Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY).
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data cyflogau athrawon yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY) ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Mae'r yn cael eu cwblhau gan awdurdodau lleol ac ysgolion sydd wedi'u heithrio o gytundebau lefel gwasanaeth gyda'u awdurdod lleol.
Mae gwybodaeth am gyflogau (gan gynnwys cyflog cyfartalog a dosbarthiad ar draws yr ystodau cyflog) yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd yn natganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY. Cafodd cofnodion o'r datganiad hwn eu cysylltu â datganiad Ysgol y CBGY gan ddefnyddio'r set ddata ofynnol i ddarparu dadansoddiad fesul sector ysgol (h.y. cynradd, uwchradd, ac ati). Lle nad oedd cofnod cyfatebol yn natganiad Ysgol y CBGY, mae'r sector wedi'i gofnodi fel 'Arall'.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
* = ffigurau yn fwy na 0 ond llai na 5. Mae niferoedd athrawon wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf.
Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer 2019, 2020, 2021 a 2022 wedi ymgymryd â chyfnod dilysu ffurfiol terfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau. Ystyrir cyflwyno cyfnod dilysu terfynol ar gyfer casgliadau yn y dyfodol er mwyn galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i adolygu'r wybodaeth a gyflwynir ganddynt, ac ailgyflwyno data lle y caiff gwallau eu nodi cyn cyhoeddi.