Neidio i'r cynnwys

Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol

O 2020-21, cesglir metrigau manwl o dan yr elfen Mesur gweithgarwch a pherfformiad o’r fframwaith perfformiad a gwella'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r data a gesglir yn yr elfen hon o'r fframwaith yn rhoi cipolwg ar y ffactorau sy'n cyfrannu at ddeall gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth am yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud, pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a data ar y bobl y mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda.