Athrawon yn ôl mesur (cyfrif pennau, cyfwerth â pherson llawn ac oriau) a pynciau a ddysgir
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Athrawon yn ôl mesur (cyfrif pennau, cyfwerth â pherson llawn ac oriau) a pynciau a ddysgirDiweddariad diwethaf
Awst 2024Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2025 (i'w gadarnhau)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu YsgolCyswllt ebost
EducationWorkforceData@gov.walesDynodiad
Ystadegau arbrofolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY).Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data ysgolion yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC) a gyfllwynir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Tachwedd bob blwyddyn.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
O 2019/20 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae’r wybodaeth ar y pynciau a ddysgir yn seiliedig ar amserlen dros bythefnos arferol yr ysgol. Mae’r ffigurau'n cynnwys athrawon sy’n dysgu disgyblion blwyddyn 7 ac uwch yn unig.Ar gyfer y cyfrif pennau yn ôl pwnc, mae athrawon yn cael eu cyfri unwaith yn erbyn pob pwnc maent yn dysgu. Yn y cyfanswm, mae athrawon yn cael eu cyfri unwaith yn unig, pa bynnag nifer o bynciau maent yn dysgu. Felly, ni fydd swm y pynciau yn hafal i’r cyfanswm.
Ar gyfer cyfrifo FPE, mae athrawon yn cael eu rhannu yn ôl y gyfran o amser maent yn gwario yn dysgu pwnc penodol. Os mae athro yn gwario hanner ei amser yn dysgu Saesneg a hanner ei amser yn dysgu Drama, ar gyfer yr FPE maent yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob pwnc ac fel 1 yn y cyfanswm. Yn y cyfrif pen, bydd yr athro yma yn cyfri fel 1 yn erbyn bob pwnc ac fel 1 yn y cyfanswm. Ar lefel pwnc, y mwyaf tebyg yw’r cyfrif pen a’r FPE, y mwyaf y posibiliad o athrawon yn dysgu’r pwnc hynny yn unig, ac o bosib yn awgrymu mwy o arbenigedd yn y pwnc.
Mae'r oriau yn adlewyrchu cyfanswm yr oriau a ddysgir yn yr amserlen dros bythefnos. Mae’r tri mesur yn gymharol a’i gilydd.