Mae’r fethodoleg i gyfrifo’r nifer o swyddi gwag a’r nifer cyfartaledd o geisiadau am bob swydd wedi’u diwygio ers llynedd fel bod pob swydd wag wedi’u hysbysebu ond yn cael eu cyfri unwaith. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yn ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’.
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY).
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data ysgolion yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC) a gyfllwynir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Tachwedd bob blwyddyn.
* = ffigurau yn fwy na 0 ond llai na 3. Mae niferoedd athrawon wedi'u talgrynnu i'r 3 agosaf.
Ansawdd ystadegol
Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer 2021 i 2023 wedi ymgymryd â chyfnod dilysu ffurfiol terfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau. Ystyrir cyflwyno cyfnod dilysu terfynol ar gyfer casgliadau yn y dyfodol er mwyn galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i adolygu'r wybodaeth a gyflwynir ganddynt, ac ailgyflwyno data lle y caiff gwallau eu nodi cyn cyhoeddi.