Asesiadau yn ôl awdurdod lleol a mesur
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Cesglir yr wybodaeth er mwyn gwybod nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth, neu'r gofalwyr ifanc sy'n derbyn cymorth, sydd wedi cael eu hasesu drwy'r broses asesu newydd a ddisgrifir yn Rhan 3 (Asesu Anghenion Unigolion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dyma'r un broses asesu y cyfeirir ati o dan Ran 6 (Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya).Yn ôl eu trefn, dim ond data hyd at y 13eg o Chwefror 2018 a’r 6ed o Fawrth 2018 roedd Caerffili a Chasnewydd yn gallu darparu. Roedd hyn o ganlyniad i fudiant y ddau awdurdod lleol i system TGCh newydd yn ystod y flwyddyn..
Casgliad data a dull cyfrifo
Er bod ymdrechion mawr wedi bod i gasglu gwybodaeth gywir a dibynadwy o awdurdodau lleol, mae data ar gyfer 2016-17, 2017-18 a 2018-19 dal i fod yn amherffaith.Yn 2017-18, dim ond hyd at 13 Chwefror 2018 a 6 Mawrth 2018, yn ôl eu trefn, roedd Caerffili a Casnewydd yn gallu darparu data. Roedd hyn oherwydd i'r ddau awdurdod lleol newid i system TGCh newydd yn ystod y flwyddyn.
Nid oedd Bro Morgannwg wedi gallu darparu data ar gyfer 2017-18, oherwydd problemau technegol gyda'u systemau TGCh.