rhifau llai na 2.5 yn cael eu talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli gan ‘.’
• Pob rhif arall yn cael eu talgrynnu i’r 5 agosaf
Mae'r cyfansymiau hefyd wedi'u talgrynnu yn ôl y fethodoleg hon; ac fel canlyniad efallai na fydd swm y rhifau ym mhob rhes neu golofn gyfwerth yn union â'r cyfanswm a ddangosir.

Teitl

Myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru

Diweddariad diwethaf

21 Medi 2023 21 Medi 2023

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2024 (Dros dro)


Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Cyswllt ebost

addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

O 2010/11, cafodd myfyrwyr Addysg Bellach (AB) a gofrestrodd â Choleg Merthyr Tudful, Morgannwg, eu hadrodd i HESA hefyd yn hytrach na Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn unig. Yn 2009/10, dim ond 950 o gofrestriadau AB a gafwyd yng Ngholeg Merthyr Tudful (fel rhan o Brifysgol Morgannwg); ond cafwyd 8,580 o gofrestriadau AB yn 2011/12. Gwnaeth y protocol newydd ar gyfer data 2012/13 olygu bod nifer y cofrestriadau hyn wedi gostwng eto i 1,850 yn 2012/13.
Newidiodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ei henw i Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar ddiwedd 2011.

Yn 2009/10, newidodd Prifysgol Morgannwg eu harferion adrodd ar gyfer nifer o'u myfyrwyr ôl-radd llawnamser a oedd yn weithredol dros ddwy flynedd adrodd. Cafodd y myfyrwyr hyn eu nodi gynt yn weithredol yn eu blwyddyn gyntaf ond yn segur yn eu hail flwyddyn. Ers 2009/10, mae'r myfyrwyr bellach yn cael eu nodi'n weithredol yn y ddwy flynedd academaidd, yn unol â gofynion adrodd HESA. O ganlyniad i hyn, gwnaeth Prifysgol Morgannwg adrodd cynnydd o 670 o gofrestriadau (tua 58 y cant) ar gyfer eu cyrsiau ôl-radd llawnamser, a chynnydd dilynol yn nifer y cofrestriadau ôl-radd llawnamser mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.

Yn 2008/09, gwelwyd gostyngiad o 2,195 yn nifer y cofrestriadau israddedig rhan-amser, sy'n ostyngiad o 39 y cant ers 2007/08. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y myfyrwyr hynny wedi cael eu cofnodi o'r newydd fel myfyrwyr segur, sy'n golygu eu bod wedi'u heithrio'n awtomatig o'r data cofrestru.

Yn ystod 2009/10, gwnaeth Prifysgol Bangor gymryd rhan mewn cynllun peilot gyda phartner allanol yn ymwneud â chyfres fawr o'u data Cymraeg i Oedolion (mae cofrestriadau AB yn cael eu cynnwys yng nghofnod HESA fel arfer). Yn sgil natur y cynllun, nid oedd rhywfaint o'r data ar gael cyn dyddiad cau HESA, ac felly gwnaeth hyn arwain at dangyfrif ar gyfer y flwyddyn honno. Yn 2011/12, cofnododd Prifysgol Bangor gynnydd o 112 y cant yn nifer y cofrestriadau AB ers 2009/10; ar hyn o bryd nid oes rheswm i gredu bod hyn oherwydd unrhyw beth ond adrodd llawn a chynnydd yn y ddarpariaeth.

Yn 2017/18, llawer o bobl myfyrwyr di-Gymraeg eu cofnodi fel Siaradwr Cymraeg ond ddim yn rhugl i Brifysgol Bangor. Roedd gwall yn y data a ddarparwyd gan y brifysgol ac yn cael ei ymchwilio.

Enw

EDUC0188