Mesurau Interim CA4 yn ôl Rhyw, o 2018/19
Mae’r ciwb yma yn dangos data a gyhoeddwyd yn natganiad blynyddol Llywodraeth Cymru sef ‘Canlyniadau Arholiadau’. Y mae’n darparu gwybodaeth ar ganran y disgyblion ym mlwyddyn 11 a gyflawnodd cymwysterau yn y pynciau craidd (Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf, mathemateg a gwyddoniaeth). Mae’r datganiad blynyddol yn dangos y data yma ar lefel Cymru; yn y tabl yma, dangosir y ffigyrau ar gyfer consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. O 2017 ymlaen, bydd uchafswm o 2 gymhwyster galwedigaethol (hynny yw, cymwysterau nad ydynt yn TGAU) yn cyfrif tuag at fesurau trothwy, yn ddibynnol ar faint y cymhwyster (hynny yw, dim mwy na 40% o'r trothwy). Am fwy o wybodaeth gweler y dolenni gwe.
Metadata
Mae’r ciwb yma yn dangos data a gyhoeddwyd yn natganiad blynyddol Llywodraeth Cymru sef ‘Canlyniadau Arholiadau’. Y mae’n darparu gwybodaeth ar ganran y disgyblion ym mlwyddyn 11 a gyflawnodd cymwysterau yn y pynciau craidd (Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf, mathemateg a gwyddoniaeth). Mae’r datganiad blynyddol yn dangos y data yma ar lefel Cymru; yn y tabl yma, dangosir y ffigyrau ar gyfer consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Am fwy o wybodaeth gweler y dolenni gwe.
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan sefydliadau dyfarnu ar gyfer yr ymarfer perfformiad ysgol, ac maent wedi'u gwirio gan ysgolion. Mae mwy o wybodaeth am gasglu a chyfrifo'r data hwn yn yr adran nodiadau yn y cyhoeddiad Canlyniadau Arholiadau (gweler y dolenni gwe)
Blynyddol
Mae'r data a ddangosir yn cael ei gasglu'n flynyddol ar ôl cwblhau'r arholiadau diwedd blwyddyn. Dangosir y data o 2017 ymlaen ac mae'n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn i ddangos canlyniadau'r flwyddyn academaidd ddiweddaraf. Mae pob blwyddyn yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd, er enghraifft o 1 Medi 2018 tan 31 Awst 2019.
I gael mwy o wybodaeth, gweler yr adran nodiadau yn y cyhoeddiad Canlyniadau Arholiadau (gweler y dolenni gwe)
Os yn briodol, mae rhifau wedi'u talgrynnu i 1 pwynt degol
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.
TGAU; Trothwyon lefel; CA4