Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Cyrhaeddiad disgyblion ym mlwyddyn 11 / 15 oed mewn arholiadau yn ôl blwyddyn (data etifeddol)

Mae’r ciwb yma yn dangos data a gyhoeddwyd yn natganiad blynyddol Llywodraeth Cymru sef ‘Canlyniadau Arholiadau’. O 2018/19 mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno set newydd o fesurau perfformiad sy'n cynnwys y sgôr pwyntiau Llythrennedd, y sgôr pwyntiau Rhifedd a'r sgôr pwyntiau Gwyddoniaeth. Ar gyfer y mesurau newydd hyn gweler y tabl ‘Mesurau Interim Cyfnod Allweddol 4 gan yr AALl, o 2018/19’.

None

Metadata

Ansawdd ystadegol

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r ciwb yma yn dangos data a gyhoeddwyd yn natganiad blynyddol Llywodraeth Cymru sef ‘Canlyniadau Arholiadau’. Y mae’n darparu gwybodaeth ar ganran y disgyblion ym mlwyddyn 11 / 15 oed a gyflawnodd cymwysterau yn y pynciau craidd (Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf, mathemateg a gwyddoniaeth). Mae’r datganiad blynyddol yn dangos y data yma ar lefel Cymru; yn y tabl yma, dangosir y ffigyrau ar gyfer consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Am fwy o wybodaeth gweler y dolenni gwe.

Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan sefydliadau dyfarnu ar gyfer yr ymarfer perfformiad ysgol, ac maent wedi'u gwirio gan ysgolion. Mae mwy o wybodaeth am gasglu a chyfrifo'r data hwn yn yr adran nodiadau yn y cyhoeddiad Canlyniadau Arholiadau (gweler y dolenni gwe)

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Mae'r data a ddangosir yn cael ei gasglu'n flynyddol ar ôl cwblhau'r arholiadau diwedd blwyddyn. Dangosir y data o 1996 ymlaen ac mae'n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn i ddangos canlyniadau'r flwyddyn academaidd ddiweddaraf. Mae pob blwyddyn yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd, er enghraifft o 1 Medi 2014 tan 31 Awst 2015.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

I gael mwy o wybodaeth, gweler yr adran nodiadau yn y cyhoeddiad Canlyniadau Arholiadau (gweler y dolenni gwe)

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Os yn briodol, mae rhifau wedi'u talgrynnu i 1 pwynt degol

Teitl

Canlyniadau arholiadau CA4 - Mesurau Perfformiad Allweddol

Diweddariad diwethaf

Rhagfyr 2018 Rhagfyr 2018

Diweddariad nesaf

-

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cronfa Ddata Arholiadau Cymru, Llywodraeth Cymru (drwy Sefydliadau Dyfarnu a chorff Casglu data o dan gontract)

Ffynhonnell 2

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC), Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

TGAU; Trothwyon lefel; CA4