

Mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar gleifion sy’n cael eu trin gan ddeintyddion y GIG yng Nghymru (waeth beth fo’u gwlad breswyl).
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer cleifion sy'n cael eu trin (oedolion, plant, a phob claf) mewn cyfnod treigl o 24 mis.Mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar gleifion sy’n cael eu trin gan ddeintyddion y GIG yng Nghymru (waeth beth fo’u gwlad breswyl).
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae 'cleifion sy'n cael eu trin' yn cyfrif nifer y cleifion unigryw sydd wedi cael eu trin yn ystod y 24 mis diwethaf; Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif hyd yn oed os ydynt wedi derbyn sawl cyfnod o ofal dros y cyfnod.
Defnyddir cyfnod o 24 mis ar gyfer yr ystadegau hyn gan fod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw’n ôl i gael archwiliadau bob tri mis i 24 mis, yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi oedolion sy'n cael eu trin, dylai'r prif fesur ystadegol fod yn seiliedig ar blant sy'n cael eu trin mewn cyfnod o 24 mis.
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data sy'n seiliedig ar gyfnod o 24 mis. Dangosir data hefyd ar gyfer plant ar gyfer cyflawnrwydd ac mae hyn yn caniatáu mesur cyfanswm yr holl gleifion (oedolion + plant).
Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru ac felly mae’n effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a blwyddyn ariannol lawn 2020-21 ymlaen.
Mae’r newid i ffiniau byrddau iechyd wedi effeithio ar niferoedd y cleifion a driniwyd o fewn cyfnod o 24 mis, ar ôl i Ben-y-bont ar Ogwr symud i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ar 1 Ebrill 2019. Mae’r set ddata yn cyfrif unigolion unigryw a ddefnyddiodd wasanaethau deintyddol yn y cyfnod o 24 mis. Pan fo unigolyn wedi defnyddio gwasanaethau deintyddol fwy nag unwaith yn y cyfnod o 24 mis yn yr un bwrdd iechyd, dim ond manylion y driniaeth ddiwethaf a fyddai’n cael eu cyfrif yn y set ddata er mwyn osgoi ei gyfrif ddwywaith. Serch hynny, gan fod data yn cael eu casglu dros gyfnod o 24 mis lle mae ffin bwrdd iechyd wedi newid, mae’n bosibl y caiff yr un unigolyn ei gyfrif ym mwrdd iechyd blaenorol Pen-y-bont ar Ogwr (Abertawe Bro Morgannwg) a’i fwrdd iechyd newydd (Cwm Taf Morgannwg neu Fae Abertawe) gan ddibynnu ar ddyddiad y driniaeth ddiwethaf. Er enghraifft, os cafodd claf ei drin ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Chwefror 2019 ac eto ym mis Mai 2019, bydd yn cael ei gyfrif yn nata Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mawrth 2019 ond data Cwm Taf Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mehefin 2019 ymlaen. Ac os cafodd claf ei drin ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2019 ac nid yw wedi mynd at ddeintydd ers hynny, bydd yn cael ei gyfrif yn nata Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mawrth 2019, a data Bae Abertawe ar gyfer rhestr mis Mehefin 2019 ymlaen. I roi ffigur sy’n adlewyrchu’r sefyllfa yn well ar gyfer canran y cleifion a driniwyd (cyfanswm, oedolion a phlant), mae amcangyfrifon o boblogaeth y byrddau iechyd newydd wedi’u creu gan ddefnyddio data ychwanegol cleifion a driniwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl 1 Ebrill 2019 (ffynhonnell: Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG). Er enghraifft, o blith y cleifion a driniwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae data ar gyfer Gorffennaf-Medi 2019 yn dangos y cafodd 56% driniaeth ar ôl 1 Ebrill 2019 yng Nghwm Taf Morgannwg. Felly, ar gyfer y 24 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2019, dyma’r amcangyfrifon o’r enwadur ar gyfer y byrddau iechyd newydd:
Poblogaeth gymwys Bae Abertawe = Abertawe + Castell-nedd Port Talbot + ((0.44) * Pen-y-bont ar Ogwr)
Poblogaeth gymwys Cwm Taf Morgannwg = Rhondda Cynon Taf + Merthyr Tudful + ((0.56) * Pen-y-bont ar Ogwr)
Data ar gyfer y cyfnod o 24 mis a ddaw i ben ym mis Ebrill 2021 fydd y cyfnod amser cyntaf na fydd y newid i’r ffiniau yn effeithio ar ei ddata. Cynghorir gofal wrth ddefnyddio’r data ar gyfer y cyfnodau amser sy’n cwmpasu’r newid i ffiniau’r byrddau iechyd.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer cleifion a welwyd yn ystod y 2 flynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2009 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.Teitl
Cleifion y GIG sy'n cael eu trin mewn cyfnod o 24 mis (oedolion a phlant) yn ôl bwrdd iechyd lleolDiweddariad diwethaf
12 Rhagfyr 2024Diweddariad nesaf
Chwefror 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGFfynhonnell 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Deintyddol;Gwasanaethau Deintyddol y GIG; Cleifion wedi cael eu trin
Dolenni'r we
Mae canllawiau NICE yn argymell bod plant yn cael eu galw yn ôl am archwiliadau ar gyfnodau o 3 mis i 12 mis yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi plant sy'n cael eu trin, dylai'r prif fesur ystadegol fod yn seiliedig ar plant sy'n cael eu trin mewn cyfnod o 12 mis. Mae'r holl ddata ar sail 12 mis yn cael ei ddangos yng nghiwb HLTH0504 StatsCymru ar y ddolen yma: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Health-and-Social-Care/General-Dental-Services/Current-Contract/nhspatientstreatedina12monthperiodforadultsandchildren-by-localhealthboard-patienttypehttps://www.llyw.cymru/gwasanaethau-deintyddol-gig
https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2021-09/gwasanaethu-deintyddol-gig-adroddiad-ansawdd.pdf