Casglodd y cyfrifiad gofnodion unigol ynglyn â phob plentyn mewn angen, gan gynnwys y rhai hynny sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a oedd ag achos agored gydag awdurdod lleol ar 31 Mawrth a hwnnw wedi bod yn agored am y tri mis o 1 Ionawr hyd 31 Mawrth. Diben y cyfrifiad yw casglu data sy'n mesur nodweddion a phriodweddau plant mewn angen sy'n derbyn gwasanaethau cymdeithasol gan eu hawdurdod lleol, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Mae'r cyfrifiad wedi canolbwyntio'n benodol ar ddata ynglyn â'r rheswm pam y mae plant yn derbyn cymorth gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol; gallu'r rhieni; a chanlyniadau iechyd ac addysg pob plentyn.
Casgliad data a dull cyfrifo
Caiff data di-enw am blant unigol eu cymryd o systemau gweinyddu awdurdodau lleol a'u dychwelyd yn electronig i'r Tîm Casglu Data yn Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio system ddiogel o drosglwyddo data ar-lein o'r enw 'AFON'. Mae system AFON yn defnyddio cyfres o archwiliadau dilysu i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn defnyddio'r codau cywir a'i bod yn gyson yn fewnol.
Dangosir y data ar 31 Mawrth ar gyfer pob blwyddyn o 2010.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn y ddolen i'r we a nodir.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Cymerwyd y camau canlynol i leihau'r risg o ddatgelu data personol heb fod eisiau: Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Pan fo llai na phump o blant mewn unrhyw grwp, mae'r union nifer wedi'i hepgor a'r symbol * wedi'i nodi yn ei le.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Adolygwyd y data ar gyfer 2010 hyd 2016 ar 16 Rhagfyr 2021.
Teitl
Plant mewn angen ar 31 Mawrth yn ôl oedran, rhyw, statws derbyn gofal ac ethnigrwydd, gan gynnwys plant heb eu geni