

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Oddi 2016-17, cesglir data plant sy’n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn bellach drwy’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal. Mae hwn wedi disodli’r setiau data sy'n bodoli eisoes Plant sy’n Derbyn Gofal (SSDA903), Mabwysiadau Plant sy'n Derbyn Gofal (AD1), Cymwysterau Addysgol y rhai sy'n Gadael Gofal (OC1) a'r rhai sy'n Gadael Gofal ar eu 19eg pen-blwydd (OC3).Mae'r tabl hwn yn cyflwyno ffigurau am blant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol Cymru. Mae plant sy'n derbyn gofal yn cynnwys y rhai ar orchmynion gofal a phlant eraill y mae eu hawdurdod lleol yn darparu llety iddynt. Mae rhai plant hefyd yn rhai sy'n derbyn gofal oherwydd bod yr awdurdod lleol yn darparu llety i ddibenion gofal seibiant - nid yw'r ffigurau yn y tabl hwn yn cynnwys y plant hyn.