Y sawl sy’n gadael gofal ar eu pen-blwydd yn 19 yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol a nifer neu ganran sy’n cadw mewn cysylltiad
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn y ddolen i'r we a nodir.
Allweddeiriau
Plant; Plant sy'n derbyn gofal; Rhai sy'n gadael gofal
Disgrifiad cyffredinol
Oddi 2016-17, cesglir data plant sy’n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn bellach drwy’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal. Mae hwn wedi disodli’r setiau data sy'n bodoli eisoes Plant sy’n Derbyn Gofal (SSDA903), Mabwysiadau Plant sy'n Derbyn Gofal (AD1), Cymwysterau Addysgol y rhai sy'n Gadael Gofal (OC1) a'r rhai sy'n Gadael Gofal ar eu 19eg pen-blwydd (OC3).
Oddi 2016-17 ymlaen, ni chofnodir mwyach deilliannau ar gyfer pobl sy'n gadael gofal ar eu 19eg penblwydd.
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno ffigurau ynglyn â rhai sy'n gadael gofal awdurdod lleol. Mae'r plant sy'n derbyn gofal yn cynnwys y rhai ar orchmynion gofal a phlant eraill sy'n derbyn llety gan eu hawdurdod lleol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Caiff data di-enw am blant unigol eu cymryd o systemau gweinyddu awdurdodau lleol a'u dychwelyd yn electronig i'r Tîm Casglu Data yn Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio system ddiogel o drosglwyddo data ar-lein o'r enw 'AFON'. Mae system AFON yn defnyddio cyfres o archwiliadau dilysu i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn defnyddio'r codau cywir a'i bod yn gyson yn fewnol.
Dangosir y data ar 31 Mawrth ar gyfer pob blwyddyn o 2003.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn y ddolen i'r we a nodir.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Cymerwyd y camau canlynol i leihau'r risg o ddatgelu data personol heb fod eisiau: Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Pan fo llai na phump o blant mewn unrhyw grwp, mae'r union nifer wedi'i hepgor a'r symbol * wedi'i nodi yn ei le.