

None
|
Metadata
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY).Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data ysgolion yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC) a gyfllwynir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Tachwedd bob blwyddyn.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
O 2019/20 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Ar gyfer data 2020, cyflwynwyd y mesurau Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) a Cyfwerth â Pherson Llawn (FPE) er mwyn helpu esbonio dosbarthiad y gweithlu ysgol. Mae’r FTE ac FPE yn cymryd i ystyriaeth bod posib i unigolyn weithio mewn mwy nag un swydd. Mae’r mesuriadau yma yn wahanol i’r cyfrif pen (a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar gyfer data 2019) sydd yn cyfri unigolion yn erbyn eu swydd uchaf yn unig.Mesur o oriau cytunedig gweithiwr wedi rhannu ag oriau amser llawn wythnosol y cyflogwr yw FTE (e.e. mae gweithiwr rhan-amser sy’n gweithio 20 awr yr wythnos lle mae’r gwaith amser llawn yn 40 awr yn cyfri fel 0.5 FTE).
Mae’r FPE yn dangos y gyfran o gyfanswm amser gweithio unigolyn ar gyfer rôl benodol. Gan fod yr FPE yn ymwneud â’r unigolyn ei hun, mae FPE unigolyn yn symio i 1 bob tro, hyd yn oed lle nad yw FTE yr unigolyn yn hafal i 1.