Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Arbrofol Plant mewn angen fesul 10,000 o'r boblogaeth yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn
None

Metadata

Teitl

Plant mewn angen ar 31 Mawrth fesul 10,000 o'r boblogaeth o dan 18 oed fesul awdurdod lleol

Diweddariad diwethaf

16 Rhagfyr 2021 16 Rhagfyr 2021

Diweddariad nesaf

Diweddaru mwyach

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth

Ffynhonnell 2

Casgliad data am gyfrifiad plant mewn angen (CiN), Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau arbrofol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Plant; Plant mewn angen

Ansawdd ystadegol

Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn y ddolen i'r we a nodir.

Disgrifiad cyffredinol

Casglodd y cyfrifiad gofnodion unigol ynglyn â phob plentyn mewn angen, gan gynnwys y rhai hynny sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a oedd ag achos agored gydag awdurdod lleol ar 31 Mawrth a hwnnw wedi bod yn agored am y tri mis o 1 Ionawr hyd 31 Mawrth. Diben y cyfrifiad yw casglu data sy'n mesur nodweddion a phriodweddau plant mewn angen sy'n derbyn gwasanaethau cymdeithasol gan eu hawdurdod lleol, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Mae'r cyfrifiad wedi canolbwyntio'n benodol ar ddata ynglyn â'r rheswm pam y mae plant yn derbyn cymorth gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol; gallu'r rhieni; a chanlyniadau iechyd ac addysg pob plentyn.

Casgliad data a dull cyfrifo

Caiff data di-enw am blant unigol eu cymryd o systemau gweinyddu awdurdodau lleol a'u dychwelyd yn electronig i'r Tîm Casglu Data yn Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio system ddiogel o drosglwyddo data ar-lein o'r enw 'AFON'. Mae system AFON yn defnyddio cyfres o archwiliadau dilysu i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn defnyddio'r codau cywir a'i bod yn gyson yn fewnol.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir y data ar 31 Mawrth ar gyfer pob blwyddyn o 2010.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn y ddolen i'r we a nodir.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Cymerwyd y camau canlynol i leihau'r risg o ddatgelu data personol heb fod eisiau: Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Pan fo llai na phump o blant mewn unrhyw grwp, mae'r union nifer wedi'i hepgor a'r symbol * wedi'i nodi yn ei le.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Adolygwyd y data ar gyfer 2010 hyd 2016 ar 16 Rhagfyr 2021.