Staff cymorth (cyfrif pennau) yn ôl awdurdod lleol a chategori staff
None
|
Metadata
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY).Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data ysgolion yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC) a gyflwynir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Mae data ysgolion yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC) a gyflenwir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Yn 2019, ni chyflwynodd 4 ysgol o blith y 1,502 o ysgolion ddatganiad Ysgol ar gyfer y CBGY (cyfradd gyflwyno o 99.7%). Ar gyfer yr ysgolion hyn, cafodd cyfanswm nifer y staff ei amcangyfrif gan ddefnyddio ffactor graddio drwy gymharu nifer y staff a gofnodwyd yn y CBGY a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ag ysgolion â nodweddion tebyg yn yr un awdurdod lleol. Mae'r amcangyfrifon yn ôl nodweddion staff penodol (e.e. rhyw, oedran) ar gyfer yr ysgolion hyn wedi’u cofnodi yn ‘anhysbys’.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
O 2019/20 ymlaen.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gan mai casgliad ar lefel unigol yw'r CBGY, mae'n bosibl y bydd achosion lle bydd aelod o'r gweithlu wedi'i gofnodi yn erbyn nifer o rolau yn yr un ysgol neu mewn nifer o ysgolion. O ran cyfrif pen staff awdurdodau lleol, fel rhan o'r broses gysylltu a chyfuno, caiff gwybodaeth yr athrawon hynny sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) ei chyfuno'n un cofnod ar gyfer pob awdurdod lleol y maent yn ymddangos ynddo, a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr athro unigol hwnnw.O ran y cyfrif pen ar lefel Cymru, caiff yr un rhesymeg ei chymhwyso lle caiff gwybodaeth athrawon sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) mewn awdurdodau lleol gwahanol ei chyfuno'n un cofnod, a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr athro unigol hwnnw.
Felly, lle y caiff gwybodaeth ei chyhoeddi gan awdurdod lleol, efallai na fydd y ffigur ar gyfer awdurdodau lleol yn cyfateb i'r ffigur a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru.
O ganlyniad i newidiadau yma yn y fethodoleg i gyfrifo cyfrif pennau, nid yw’r ffigurau ar gyfer 2019 yn gymharol i ffigurau blynyddoedd dilynol. Gweler ein datganiad ystadegol ‘Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion’ ac ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ ar gyfer manylion pellach.