Amcangyfrifon o ardrethi annomestig yn ôl awdurdod (£ mil)
Darparwyd amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 gan awdurdodau lleol ym mis Chwefror 2020 ac felly nid ydynt yn ystyried unrhyw effaith bosibl a gaiff y pandemig COVID-19 ar y sylfaen drethi.
Cyllid Llywodraeth Leol, amcangyfrifon ardrethi annomestig
Disgrifiad cyffredinol
Ardrethi a delir i awdurdodau bilio gan yr holl fusnesau yn ardal yr awdurdod hwnnw yw ardrethi annomestig (NDR). Ers 1 Ebrill 1990, mae'r rhain wedi eu seilio ar ardreth fusnes unffurf ledled Cymru a elwir yn buntdal cenedlaethol sengl a osodir gan lywodraeth ganolog. Defnyddir y puntdal cenedlaethol hwn gyda gwerth ardrethol pob eiddo annomestig i bendrefynu ar y bil ar gyfer yr eiddo hwnnw. Mae awdurdodau bilio yn talu'r ardrethi annomestig a gesglir i gronfa ganolog a chânt eu rhannu i ddechrau rhwng cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau heddlu ac yna eu hailddosbarthu rhwng pob awdurdod yn unol â chyfrannau o'r boblogaeth sy'n oedolion. Disodlodd hon y system flaenorol pan yr oedd awdurdodau bilio yn gosod eu cyfraddau eu hunain ac yn cadw'r ardrethi a oedd yn berthnasol i'r holl fusnesau yn eu hardal.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma trwy ffurflenni blynyddol a ddychwelir gan Awdurdodau Lleol Cymru.